Croeso i Wasanaethau Digidol
Mae’r Gwasanaethau Digidol yn cefnogi systemau, mannau astudio, adnoddau ac isadeiledd digidol Prifysgol Bangor. O Wi-Fi i argraffu, adnoddau llyfrgell i ddefnyddio cyfrifiaduron am ddim, help gyda sgiliau astudio ac ymchwil, i gynnig cefnogaeth dechnegol i dimau ar draws y brifysgol: Y Gwasanaethau Digidol yw sylfaen eich holl fywyd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae tîm y Gwasanaethau Digidol yn cynnwys technegwyr technoleg gwybodaeth, llyfrgellwyr ac arbenigwyr eraill, sydd gyda’i gilydd yn gyfrifol am:
- Isadeiledd: Wi-Fi, cyfrifiaduron a'ch diogelwch technoleg gwybodaeth
- Mannau Astudio ac Offer: darlithfeydd, mannau astudio cymdeithasol a thawel ar draws y campws
- Cefnogaeth Addysgu a Dysgu: eich sgiliau astudio ac ymchwil, a'ch amgylchedd dysgu ar-lein
- Llyfrgell: yr holl adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gradd neu ymchwil
- Archifau a Chasgliadau Arbennig: casgliadau archifol at ddibenion ymchwil ac sydd ar gael i’r gymuned
- eYmchwil: cefnogaeth cyfrifiadura ymchwil ac Uwchgyfrifiadura
- Systemau Corfforaethol: cefnogaeth dechnegol i dimau ar draws y brifysgol
- Dylunio ac Argraffu: argraffu proffesiynol
Mae’r Gwasanaethau Digidol yn ymfalchïo mewn darparu’r cyfle i’r holl staff a myfyrwyr weithio mewn amgylchedd digidol o ansawdd uchel.
Fideo Croeso i Wasanaethau Digidol
Mae'r fideo canlynol yn rhoi trosolwg o Wasanaethau Digidol ac yn cynnwys gwybodaeth hanfodol am eich cyfrif, adnoddau a chyfleusterau.
Ym Mhrifysgol Bangor, mae yna nifer o wasanaethau digidol ar gael e'ch helpu yn eich astudiaethau.
Mae rhain yn cynnwys fymangor i reoli eich amserlen a'ch graddau, Eduroam sydd yn rhoi Wi-fi i chi ar draws y campws ac adnoddau ar lein fel e bost,
adnoddau llyfrgell e- lyfrau a Microsoft 365
Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau i wella eich sgiliau astudio fel rheoli amser,
ysgrifennu academaidd a pharatoi at arholiadau, yn ogystal â sgiliau llyfrgell
I'ch helpu gyda'ch ymchwil a chyfeirnodi. Mae ein offer digidol yma i wneud eich profiad fel myfyriwr yn fwy esmwyth a chysylltiol.
Er mwyn defnyddio'r codau QR yn y cyflwyniad yma,
mi fyddwch chi angen gosod y porwr gwe Microsoft Edge a dilysu aml ffactor ar eich ffôn.
Anfonwyd manylion am ddilysu aml ffactor yn eich ebost cofrestru.
Mae pob adnodd ar gael yn y Gymraeg a Saesneg.
Mae diogelwch aml ffactor yn flaenoriaeth uchel ym Mhrifysgol Bangor.
Fe ddylech fod wedi derbyn eich enw defnyddiwr yn eich ebost cofrestru a linc i greu eich cyfrinair.
Yr enw defnyddiwr@bangor.ac.uk ydi eich ebost
Prifysgol swyddogol. Da ni'n argymell defnyddio Outlook i fynd at eich cyfrif ebost. 'Da ni'n defnyddio dilysu aml ffactor i warchod eich cyfri.
Mae hyn yn ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch.
Sganiwch y Cod QR am wybodaeth ynglŷn â gosod dilysu aml ffactor, creu cyfrinair cryf a defnydd derbyniol o'ch
cyfri technoleg gwybodaeth ac adnoddau digidol.
Byddwch angen mynd i nôl eich cerdyn adnabod myfyriwr. Yn ystod yr Wythnos Groeso ac Wythnos 1
gallwch ei gasglu o Neuadd Powis ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Ar ôl hynny,
neu os oes gennych unrhyw broblem gyda'r cerdyn neu angen un arall, ewch i'r ddesg yn y llyfrgell.
Mae eich cerdyn adnabod yn rhoi mynediad i wasanaethau llyfrgell, adeiladau, ystafelloedd cyfrifiadurol ac argraffwyr.
Cofiwch bydd angen prynu credydau i fedru argraffu.
Mae'r cerdyn hefyd yn cynnig gostyngiad myfyriwr mewn rhai siopau Sganiwch y Cod QR i ddod o hyd i'r Llyfrgell ar fapiau Google.
FyMangor yw'r lle i reoli gwybodaeth bwysig ym Mhrifysgol Bangor.
FyMangor sydd yn dangos eich amserlen, eich marciau terfynol a'ch manylion ariannol.
Gallwch hefyd defnyddio fyMangor i newid eich cyfrinair a phrynu credydau argraffu. Yma hefyd bydd lle i ddarllen newyddion y Brifysgol,
digwyddiadau a llawer mwy. Tra ym Mangor, gallwch ddefnyddio Eduroam rhwydwaith wi-fi dibynadwy sydd ar gael ar draws y campws.
Gallwch hefyd gysylltu eich peiriannau
gemau a dyfeisiadau eraill tra yn y neuaddau a hyd yn oed defnyddio Eduroam tra'n ymweld â sefydliadau eraill ar draws y byd.
Mi fydd gennych hefyd fynediad at Office 365, gan gynnwys OneDrive
gyda storfa o 10GB, Teams i gydweithio ag offer creu fel Word, PowerPoint ac Excel.
Defnyddiwch rhain ar-lein neu eu lawrlwytho e'ch dyfeisiadau eich hun am ddim drwy ddefnyddio trwydded y Brifysgol.
Mae gan fyfyrwyr fynediad i ystafelloedd cyfrifiadurol bedair awr ar hugain y dydd ym Mangor a Wrecsam.
Yn ogystal â hyn, mae'r Llyfrgell yn cynnig ardaloedd astudio tawel a pheiriannau argraffu.
Mae manylion costau ar ein safle SharePoint.
Mae Cod QR ar y dudalen yma yn mynd at dudalen SharePoint, sydd yn nodi pa gyfrifiaduron sydd ar gael ar y pryd.
Wrth i chi gychwyn ar eich astudiaethau hoffem gyflwyno Blackboard Learn ein amgylchedd dysgu rhithiol i chi.
Dym'ra lle ar gyfer holl ddeunyddiau, adnoddau ac offer eich cwrs.
Gallwch gael mynediad i Blackboard drwy fyMangor neu yn uniongyrchol drwy blackboard.bangor.ac.uk. Ar ôl i chi fewngofnodi,
fe fyddwch yn gweld yr holl fodiwlau dach chi yn eu hastudio ar y pryd.
Mae pob safle modiwl yn darparu cynnwys cwrs, recordiadau o ddarlithoedd, rhestr darllen, lle i gyflwyno gwaith i asesu a chymorth astudio ychwanegol.
Gallwch hefyd gael golwg ar eich graddau a'ch adborth
drwy Lyfr Graddau Blackboard. Mae Blackboard yn addas i'w ddefnyddio ar ffonau symudol.
Beth am lawrlwytho ap Blackboard Learn heddiw.
Alla yw'r offer i wella hygyrchedd i bob myfyriwr. Mae'n creu fformatau amgen o ddeunyddiau cwrs o fewn Blackboard.
Gallwch lawrlwytho fformatau amgen lle bynnag dach chi yn gweld yr eicon Ally.
Dewiswch y fersiwn sydd yn addas i chi. Panopto yw'r System sy'n cael ei ddefnyddio i recordio darlithoedd y Brifysgol.
Mi fydd y recordiadau wedi gosod o fewn eich cyrsiau Blackboard.
Bydd pob recordiad yn cynnwys is deitlau awtomatig.
Mae'n cael ei ddefnyddio yn aml iawn i gyflwyno traethodau.
Mae dulliau asesu eraill ym Mhrifysgol Bangor yn cynnwys profion Blackboard cwisiau, cyflwyniadau wedi recordio a fforymau trafod.
gan godi ymwybyddiaeth ynghylch disgwyliadau academaidd a helpu i ddatblygu strategaethau
a'r prosesau fydd yn gymorth i chi fanteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau.
neu gallwch archebu apwyntiad cyfrinachol wyneb yn wyneb neu ar-lein i archwilio eich ysgrifennu,
eich dulliau astudio a'ch materion mathemateg ac ystadegau. O'r myfyrwyr sydd wedi dod aton ni yn y gorffennol
mae canran uchel ohonyn nhw yn teimlo eu bod wedi cael y cyfle i siarad am eu hanghenion a bod y sesiynau wedi eu helpu i wella.
mae gan y Brif Lyfrgell amrywiaeth o lefydd astudio, gan gynnwys mannau tawel ac ardal i gydweithio.
Mae gan staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor fynediad at lyfrau print, eLyfrau e-gylchgronau a deunydd digidol arall drwy gatalog y Llyfrgell ar-lein.
Mae'n bosib mynd ato ar y campws ac oddi arno.
Mae'r catalog yn cynnig casgliad wedi ei guradu sydd yn cyd fynd ag ymchwil y Brifysgol,
gan sicrhau fod gan ddefnyddwyr fynediad at ddefnyddiau perthnasol o ansawdd uchel.
Mae r catalog yn gadael i chi fireinio chwiliadau drwy chwilio yn ôl dyddiad pwnc a fformat
er enghraifft Mae hefyd yn cynnwys offer ar gyfer arbed chwiliadau llyfrnodi eitemau a dilyn dyfyniadau.
cyfeirnodi a defnyddio offer llyfrgell mewn sesiynau cynefino mewn gweithdai a thrwy apwyntiadau.
am ragor o wybodaeth a ffurflen archebu. Os dach chi angen help gan wasanaethau digidol ym Mhrifysgol Bangor
gallwch ebostio helpdesk@bangor.ac.uk.
Gallwch ein ffonio ar 01248 388111 neu ddod i'n gweld yn y Ganolfan
Gymorth Technoleg Gwybodaeth yn y Llyfrgell sydd ar agor rhwng naw a phump o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gwybodaeth i Fyfyrwyr a Staff
Cymorth a Chefnogaeth gan Wasanaethau Digidol
Mae desg gymorth Prifysgol Bangor yn cynnig help a chyngor ar bob ymholiad sy'n ymwneud â'ch Cyfrif Prifysgol, Gwasanaethau ac Adnoddau Digidol a Gweinyddiaeth Myfyrwyr. Mae Desg Gymorth y Ganolfan Gymorth ar gael os oes angen i chi siarad ag aelod o'r tîm am gymorth.
Sut i gysylltu â Desg Gymorth Gwasanaethau Digidol
- Cyflwyno cais cymorth ar-lein: Cyflwyno Cais Desg Gymorth (nodwch rif ffôn)
- Ffoniwch ni: Ffôn / Teams ffoniwch: 01248 388111
- Dod i’n gweld: gallwch ymweld yn bersonol â'r Ddesg Gymorth yn y Llyfrgell Os na ellir datrys eich mater o bell, bydd angen i chi drefnu apwyntiad i ymweld ag ymgynghorydd yn y ganolfan gymorth yn y Brif Lyfrgell.
Gallwch gyflwyno cais cymorth ar-lein i Ddesg Gymorth ar unrhyw adeg a bydd y tîm yn cael golwg arno yn ystod oriau agor.
Mae cefnogaeth wyneb yn wyneb a dros y ffôn ar gael yn ystod oriau agor.
Mae’r Ddesg Gymorth ar agor rhwng 09.00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio’r Gwyliau Coleg safonol rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, a’r Pasg.
Gallwch ofyn am gymorth gydag unrhyw agwedd ar fywyd digidol, gwaith ac astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Eich Cyfrif, Cyfrinair a Dilysu Aml-Ffactor
Mae’r Gwasanaethau Digidol yn darparu cefnogaeth dechnegol o ran cyfrifon Staff a Myfyrwyr, gan gynnwys ymholiadau ynghylch mewngofnodi a mynediad, cyfrineiriau a Dilysu Aml-ffactor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael i staff a myfyrwyr yn: Eich cyfrif TG yn y Brifysgol: Mewngofnodi, Cerdyn Adnabod a Defnydd Derbyniol.
Angen help gyda mewngofnodi, cyfrineiriau neu eich cyfrif?
Os nad ydych yn gallu mewngofnodi neu gael mynediad at wasanaethau neu adnoddau, neu os ydych yn cael problemau gyda chyfrineiriau neu MFA, cyflwynwch gais cymorth i Wasanaethau Digidol.
Bydd gofyn i chi ddarparu prawf hunaniaeth i ni brosesu eich cais:
- Myfyrwyr: eich enw llawn, dyddiad geni, enw defnyddiwr, ID myfyriwr / Rhif baner
- Staff: eich enw llawn, dyddiad geni, rhif cyflogres, teitl swydd
Oes angen i chi ddilysu i gael mynediad i'ch cyfrif a gwasanaethau ar-lein Prifysgol Bangor?
Mae Prifysgol Bangor yn defnyddio Dilysu Aml-ffactor (MFA) i warchod eich cyfrifon rhag mynediad gan bobl heb awdurdod wrth weithio oddi ar y campws.
Pan fyddwch chi'n gweithio ar y campws, gan ddefnyddio'r rhwydwaith gwifr neu Eduroam, ni fydd angen i chi wneud dilysiad eilaidd. Mae MFA yn cael ei gymhwyso i lawer o wasanaethau'r Brifysgol gan gynnwys Office 365, Blackboard a'r datrysiad VPN.
Mae llawer o'r cymwysiadau hyn ond yn gweithio gyda'r ap Authenticator fel eich ap MFA. O'r herwydd, y dull MFA a ffafrir ar gyfer yr holl wasanaethau ledled y Brifysgol yw Authenticator.
Os nad oes gennych unrhyw ddulliau dilysu wedi'u sefydlu ar eich cyfrif ar hyn o bryd, dilynwch y camau isod.
Gosod yr ap:
- Agorwch siop apiau eich ffôn
-
Chwiliwch am ap Microsoft Authenticator
- Gosodwch yr ap ar eich ffôn
Galluogi dilysu:
Ar liniadur neu gyfrifiadur:
- Agorwch borwr gwe (yn ddelfrydol ar ddyfais wahanol e.e. eich gliniadur)
- Nodwch aka.ms/mfasetup yn y bar cyfeiriadau, PEIDIWCH â chwilio amdano gan ddefnyddio Google
- Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr Prifysgol Bangor a’ch cyfrinair
-
Fe'ch anogir bod angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol - cliciwch ar nesaf
- Dewiswch yr opsiwn defnyddio'r ap dilysu
- Byddwch yn derbyn cod QR ar y dudalen
Ar eich ffôn:
- Agorwch ap Microsoft Authenticator ar eich dyfais symudol
-
Dewiswch ychwanegu cyfrif ysgol / gwaith
- Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr Prifysgol Bangor a’ch cyfrinair
- Sganiwch y cod QR pan ofynnir amdano
- Cliciwch i gymeradwyo pan ofynnir i chi wneud hynny ar eich ffôn
Pan fyddwch chi'n mewngofnodi i'ch cyfrif, byddwch yn derbyn hysbysiad gyda rhif y bydd angen i chi ei nodi yn yr app i gymeradwyo'r mewngofnodi.
Bydd angen i chi gymeradwyo'r mewngofnodi unwaith bob 28 diwrnod ar bob dyfais newydd.
Gwybodaeth bellach gan Microsoft: Ffurfweddu MFA am y tro cyntaf i ddefnyddio Ap Authenticator
Os oes gennych chi ddull dilysu gwahanol ar hyn o bryd, a bod angen i chi newid i'r ap Authenticator, dilynwch y camau isod.
Gan dybio bod gennych fynediad i'r holl wasanaethau o hyd, byddwch yn gallu sefydlu'r ap Authenticator trwy ddilyn ychydig o gamau fel y gwelir isod. Os ydych chi'n ffurfweddu MFA am y tro cyntaf gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol wrth fewngofnodi'r tro cyntaf a dylid dewis ap Authenticator.
Install the App
-
Open the app store for your phone:
-
Search for Microsoft Authenticator app
Microsoft Authenticator app logo - Install the app on your phone
Galluogi Dilysu a newid eich dull mewngofnodi diofyn
Ar eich cyfrifiadur:
- Dewiswch 'Add Account'
- Gofynnir i chi sganio cod QR. I gyrchu'r cod QR ewch i https://mysignins.microsoft.com/security-info a mewngofnodwch ar ddyfais wahanol oherwydd bydd angen i chi allu sganio'r cod gan ddefnyddio'ch camera ffôn. I fewngofnodi bydd angen i chi ddefnyddio'ch dull MFA presennol (testun, galwad ffôn ac ati)
- Llywiwch i “Default sign in method” a chlicio newid
- Dewiswch ap Microsoft Authenticator.
-
Bydd y cod QR yn cael ei arddangos
Ar eich ffôn:
- Sganiwch y cod QR gyda'ch dyfais
- Cadarnhewch fod y rhifau symudol yn gywir fel opsiwn wrth gefn os nad yw'r ap Authenticator yn gweithio i chi.
Pan fyddwch chi'n mewngofnodi i'ch cyfrif, byddwch yn derbyn hysbysiad gyda rhif y bydd angen i chi ei nodi yn yr app i gymeradwyo'r mewngofnodi.
Bydd angen i chi gymeradwyo'r mewngofnodi unwaith bob 28 diwrnod ar bob dyfais newydd.
Gwybodaeth bellach gan Microsoft: Ffurfweddu MFA am y tro cyntaf i ddefnyddio Ap Authenticator
Os oes gennych chi ddyfais newydd ac yn dymuno gosod a galluogi'r ap Authenticator, ond heb fynediad i'r ap Authenticator ar eich hen ddyfais, bydd angen i chi gysylltu â helpdesk@bangor.ac.uk i gael cymorth i ailosod eich dilysiad.
Os ydych chi'n cael problemau gyda dilysu, cyflwynwch gais am gymorth i'r Gwasanaethau Digidol.
Bydd gofyn i chi ddarparu prawf hunaniaeth i ni brosesu eich cais:
- Myfyrwyr: eich enw llawn, dyddiad geni, enw defnyddiwr, ID myfyriwr / Rhif baner
- Staff: eich enw llawn, dyddiad geni, rhif cyflogres, teitl swydd
Rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Digidol
Mae rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o systemau, gwasanaethau a chefnogaeth a ddarperir gan y Gwasanaethau Digidol ar gael ar ein mewnrwyd. Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy:
Gwasanaethau i’r gymuned: Uned Llyfrgell, Archifau ac Argraffu
Mae’r Gwasanaethau Digidol yn darparu nifer o wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael i’r gymuned:
Mae Llyfrgell Prifysgol Bangor yn croesawu ymwelwyr a’r gymuned leol i bori’r silffoedd ac archwilio ein hadnoddau. Mae amrywiaeth o opsiynau aelodaeth ar gael i noddwyr allanol.
Mae Archifau Prifysgol Bangor yn cadw casgliad uchel ei barch o lawysgrifau, casgliadau archifol ac ystod amrywiol o lyfrau prin a deunydd printiedig. Mae’r adnoddau ar gael at ddibenion ymchwil ac addysg ac i’r gymuned ehangach.
Beth bynnag fo'ch anghenion argraffu, gall Uned Argraffu Prifysgol Bangor eu bodloni, a hynny mewn modd cyflym a hyblyg. Mae gweisg digidol o ansawdd uchel yn gallu argraffu’n ddu a gwyn ac mewn lliw llawn - o gardiau busnes a thaflenni syml i bamffledi sgleiniog. Mae'r Uned Argraffu yn darparu gwasanaethau argraffu o ansawdd proffesiynol i staff, myfyrwyr a chwsmeriaid allanol. Am fwy o wybodaeth ebostiwch: agraffu@bangor.ac.uk
Ymweld â'r Brifysgol: mynediad i Wifi Prifysgol Bangor
Mae cyfleusterau Wi-Fi ar gael i ymwelwyr â'r brifysgol.
Gall ymwelwyr o sefydliadau academaidd eraill fewngofnodi i Eduroam gan ddefnyddio manylion eu sefydliad cartref neu ddefnyddio cyfrif Eduroam Guest.
Gall ymwelwyr eraill ddefnyddio gwasanaeth we y cwmwl sydd ar gael mewn cyfleusterau ar draws y campws gan gynnwys: y Ganolfan Rheolaeth, Canolfan Chwaraeon Brailsford a Pontio.
Os ydych chi'n ymweld â Phrifysgol Bangor a bod gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â chysylltiad Wi-Fi, e-bostiwch helpdesk@bangor.ac.uk
Staff a myfyrwyr presennol: ceir rhagor o wybodaeth am gyfleusterau Wifi ar y campws i staff a myfyrwyr ar dudalennau mewnol y Wifi. Os oes gennych broblemau gyda’r rhwydwaith di-wifr, e-bostiwch helpdesk@bangor.ac.uk