Fy ngwlad:

Gwybodaeth Bwysig ar gyfer y Diwrnod Agored

Dyma lle cewch gyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y Diwrnod Agored, lle i barcio pan fyddwch wedi cyrraedd, a llefydd i aros yn ystod eich ymweliad.

Ar y ffordd

Bydd Cod Post LL57 2DG yn dod â chi i Brif Adeilad y Brifysgol, man cychwyn y Diwrnod Agored. Mae sawl maes parcio yn agos i'r Brif Adeilad y Brifysgol a hefyd yng nghanol y ddinas, ar Ffordd Deiniol. 

Os dilynwch arwyddion y Diwrnod Agored o amgylch Bangor a byddwch yn cyrraedd un o'n meysydd parcio (lle mae parcio yn rhad ac am ddim). Yna bydd tywyswyr y Diwrnod Agored yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i gyrraedd y man cofrestru yn y Brif Adeilad. 

Ar y tren neu fws

Ewch i wefan Trainline  a Traveline Cymru am wybodaeth am drafnidiaeth cyhoeddus.

Mae pario ym meysydd parcio y Brifysgol yn rhad ac am ddim. Mae cyfleusterau Parcio a Theithio wedi cael eu trefnu ar gyfer y Diwrnod Agored – bydd arwyddion i’r safle Parcio a Theithio o ffyrdd yr A55/A5 wrth ddynesu at y Brifysgol, a threfnwyd bysus i gludo ymwelwyr y pellter byr i brif adeiladau’r Brifysgol o 8.30am-10.30am. Gall ymwelwyr hefyd barcio yn unrhyw un o feysydd parcio swyddogol y Brifysgol sydd o amgylch Prif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg - ond niferoedd cyfyngedig o lefydd sydd ar gael yma.

Mae Canolfan Rheolaeth y Brifysgol yn cynnig llety 4*. Mae ystafelloedd sengl hefyd ar gael yn ein llety en-suite ar y campws - archebwch ar ein gwefan. I’r rheiny ohonoch sy’n dymuno gwneud eich trefniadau eich hunain, ewch i wefan Twristiaeth Gogledd Cymru