Chwarel gwenithfaen Trefor, Llŷn

Taith Rithiol Trefor

Mae penrhyn Llŷn yn ymwthio allan o Massiff Eryri ac mae’r dirwedd iseldirol hon yn cael ei nodweddu gan ambell gopa gwenithfaen folcanig dramatig, sydd wedi cael eu defnyddio dros filoedd o flynyddoedd fel deunydd adeiladu. Saif un o’r copaon gwenithfaen trawiadol hyn a oedd yn ganolbwynt ar gyfer chwarela helaeth yn y cyfnod modern ar arfordir gogleddol Pen Llŷn, ychydig i’r de-orllewin o bentref Trefor. Mae gweithfeydd Gwenithfaen Trefor ar Garn Fôr, un o fryniau’r Eifl yn y lleoliad arfordirol trawiadol hwn, yn parhau i fod yn nodwedd amlwg mewn tirwedd sy’n llawn cyfoeth archaeolegol (eistedda bryngaer Tre’r Ceiri ar ben dwyreiniol Yr Eifl).

Ymgollwch mewn taith rithiol o amgylch yr heneb a’i chyffiniau. Gallwch hefyd ddarllen disgrifiad hygyrch o'r daith, a gweld map rhyngweithiol o'r gwahanol weithiau gwenithfaen o amgylch Trefor.

  • Prosiect LIVE ac Ecoamgueddfa
  • Lluniau a’r daith rithiol gan Bernd Kronmueller, Panoramas and Virtual Tours
  • Crynodebau testun o’r teithiau gan Owen Hurcum, Prifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?