Ysgrifennu Creadigol ym Mangor: Dathlu Lansio Llyfrau
Bydd dwy o raddedigion diweddar MA Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Bangor, Gwenno Gwilym a Katrina Moinet, yn dathlu lansio cyhoeddiadau newydd am 6 o’r gloch nos Fawrth 10 Rhagfyr yng nghyntedd Prif Adeilad y Celfyddydau.
Mae nofel ddwyieithog Gwenno Gwilym V+ Fo (Gwasg y Bwthyn) yn bortread dilyffethair o fywyd a chariad cyfoes yn y Gymru ddwyieithog. Fel y dywed yr adolygiad yn Nation Cymru: Bob hyn a hyn mae nofel yn ymddangos sy’n chwa o awyr iach. Meddai Dr Alys Conran: “Yn gynyddol, nid yw ysgrifenwyr dwyieithog ar ein cyrsiau yn rhoi’r naill iaith o’r neilltu er mwyn ysgrifennu yn eu hiaith/ieithoedd eraill, ac maent yn gwybod y gall y naill iaith ddod ag egni i’r llall a’i goleuo. Mae creadigrwydd dwyieithog yn ddewis creadigol dilys a chynhyrchiol, a dyma'r realiti i lawer o'n myfyrwyr a'n staff. Mae’n hyfryd gweld awdur newydd hynod ddiddorol fel Gwenno Gwilym yn dod â’i holl ddisgleirdeb creadigol i’r portread hwn o fywyd cyfoes a chariad trwy’r ddwy iaith. Bydd darllenwyr wrth eu bodd â'r llyfr hwn."
Mae casgliad barddoniaeth Katrina Moinet Portrait of a Young Girl Falling (Hedgehog Press) yn trafod nwyd a chydsyniad trwy amrywiaeth o ffurfiau arloesol a delweddau gweledol. Meddai’r Athro Skoulding: “Mae dyfeisgarwch ac egni aruthrol y cerddi hyn yn rhan o’r gwaith o wneud lle i ffyrdd newydd o feddwl a bod. Dyma waith y mae Katrina yn ymroi’n llwyr iddo, nid yn unig trwy ysgrifennu, ond trwy greu cyfleoedd i feirdd eraill yr ardal.” Mae Katrina wedi sefydlu cymuned o awduron lleol trwy gynnal Versify, noson meic agored fisol yng Nghaffi Blue Sky Bangor. Ers iddi gwblhau’r MA, mae hi wedi cael llwyddiant mewn sawl cystadleuaeth ac mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd pamffled newydd arobryn yn cael ei gyhoeddi gan Hedgehog Press yn 2025.
Bydd y digwyddiad lansio yn cael ei gyflwyno gan Dr Alys Conran a’r Athro Zoë Skoulding, sydd ill dau’n dysgu ar yr MA mewn Ysgrifennu Creadigol (Saesneg), a bydd yn cynnwys darlleniadau byr a thrafodaeth gyda Gwenno a Katrina.
Mae croeso i bawb.