Digwyddiadau Rhithiol ac Ar-lein

Ymchwilio eich opsiynau

Dewch o hyd i gwrs a phrifysgol delfrydol

Defnyddiwch wefan UCAS i edrych ar restr cyrsiau

Mae UCAS yn rhestru'r holl gyrsiau a gynigir, a gallwch chwilio yn ôl prifysgol, pwnc neu leoliad. I gael gwybodaeth sydd wedi ei deilwra a'i phersonoli, defnyddiwch hwb UCAS i gadw eich gwybodaeth mewn un lle. 

Ewch i wefannau prifysgolion

Gallwch ddarganfod pa gyrsiau sydd ar gael a gweld gwybodaeth fanwl am y cwrs, y modiwlau y gallwch eu hastudio ac opsiynau eraill a gynigir megis blynyddoedd lleoliad gwaith neu gynlluniau astudio dramor.

Gan na all prifysgolion gynnal digwyddiadau mawr ar y campws ar hyn o bryd, mae llawer yn cynnal digwyddiadau rhithwir. Mae'r rhain yn ffordd wych i chi gysylltu â darlithwyr a staff eraill a dyma'r peth gorau nesaf i fynychu diwrnod agored.

Bydd y mwyafrif o ddigwyddiadau rhithwir yn cynnwys fideos, teithuau 360 a Sgwrs Fyw gyda staff a myfyrwyr, gan gwmpasu'r holl bynciau yr hoffech chi ddarganfod amdanynt ar Ddiwrnod Agored go iawn, fel Bywyd Myfyrwyr, Cyllid Myfyrwyr a Llety.

 

Sgwrsio â myfyrwyr ar-lein

Mae llawer o brifysgolion yn caniatáu ichi gysylltu â myfyrwyr ar-lein, naill ai ar eu gwefan eu hunain neu trwy'r platfform Unibuddy ar wefan UCAS. Mae myfyrwyr cyfredol yn gwybod yn union sut yr ydych yn teimlo a gallant gynnig cyngor gwych ar astudio, bywyd myfyrwyr, llety a llawer mwy.

Dilynwch brifysgolion ar gyfryngau cymdeithasol

Gallwch ddarganfod y newyddion diweddaraf a chadw golwg ar unrhyw wybodaeth bwysig, megis pa ddigwyddiadau rhithwir sydd ar y gweill trwy edrych ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Mae Instagram a YouTube hefyd yn ffynhonnell ardderchog o bob math o fideos - o fideos myfyrwyr i rai penodol am gyrsiau. Ac edrychwch am luniau a fideos o lleoliad y brifysgol, fel y gallwch weld sut le yw'r campws a'r ardal gyfagos.

Dewch â'ch holl ymchwil at ei gilydd

Ar ôl i chi orffen eich ymchwil a'ch bod yn hapus â'ch dewisiadau prifysgol a chwrs, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch wedi'i chadw mewn un lle. Yna gallwch ddod â phopeth at ei gilydd a phwyso a mesur eich opsiynau cyn penderfynu ar eich dewisiadau terfynol ar gyfer eich Cais UCAS.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?