Ymunwch â staff ac ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn ystod 24 - 28 Gorffennaf 2023 am bum niwrnod o sgyrsiau arbenigol a diddorol ym maes Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd a draddodir drwy gyfrwng y Saesneg. O foeseg deallusrwydd artiffisial (AI) i foeseg canibaliaeth; o'r berthynas rhwng Paganiaeth ac LHDTC+ i a yw Jediiaeth yn grefydd newydd; ac o’r ymatebion Iddewig i’r Holocost i'r cwestiwn pam astudio athroniaeth, bydd yr Ysgol Haf hon yn rhoi blas i ddarpar fyfyrwyr a phawb sydd â diddordeb mewn Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd o’r mathau o bynciau yr ydym yn eu harchwilio ym Mangor ac y mae ein staff a’n hymchwilwyr yn eu datblygu'n academaidd.
Dywed Dr Gareth Evans-Jones, a fydd yn cyflwyno sesiynau yn ystod yr wythnos, 'Bydd hwn yn gyfle cyffrous i ddangos i ddarpar fyfyrwyr yr hyn rydym yn ei ddysgu ym Mangor a'r meysydd rydym wrthi'n eu hymchwilio. Fel y mae'r amserlen yn dangos, mae ein meysydd diddordeb yn amrywiol iawn a dyna un o gryfderau mawr y radd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd a'r gymuned ym Mangor.'
I gofrestru lle yn yr Ysgol Haf sy'n rhad ac am ddim, llenwch y ffurflen ganlynol erbyn ddydd Iau 20 Gorffennaf 2023: https://forms.office.com/e/K3raF6mJB1
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Dr Joshua Andrews: j.andrews@bangor.ac.uk.