Fy ngwlad:

Canllaw Cyfeirio

Myfyrwyr mewn trallod: Gwybodaeth am gyfeiriadau cyflym

Cofiwch:

  • Peidio â chynhyrfu 
  • Rhoi eich diogelwch yn gyntaf 
  • Annog y myfyriwr i fanteisio ar gefnogaeth.  
  • Cadw at ffiniau eich rôl 

Peidiwch ag:

  • Addo cyfrinachedd – efallai y bydd yn rhaid ichi rybuddio eraill er mwyn cadw'r myfyriwr yn ddiogel. 
  • Cymryd cyfrifoldeb am les y myfyriwr: mae ganddyn nhw hawl i wneud eu penderfyniadau eu hunain, o fewn amgylchedd cefnogol 

Mewn perygl uniongyrchol o achos eu hunain neu eraill 

Ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999 a chysylltwch â’r Tîm Diogelwch ar 01248 382795 

Wedi drysu neu'n ymddangos allan o gysylltiad â realiti, neu'n ymddwyn yn anarferol 

Ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999 a chysylltwch â’r Tîm Diogelwch ar 01248 382795 

Yn ofidus iawn neu angen cefnogaeth ar frys, ond nid mewn perygl uniongyrchol 

Cynghorwch nhw i wneud apwyntiad brys gyda'u meddyg teulu, mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys, neu i gysylltu â’r GIG 111 a dewis opsiwn 2 i gael cyngor ar unwaith gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol lleol. 

Angen cefnogaeth ond yn ddiogel rhag risg uniongyrchol ac yn barod/gallu ymgysylltu â gwasanaethau 

Anogwch y myfyriwr i wneud apwyntiad gyda’i Feddyg Teulu ac i gysylltu â Gwasanaeth Lles y Brifysgol i wneud apwyntiad. 

Os ydych yn poeni am fyfyriwr ond yn ansicr ynghylch ymgysylltu â chefnogaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Lles yn ystod oriau gwaith arferol am gyngor ac arweiniad. Gellir gwneud hyn heb rannu manylion y myfyriwr.  

Gall y Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr roi cyngor ac arweiniad i staff ar ystod o faterion sy’n ymwneud â myfyrwyr.  

Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am – 4:30pm 

Gwasanaeth Lles 01248 388520 gwasanaethaulles@bangor.ac.uk  

Cefnogaeth i Fyfyrwyr: cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk

Mae swyddogion diogelwch yn gallu darparu cefnogaeth 24/7 ac maent wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. 01248 382795 

Ar gyfer staff yr Ysgol Academaidd: Gall Uwch Diwtoriaid hefyd roi cyngor ar gyfeirio a chefnogaeth.  

Y Gwasanaeth Lles 

gwasanaethaulles@bangor.ac.uk 

https://my.bangor.ac.uk/studentservices/wellbeing/index.php.en 

GIG 111, opsiwn 2 (Cefnogaeth Iechyd Meddwl) 

Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru - cyngor a chefnogaeth 24/7 0800 132737 

Y Samariaid 116 123.

 

Cyfeirio Rhywun 

Yn y ddogfen hon, mae gwybodaeth ynglŷn â ble i gyfeirio myfyrwyr os ydynt yn wynebu anawsterau neu heriau penodol. Mewn llawer o achosion, mae myfyrwyr yn awyddus i ddatrys y problemau y maent yn eu profi, a gall codi’r mater gydag aelod o’r staff fod yn gam cadarnhaol cyntaf at roi trefn ar bethau.

Fodd bynnag, efallai bydd rhai myfyrwyr i’w gweld yn amharod i geisio help a chefnogaeth. Efallai y bydd yn anodd iddynt fynd at aelod o’r staff neu gysylltu â gwasanaethau cefnogaeth a hynny am nifer o resymau.

Mae'n bwysig cofio bod gan fyfyrwyr yr hawl i ddewis gyda phwy y maent am siarad a pha wybodaeth y gellir ei rhannu, oni bai eu bod yn risg iddynt hwy eu hunain neu eraill.

Os oes angen cefnogaeth gan y gwasanaethau proffesiynol ar fyfyriwr

 Rhowch sicrwydd iddynt fod y Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr yma i'w cefnogi a'u hannog i gysylltu â ni i drefnu mynediad at gefnogaeth amrywiol. Gallant alw ym Mhrif Dderbynfa Neuadd Rathbone neu ffonio 01248 383707 yn ystod yr oriau agor, e-bostio cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk  neu ymweld â'r tudalennau gwe lle cânt wybodaeth gynhwysfawr am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Gallai’r canllawiau hynny eich helpu chi nodi pa wasanaeth(au) sydd fwyaf perthnasol i amgylchiadau’r myfyriwr, ond efallai na fydd hynny bob amser yn bosibl nac yn briodol. Os ydych yn ansicr, neu os yw sefyllfa'r myfyriwr yn gymhleth, gallwch gyfeirio myfyrwyr at y Gwasanaeth Cefnogaeth i Fyfyrwyr. Gall y staff gyfeirio a chefnogi myfyrwyr i gael mynediad at y gwasanaeth(au) priodol ar ôl iddynt gysylltu.

 Os yw myfyriwr yn amharod i gysylltu'n uniongyrchol â’r Gwasanaeth Cefnogaeth i Fyfyrwyr

 Gofynnwch am ganiatâd y myfyriwr i gysylltu ar eu rhan. Ar yr amod eu bod yn rhoi caniatâd, byddwch wedyn yn gallu hysbysu cydweithiwr yn y Gwasanaeth Cefnogaeth i Fyfyrwyr naill ai drwy ffonio 01248 383707 neu e-bostio cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk. Mae’n well i fyfyrwyr geisio help yn annibynnol, ond weithiau efallai y byddwch yn teimlo mai ymyriad ar eu rhan, gyda’u caniatâd, yw’r ffordd orau ymlaen.

 Os nad yw myfyriwr eisiau cefnogaeth ond rydych chi'n bryderus

 Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cefnogaeth i Fyfyrwyr (fel uchod) a rhowch wybodaeth am eich pryderon yn ddienw. Byddant yn rhoi cyngor ar y sefyllfa heb gyfeirio at enw'r myfyriwr, a gallwch benderfynu wedyn sut mae bwrw ymlaen.

 Os oes angen cyngor arnoch yn gyflym ynglŷn â sefyllfa anodd y tu allan i’r oriau agor arferol, cysylltwch â Thîm Diogelwch y Brifysgol ar y rhif argyfwng 24/7: 01248 382795.

Os ydych chi'n ystyried eich bod chi neu eraill mewn perygl, gadewch y myfyriwr ac ewch o’r ardal mor gyflym ac mor dawel â phosib. Rhowch wybod i’r Tîm Diogelwch ac os oes angen, ffoniwch 999 a gofynnwch am ragor o gymorth. Rhowch wybod i'r Tîm Diogelwch os bydd y gwasanaethau brys yn dod.

Bydd myfyrwyr sy'n cysylltu â’r Gwasanaeth Cefnogaeth i Fyfyrwyr yn cael eu harwain at y gefnogaeth briodol neu'n cael gwybodaeth a chyngor perthnasol. Os ydych yn cysylltu ar ran myfyriwr, gyda’u caniatâd i rannu gwybodaeth, byddwn yn mynd ar drywydd hynny ac yn eu hannog i geisio cefnogaeth. Fel arfer ni fyddwn yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gefnogaeth a roddwyd, oherwydd bod yr wybodaeth honno’n gyfrinachol, ond cewch gysylltu â’r Gwasanaeth Cefnogaeth i Fyfyrwyr eto os na fydd pethau’n gwella.

 

Bod yn gefnogwr da a rheoli ffiniau

Mae gosod a chynnal ffiniau proffesiynol gyda myfyrwyr yn rhan bwysig o sefydlu perthynas gefnogol, gan wneud terfynau eich swydd a’ch cyfrifoldebau yn glir, a chan ddiogelu eich lles emosiynol chi a’r myfyriwr.  

Gwyddom fod lles a dysgu yn rhyngberthynol a gall hyn olygu diffyg eglurder weithiau, yn enwedig gyda myfyrwyr sy’n mynd trwy gyfnod anodd.  Mae'r adran hon yn canolbwyntio'n bennaf ar yr her hon, er bod y cyngor yn gyffredinol, gall yr egwyddorion fod yn ddefnyddiol i gefnogi'r holl staff mewn swyddi sy'n delio â myfyrwyr.  

Ym mhob achos mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'ch terfynau a'ch ffiniau eich hun mewn perthynas â'ch swydd yn y brifysgol. Nid oes disgwyl i chi ddarparu cefnogaeth y tu hwnt i'ch arbenigedd, hyfforddiant a'r adnoddau sydd ar gael. 

Gweler hefyd Anawsterau Iechyd Meddwl ac Emosiynol 

Gweler hefyd Gwneud Atgyfeiriad 

Gweler hefyd Myfyrwyr mewn Trallod 

Strategaethau cyffredinol i gynnal ffiniau proffesiynol: 

Bod yn glir ac yn gyson 

Bod yn glir ynglŷn â’ch swyddogaeth eich hun, gan gyfleu'r ffiniau a'r disgwyliadau yn glir i fyfyrwyr. Gall hyn amrywio o fod yn glir ynglŷn â phryd mae eich oriau swyddfa, pryd y byddwch yn ymateb i e-byst a negeseuon Teams, y ffyrdd y gall myfyrwyr gysylltu â chi a'r mathau o faterion y byddwch yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad yn eu cylch.  

Cadw at amser 

Yn dibynnu ar sut rydych yn gweithio, gallwch gynnig apwyntiadau i fyfyrwyr neu eu gwahodd i alw heibio yn ystod amseroedd penodol. Mae'n arfer da bod yn glir ar ddechrau ac ar ddiwedd cyfarfod â myfyriwr ynglŷn â faint o amser sydd ar gael, a sicrhau eich bod yn gorffen ar amser. Gall hyn ymddangos yn beth amlwg a bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gallu gweithio o fewn yr amserlen honno. Gyda rhai myfyrwyr, gall fod yn ddefnyddiol dweud wrthynt faint o amser sydd ar ôl yn ystod y cyfarfod.  

Cydnabod pan fo mater y tu allan i'ch arbenigedd neu’n gofyn am ymyrraeth arbenigol 

Mae’n bosib y bydd angen cymorth ychwanegol ar fyfyriwr y tu hwnt i gylch gorchwyl eich swydd a gall y canllaw hwn fod yn ddefnyddiol wrth gyfeirio at gefnogaeth gan wasanaethau eraill. Mae'n bosib y gofynnir i chi am faes nad oes gennych lawer o wybodaeth amdano ac mae'n bwysig eich bod yn agored am faint rydych yn ei wybod. Mae'n bwysig hefyd nad ydych yn ymrwymo i wneud unrhyw beth sydd y tu hwnt i’ch cylch gorchwyl oherwydd gall addo gormod (i chi eich hun neu eraill) achosi i fyfyrwyr golli ymddiriedaeth yn y systemau cefnogaeth sydd ar gael.  

Y tu allan i oriau gwaith arferol 

Cofiwch sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod pryd a sut y gallant gysylltu â chi, a ble gallant ddod o hyd i gefnogaeth y tu allan i oriau. Gall eich oriau gwaith amrywio, ond gallai fod yn ddefnyddiol sicrhau eich bod yn anfon atebion i e-byst gan fyfyrwyr yn ystod oriau swyddfa arferol, er mwyn osgoi unrhyw ddisgwyliad y byddwch chi, neu drwy eich gweithredoedd, gydweithwyr eraill ar gael ar adegau eraill. Dylech bob amser gyfathrebu gan ddefnyddio llwyfannau'r brifysgol (e-bost, ffôn, Teams); mae defnyddio cyfrif e-bost personol i wneud gwaith y brifysgol yn groes i’n Polisi Diogelwch Gwybodaeth.  

Mater sy'n peri pryder y tu allan i oriau swyddfa arferol 

Ar adegau prin, gallwn ddod ar draws negeseuon gan fyfyrwyr sy’n peri pryder y tu allan i oriau gwaith arferol. Mae'n bwysig cydnabod y dylai hyn fod yn ddigwyddiad anarferol ac efallai y byddwch eisiau eu hatgoffa o'r ffyrdd arferol y dylent drefnu siarad â chi. Mewn argyfwng, byddai’n briodol eu cyfeirio at wasanaethau brys mwy addas (Swyddfa Ddiogelwch y brifysgol: 01248 382795; yr heddlu 999 neu 101; eu meddyg teulu neu’r adran ddamweiniau ac achosion brys). 

 

 

Os argymhellir i fyfyriwr y dylai geisio arweiniad/cymorth gan y Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr, ni fyddwn yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi oherwydd natur gyfrinachol ein perthynas â’r myfyrwyr, ond byddant yn cael cynnig arweiniad a chymorth personol fel y nodir yn y canllaw hwn. 

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad arnoch ynglŷn â chynnal ffiniau proffesiynol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Llesiant trwy e-bost: wellbeingservices@bangor.ac.uk a byddant yn hapus i helpu.  

 

Datblygiad academaidd

Nid yw'n anarferol i fyfyrwyr gael trafferth gyda'u hastudiaethau a'u haseiniadau, p'un a ydynt yn ymuno â'r Brifysgol o'r ysgol neu'n dychwelyd i astudio ar ôl peth amser. Cadwch olwg am fyfyrwyr a fyddai'n elwa o ddatblygu sgiliau i gyflawni eu potensial academaidd. Fel arall, gall myfyrwyr fod yn methu asesiadau, yn cael trafferth cwblhau gwaith ar amser neu'n cael marciau isel neu adborth gwael, sy’n awgrymu y dylent geisio cymorth ychwanegol gyda'u sgiliau academaidd/astudio. 

Os oes angen cymorth ar fyfyriwr gyda'i ddatblygiad academaidd 

Awgrymwch eu bod yn cysylltu â'u Tiwtor Personol. Gall myfyrwyr ddod o hyd i enw eu tiwtor personol ar: FyMangor. 

Mae gwaith y Tiwtor Personol yn cynnwys helpu myfyrwyr i ddeall ymagwedd eu cwrs at ddysgu, datblygu sgiliau ac asesu, ac i fyfyrio ar eu cynnydd, adnabod anghenion dysgu a datblygu strategaethau astudio defnyddiol. 

Os yw myfyriwr yn chwilio am gefnogaeth 1:1 gyda'i ysgrifennu academaidd neu gefnogaeth sgiliau astudio 

Cynghorwch nhw i ymweld â gwefan Cymorth Addysgu a Dysgu: https://www.bangor.ac.uk/teaching-and-learning-support  lle gallant ganfod cymorth ar gyfer aseiniadau; ysgrifennu academaidd; mathemateg ac ystadegau; sgiliau cyfeirio, sgiliau ymchwilio a llyfrgell; a pharatoi ar gyfer arholiadau. Gall myfyrwyr ofyn am gymorth gyda dysgu ar-lein neu gyflwyno aseiniad a hefyd archebu sesiwn cymorth 1:1 gyda chynghorydd sgiliau astudio.  

Os oes gan y myfyriwr anghenion astudio penodol yn ymwneud ag anabledd, fel dyslecsia 

Mae cymorth arbenigol ar gael ar gyfer anghenion sgiliau astudio sy'n ymwneud â Gwahaniaethau Dysgu Penodol (fel dyslecsia neu ddyspracsia), anhwylderau ar y sbectrwm awtistig ac anableddau eraill.  

Cynghorwch y myfyriwr i gysylltu â’r Gwasanaethau Anabledd dros y ffôn: 01248 382032, e-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu drwy ymweld â: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/disability/  

Gall pob myfyriwr fanteisio ar gymorth sgiliau astudio ac adnoddau trwy gydol eu cyfnod astudio, ar adeg sydd fwyaf perthnasol i'w hanghenion. Bydd myfyrwyr sydd angen cymorth cysylltiedig ag anabledd yn cael cynnig apwyntiad 1:1 arbenigol lle bo'n briodol ac efallai y bydd ganddynt hawl i gyllid ychwanegol drwy'r Lwfans Cymorth i'r Anabl. 

 

Diffyg Ymroddiad Academaidd 

Mae’n bosibl y bydd presenoldeb y myfyrwyr yn wael neu’n ddim mewn darlithoedd, eu bod wedi methu apwyntiadau gyda’r Tiwtor Academaidd Personol neu fod eu hymroddiad yn brin gydag adnoddau ar-lein/gofynion y cwrs (gweler y Polisi Presenoldeb ac Ymgysylltu). Yn ogystal, efallai eu bod wedi methu â chyflwyno un neu fwy o ddarnau o waith a asesir. Efallai hefyd y bydd ganddynt lefelau is nag arfer o ymwneud ag Undeb Bangor, digwyddiadau cymdeithasol neu gyd-fyfyrwyr. Gallant fod yn eu hystafelloedd yn amlach nag arfer neu'n absennol o'u llety am gyfnodau hir. Gall unrhyw un o'r ymddygiadau hynny beri pryder am les myfyrwyr neu’u tebygolrwydd o lwyddo.

Gall myfyrwyr sydd wedi methu darlithoedd neu sydd heb gyflwyno gwaith i'w asesu fod yn bryderus iawn ynghylch ailymuno â'u cwrs. Rhowch sicrwydd iddynt fod digon o opsiynau fel arfer, a bod cefnogaeth ar gael i’w helpu nhw ddod o hyd i ffordd ymlaen. Fodd bynnag, ceisiwch beidio â gwneud addewidion am ganlyniadau penodol i ddechrau er mwyn sicrhau disgwyliadau realistig a rhoddi gwybodaeth gywir wrth asesu’r sefyllfa.

Os yw myfyrwyr yn profi problemau academaidd sy'n eu hatal rhag cymryd rhan yn eu hastudiaethau

 Awgrymwch eu bod yn cysylltu â'u Tiwtor Personol i drafod unrhyw heriau y maent yn eu profi. Gallant ddod o hyd i enw eu Tiwtor Personol ar FyMangor. Gall y Tiwtor Personol weithio gydag arweinwyr rhaglen i gynghori’r myfyrwyr am eu hopsiynau os nad yw gwaith a asesir yn cael ei gyflwyno neu os yw’r myfyrwyr yn ei fethu.

Os oes angen gwybodaeth arnynt am wella eu sgiliau astudio, cofiwch eu cyfeirio at y Tîm Cefnogi Addysgu a Dysgu.

Os oes myfyrwyr yn profi problemau academaidd sy'n eu hatal rhag cymryd rhan yn eu hastudiaethau

Anogwch nhw i siarad â Chefnogaeth i Fyfyrwyr a all eu cyfeirio at y gwasanaeth priodol am gefnogaeth. Gallant wneud hynny drwy ymweld â’r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr, Neuadd Rathbone yn ystod yr oriau agor, trwy ffonio: 01248 383707, neu e-bostio: cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk

Gan ddibynnu ar sefyllfa'r myfyriwr, efallai y byddwch hefyd yn ystyried awgrymu eu bod yn hunangyfeirio at y Gwasanaeth Lles i ofyn am apwyntiad drwy e-bostio gwasanaethaulles@bangor.ac.uk.

Os ydych chi'n poeni na all myfyriwr eiriol drosto'i hun/drosti’i hun, gallwch ofyn i'r myfyriwr am ganiatâd i anfon e-bost rhagarweiniol at y gwasanaethau cefnogaeth neu les ar ei ran ef/ar ei rhan hi.

 Os oes gennych chi fynediad at gofnodion trwy nodiadau myfyrwyr FyMangor: Cofiwch ychwanegu nodyn at FyMangor i gofnodi unrhyw gyfarfodydd neu gyfathrebu a fu gyda’r myfyrwyr. Mae hynny’n bwysig er mwyn sicrhau bod cofnod o'r gefnogaeth a roddir, a allai fod yn ddefnyddiol troi ato yn y dyfodol a pharhad y gofal.

 

Lle bo modd, caiff myfyrwyr eu cefnogi i ailymuno yn eu hastudiaethau, gyda chefnogaeth briodol i'w cadw ar y trywydd iawn. Weithiau efallai y bydd angen help arnynt i wneud cais am amgylchiadau lliniarol neu ofyn am ataliad dros dro nes eu bod yn barod i ailgydio yn eu hastudiaethau. Weithiau mae'n well i'r myfyriwr dynnu'n ôl o'r Brifysgol, ond mae'n well gwneud hynny mewn proses â chefnogaeth, er mwyn cynnal lles y myfyriwr yn ogystal â sicrhau nad yw'n destun mwy o ymrwymiadau ariannol nag sydd ei angen, a'i fod yn deall yn llawn y goblygiadau a'r opsiynau at y dyfodol.

Problemau gyda Llety 

Os oes myfyrwyr yn wynebu problemau gyda llety rhent, mae gan y Swyddfa Dai wybodaeth a phrofiad amrywiol o faterion tai, yn ogystal â chysylltiadau ag asiantaethau ac adnoddau allanol. Golyga hynny y gallant gynnig yr wybodaeth a’r sgiliau i chi fynd i’r afael ag unrhyw broblemau gyda thai a all godi yn ystod eich tenantiaeth. Os oes angen cyngor cyfreithiol ynghylch unrhyw fater ar y myfyrwyr, gall y Swyddfa Dai eu cyfeirio at y gwasanaeth priodol. 

Mae llawer o fyfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn gyntaf, yn ogystal â rhai o’r myfyrwyr sy'n dychwelyd - yn dewis byw yn Neuaddau'r Brifysgol. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau am hynny at y Swyddfa Neuaddau: neuaddau@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382667. 

Efallai y byddai’n well gan rai myfyrwyr rentu ystafell/llety gan landlord preifat – dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau am hynny at y Swyddfa Tai Myfyrwyr ar: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382034. Bwriad y Swyddfa Tai Myfyrwyr yw cynnig siop pob dim ynglŷn ag anghenion y myfyrwyr yn y sector tai preifat a rhoi'r gallu i chi wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. 

Os oes angen help ar fyfyrwyr i chwilio am lety 

Cyfeiriwch nhw at dudalen we Swyddfa Tai Myfyrwyr www.bangor.ac.uk/studentservices/studenthousing neu'n uniongyrchol i wefan Studentpad www.bangorstudentpad.co.uk lle gall myfyrwyr chwilio drwy'r rhestrau llety sy’n cael eu hysbysebu ar ran landlordiaid cofrestredig. Gall myfyrwyr hefyd ddod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i gofrestru llety gyda'r Swyddfa Dai.   

Os oes angen cefnogaeth ar fyfyrwyr i chwilio, mae cyngor a gwybodaeth iddynt ar dudalen we Studentpad (www.bangorstudentpad.co.uk) neu gallant gysylltu â'r Swyddfa Dai drwy e-bostio taimyfyrwyr@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 382034. 

Os oes myfyrwyr yn cael problemau gyda landlord/llety 
 
I'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, mae byw mewn llety rhentu preifat yn elfen bleserus a hwyliog o fywyd prifysgol. Fodd bynnag, os bydd problemau’n codi gyda landlordiaid neu lety, bydd modd cyfeirio myfyrwyr at y Swyddfa Dai am gefnogaeth ar e-bost: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 382034. 

Gall myfyrwyr chwilio am lety’n uniongyrchol ar Studentpad, ond os oes angen cefnogaeth bellach arnynt, gall y Swyddfa Dai eu helpu drwy ateb unrhyw gwestiynau neu gynnig gwybodaeth ychwanegol ac anogaeth. 

Fel rheol rydym yn cynghori’r myfyrwyr i beidio â gwneud taliadau nac arwyddo contractau nes iddynt weld y llety a gwneud yn siŵr ei fod yn addas i'w hanghenion. Yn anffodus, ni all y Swyddfa Dai wneud trefniadau na chontractau ar eu rhan.  Rhaid i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn sicr y bydd angen y llety arnynt, cyn arwyddo contract (a fydd yn gyfreithiol rwymol).  

Gall y Swyddfa Dai roi rhestr o’r llefydd Gwely a Brecwast / Gwestai i’r myfyrwyr a allai fod yn ddefnyddiol iddynt.   

  

Profedigaeth 

Yn anffodus, bydd rhai myfyrwyr yn profi profedigaeth tra byddant yn y brifysgol. Gallai fod oherwydd marwolaeth rhiant, brawd neu chwaer, taid neu nain, perthynas, ffrind neu rywun arall y maent yn ei adnabod. Mae pawb yn profi galar yn wahanol; nid oes un ffordd 'normal' na 'chywir' o alaru. Mae llawer o bethau gwahanol yn dylanwadu ar ein hymateb, gan gynnwys oedran a phersonoliaeth, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol, profiadau o brofedigaeth, amgylchiadau a sut rydym yn ymdopi â cholled. Bydd y gefnogaeth sydd ei hangen arnom yn amrywio gan ddibynnu ar y ffactorau hynny a dylem fod yn ymwybodol bob amser bod galar yn broses normal ac iach i'r rhan fwyaf o bobl.

Efallai y bydd myfyriwr yn dweud wrthych am eu colled neu efallai y bydd eraill yn rhoi gwybod i chi am brofedigaeth. Efallai y cewch chi wybod oherwydd i chi sylwi eu bod yn ofidus, yn dawel neu'n absennol o ddarlithoedd neu weithgareddau i raddau eithriadol.

 

 Weithiau mae angen i unigolion sy'n galaru gydnabod eu profiad. Yn aml teulu a ffrindiau yw’r ffynhonnell orau o gysur a chefnogaeth. Os ydych chi'n gallu ac yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny gall fod yn ddigon cynnig clust i wrando. Mae’n bosibl bod y myfyriwr yn teimlo yr hoffai gael cefnogaeth broffesiynol ac mae gwybodaeth isod ynglŷn â’u helpu i gael mynediad at hynny.

Os hoffai myfyriwr gael cefnogaeth

Cynghorwch y myfyriwr i gysylltu â'r Gwasanaeth Lles, yn Rathbone, Ffordd y Coleg. Gall cwnselwyr sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol ac arbenigwyr gwybodaeth sydd â phrofiad o helpu myfyrwyr ddelio â phrofedigaeth gynnig cymorth 1:1.

Mae gan y Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr e-becyn Profedigaeth hefyd sy’n cynnwys gwybodaeth, cysylltiadau ac adnoddau yn gefn i'r rhai sy'n galaru. Mae ar gael ar-lein ac mae modd ei rannu trwy'r ddolen hon: Pecyn Profedigaeth.

Os nad yw myfyriwr yn dymuno cael cefnogaeth

Ni fydd pawb sydd mewn profedigaeth eisiau cefnogaeth ar unwaith os o gwbl. Bydd yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, y gefnogaeth sydd ganddynt o fewn y teulu a grwpiau cyfeillgarwch, a nifer o ffactorau eraill. Mae'n bwysig cael eich arwain gan yr unigolyn sydd mewn profedigaeth a sicrhau eu bod yn gwybod bod cefnogaeth ar gael iddynt pan fyddant yn dymuno hynny. Gallwch roi sicrwydd iddynt y cânt fynediad at wasanaethau cefnogaeth ar unrhyw adeg tra byddant yn fyfyrwyr. Efallai y byddwch am anfon dolen y Pecyn Profedigaeth fel bod ganddynt wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn fewnol ac yn allanol.

Bydd y myfyrwyr a gaiff eu cyfeirio at y Gwasanaeth Lles yn cael gweld rhywun cyn gynted â phosibl ar gyfer Apwyntiad Lles. Cânt drafod eu profedigaeth ac, os yw'n briodol, cânt gynnig cefnogaeth ychwanegol gan y tîm. Bydd y Tîm Lles, gyda chaniatâd y myfyriwr, hefyd yn gallu rhoi gwybod i Diwtor Personol y myfyriwr am eu profedigaeth a sicrhau bod ganddynt fynediad at wybodaeth berthnasol pe bai angen amser i ffwrdd o'u hastudiaethau.

Profiad o ofal

Diffinnir myfyriwr sydd â phrofiad o ofal fel rhywun a dreuliodd amser yng ngofal awdurdod lleol fel plentyn, o bosib gyda rhiant maeth, neu mewn cartref preswyl i blant. Neu rywun a dreuliodd amser yng ngofal perthnasau’n blentyn, er enghraifft yn byw gyda brodyr a chwiorydd hŷn neu neiniau a theidiau.

Efallai na fydd myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yn datgelu hynny i chi’n uniongyrchol. Efallai y byddant yn awgrymu hynny drwy ddweud nad oes ganddynt rwydwaith cefnogaeth traddodiadol fel sydd gan fyfyrwyr eraill, neu drwy fod yn amwys ynghylch eu cynlluniau dros y gwyliau neu achlysuron pan fo myfyrwyr eraill yn dychwelyd i'w cartrefi teuluol.

 

Os bydd myfyrwyr yn dweud wrthych bod ganddynt brofiad o fod mewn gofal

 Ceisiwch fod yn gefnogol ond yn niwtral. Peidiwch â bod yn or-sympathetig na chynnig cefnogaeth ychwanegol a allai fod

yn amhriodol. Bydd sefyllfa pob myfyriwr yn wahanol.

Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr yn gwybod bod Prifysgol Bangor yn gymuned amrywiol, a bod amrywiaeth eang o gefnogaeth i bob myfyriwr, beth bynnag eu cefndir a’u hamgylchiadau.

Os yw myfyriwr eisiau siarad â rhywun neu eisiau rhywfaint o gefnogaeth

Awgrymwch eu bod yn cysylltu â Wendy Willliams neu Huw Jones yn y Gwasanaeth Cefnogaeth i Fyfyrwyr sef y cyswllt penodedig i fyfyrwyr sydd â phrofiad o ofal. Gallant wneud hynny ar e-bost: cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 383637 / 01248 383707.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cefnogaeth ariannol ar gael: Cefnogaeth ar gyfer Profiad o Ofal | Gwasanaethau Myfyrwyr a Gweinyddiaeth | Prifysgol Bangor.

Os bydd myfyriwr yn dweud nad oes ganddynt gartref i ddychwelyd iddo yn ystod gwyliau'r haf

Cynghorwch nhw i gysylltu â: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk am wybodaeth am lety yn y sector preifat neu neuaddau@bangor.ac.uk am wybodaeth am yr ystafelloedd sydd ar gael yn llety'r brifysgol.

Bydd Wendy neu Huw yn gallu trafod gyda’r myfyriwr ynglŷn â’r lefel a’r math o gefnogaeth yr hoffent ei gael. Gallai hynny fod trwy gyfarfodydd un-i-un rheolaidd neu ambell i sgwrs anffurfiol os oes arnynt angen rhywun i siarad â nhw. Rhoddir canllawiau hefyd ar rwydweithiau cefnogaeth ffurfiol ac anffurfiol y gallai'r myfyriwr ddymuno cyfeirio atynt.

 

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Gall myfyrwyr ddewis gwneud blwyddyn ar leoliad neu ddilyn modiwl gyda lleoliad/lleoliad byr fel rhan o’u cwrs, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau gwella cyflogadwyedd sydd wedi eu hymgorffori a/neu asesiadau o fewn y cwricwlwm. 

Gall myfyrwyr hefyd chwilio am gymorth mwy penodol i ddod o hyd i waith rhan amser, profiad gwaith, ymchwilio a gwneud penderfyniadau am lwybrau gyrfa, datblygu sgiliau a phriodoleddau, rhwydweithio, chwilio am swydd ar ôl graddio, llunio CV a pharatoi ceisiadau am swyddi. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i ategu’r gweithgareddau cyflogadwyedd hyn a chefnogi ein myfyrwyr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r galluoedd y bydd eu hangen arnynt i gael gyrfa lwyddiannus a gwerth chweil. 

Trwy CyswlltGyrfa, gall myfyrwyr chwilio am waith rhan amser, swyddi ar ôl graddio a chyfleoedd eraill (e.e. lleoliadau, interniaethau, profiad gwaith, cynlluniau i raddedigion) a threfnu apwyntiadau, gweithdai a digwyddiadau. Gallant hefyd gael mynediad i adnoddau fel Careerset (adborth ar CV) a Graduates First (profion recriwtio ac ymarfer at gyfweliad), cwblhau llwybrau gwybodaeth, ac archwilio gwybodaeth gyrfaoedd trwy'r adnodd Career Discovery. Mae cymorth pwrpasol hefyd ar gael i fyfyrwyr sy’n wynebu rhwystrau, a’r rhai sy’n ystyried gwneud gwaith llawrydd a/neu ddechrau busnes. 

Os yw myfyriwr yn chwilio am waith rhan amser 

I fyfyrwyr sy'n chwilio am waith rhan amser, gellir eu cyfeirio at y daflen ar ddod o hyd i waith rhan amser sydd i'w gweld yma: https://my.bangor.ac.uk/employability-info/finding-work.php.cy. Fel arfer nid oes angen trefnu apwyntiad arweiniad. 

Os yw'r myfyriwr eisiau chwilio am gyfleoedd neu drefnu apwyntiad gyrfaoedd, gweithdy neu ddigwyddiad 

Cyfeiriwch hwy at CyswlltGyrfa <https://careerconnect.bangor.ac.uk/> o'r eitem ar ddewislen Cyflogadwyedd FyMangor neu dudalen we Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor https://www.bangor.ac.uk/careers-and-employability . <https://www.bangor.ac.uk/careers-and-employability.> Ar ôl mewngofnodi gyda'u henw defnyddiwr a'u cyfrinair, gall myfyrwyr ddefnyddio'r tabiau ar y brig i chwilio am swyddi a chyfleoedd, trefnu apwyntiadau a gweithdai, neu edrych trwy’r adran Darganfod Gyrfa. Gallant hefyd ddewis derbyn negeseuon e-bost ynglŷn â digwyddiadau / cyfleoedd, a dewis y math o ddigwyddiadau maent eisiau cael gwybod amdanynt a pha mor aml maent eisiau cael negeseuon. 

Dylai myfyrwyr allu llywio’r porth yn hawdd, ond os cânt unrhyw broblemau, gallant gysylltu â 01248 382071 neu anfon e-bost i careers@bangor.ac.uk.  Gall staff hefyd ofyn am gyfrif CyswlltGyrfa trwy fynd i Cyswllt Gyrfa a mewngofnodi a chofrestru fel aelod staff y brifysgol. 

Os bydd myfyriwr eisiau mwy o wybodaeth am bynciau gyrfaoedd a chyflogadwyedd 

Gellir dod o hyd i wybodaeth a chyfeiriadau gan gynnwys taflenni, fideos, llyfrau gwaith a dolenni i adnoddau yn yr Hyb Cyflogadwyedd. Gall myfyrwyr fynd i’r hyb trwy FyMangor (cyflogadwyedd yw’r ail eitem ar y rhestr) neu dudalen we Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor: https://www.bangor.ac.uk/careers-and-employability  

Bydd cynghorwyr cyflogadwyedd yn cyflwyno gweithdai a sesiynau fel rhan o rai o’ch modiwlau – mae staff Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, ynghyd â siaradwyr allanol a chyflogwyr hefyd yn cyflwyno gweithdai wedi eu hamserlennu’n rheolaidd ar y campws ar amrywiaeth o bynciau sy’n agored i bawb – i weld yr amserlen ac archebu lle, dylai myfyrwyr fynd i Cyswllt Gyrfa / archebu. 

Os yw myfyriwr eisiau cymorth yn gyflym neu os na all ddod i unrhyw un o’r apwyntiadau sydd ar gael 

Gall myfyrwyr ymuno â chynghorwyr a staff eraill y gwasanaeth mewn sesiynau ‘cydweithio’ rheolaidd ar y campws (i weithio’n annibynnol e.e. ar eu CV neu gais am swydd) gyda staff ar gael i roi cymorth a chyngor – mae manylion i’w cael yn Cyswllt Gyrfa / digwyddiadau. 

Os na all myfyriwr ddod i unrhyw un o’r slotiau apwyntiad sydd ar gael, gallant anfon e-bost i careers@bangor.ac.uk a gwneir pob ymdrech i drefnu slot amser addas iddynt.  

 

Efallai y bydd myfyrwyr eisiau cyfarfod â chynghorwyr cyflogadwyedd a/neu staff eraill y gwasanaeth fwy nag unwaith wrth iddynt symud ymlaen trwy eu cwrs.  

Gall graddedigion Prifysgol Bangor gael mynediad at adnoddau’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd am dair blynedd ar ôl graddio ac wedi hynny, trwy fynediad graddedigion i CareerConnect – anfonir e-bost at fyfyrwyr cyn graddio i roi gwybod iddynt am y cymorth sydd ar gael a sut i barhau i ddefnyddio’r llwyfan. 

Cwynion Myfyrwyr 

Mawr obeithiwn na fydd angen i fyfyrwyr godi pryderon na chwynion, ond rydym yn llawn ddeall nad yw’r byd yn berffaith bob amser ac efallai y bydd angen iddynt roi gwybod i’r staff weithiau bod rhywbeth yn eu poeni neu y gallai rhywbeth arwain at gŵyn. Dylai’r staff ymdrin â materion o'r fath yn agored ac yn gyflym.  

Mynegiant o anfodlonrwydd yw cwyn ynglŷn â safon gwasanaeth y brifysgol neu wasanaeth a ddarperir ar ran y brifysgol. Gall cwynion ymwneud â rhaglen academaidd neu adran neu wasanaeth yn y brifysgol. Fel rheol caiff y rhan fwyaf o’r cwynion eu datrys yn anffurfiol ac mae deialog agored gyda'r myfyriwr yn aml yn helpu.  

Rhaid ymdrin â chwynion yn unol â Gweithdrefnau Cwynion Myfyrwyr. At ddibenion y weithdrefn, mae myfyriwr yn fyfyriwr cyfredol neu gyn-fyfyriwr, ac fel arfer rhaid cyflwyno cwyn o fewn 12 mis wedi'r rhesymau a arweiniodd at y gŵyn. Os yw y tu allan i'r cyfnod hwnnw, cysylltwch â cwynion@bangor.ac.uk 

Ar gyfer cwynion a allai fod yn fwy priodol i gael eu trin gan ddilyn gweithdrefn wahanol megis am ymddygiad staff, neu am gyngor cyffredinol, gallwch gysylltu â cwynion@bangor.ac.uk. Cewch hefyd ofyn am gyngor, gyda'ch rheolwr llinell. 

Os nad yw’r gŵyn yn un y gellir ei datrys ar unwaith, os yw’n gymhleth neu os na wnaeth y myfyriwr hynny eisoes, gofynnwch iddynt:  

  1. Ddisgrifio’n glir beth yw natur eich cwyn a chynnwys unrhyw dystiolaeth ategol. 
  2. Manylu ynglŷn ag unrhyw drafodaethau neu ymdrechion blaenorol i ddatrys y mater. Byddai naratif sy'n cynnwys dyddiadau, amseroedd ac enwau’n helpu. 
  3. Nodwch yn glir y canlyniad(au) yr ydych yn eu ceisio trwy wneud cwyn.

Dylai'r aelod o’r staff sy'n gyfrifol am y maes sy'n ymwneud â'r gŵyn geisio ei datrys yn y lle cyntaf, a chyflwyno ymateb i'r myfyriwr a dogfennu’r rhyngweithiadau a’r canlyniadau perthnasol. 

Os nad yw’r aelod o’r staff sy’n gyfrifol am y maes yn gallu datrys y mater, dylai ei drosglwyddo i Bennaeth yr Ysgol neu’r Gwasanaeth. 

Ym mhob achos dylid rhoi gwybod i’r myfyriwr ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael gan Undeb Bangor ac os yw'n briodol, dylid cynnig gwybodaeth am y Gwasanaeth Llesiant.   

Os na all Pennaeth yr Ysgol neu’r Gwasanaeth ddatrys y mater, dylent esbonio’r camau a gymerwyd hyd yma a chyfeirio’r myfyriwr at gam ffurfiol y Weithdrefnau Cwynion Myfyrwyr. yma.   

Dylid cyfeirio at unrhyw gwestiynau, gweithredoedd neu apeliadau sy'n deillio o'r broses gwynion cwynion@bangor.ac.uk.  

Mae Gwithdrefnau Cwynion y Myfyrwyr yma

Pryderon Bod Myfyriwr ar Goll 

Mae llawer o resymau pam y gallai myfyrwyr golli darlithoedd, neu fod i ffwrdd o'u llety. Maent yn oedolion annibynnol, a bydd gan lawer ohonynt ymrwymiadau a chyfrifoldebau allanol. Mae'r Polisi Monitro Ymgysylltu a Phresenoldeb yn nodi’r disgwyliadau i fyfyrwyr, a’r ffyrdd y caiff presenoldeb ei gofnodi a’i fonitro gan y staff addysgu. 

Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau efallai y byddwch yn pryderu bod absenoldeb myfyriwr yn arwydd o risg i'w llesiant a/neu ddiogelwch. Gallai’r pryderon godi dros gyfnod o amser (er enghraifft, os bydd myfyriwr yn rhoi’r gorau i fynd i ddarlithoedd ar ôl eu mynychu’n ysbeidiol a’u bod weithiau’n ymddangos yn flêr neu’n ddryslyd, ac yna’n peidio ag ymateb o gwbl i alwadau a negeseuon), neu ar unwaith (e.e. pan fo cyd-fyfyrwyr yn eich cynghori bod y myfyriwr wedi rhannu negeseuon sy'n peri pryder ar y cyfryngau cymdeithasol, ac nad oes modd cysylltu â nhw).  

Os credwch fod rhesymau gwirioneddol i bryderu ynglŷn â llesiant y myfyriwr, mae'r dudalen hon yn rhoi arweiniad o ran beth i'w wneud. 

 
Os nad yw'r myfyriwr yn dod i’r gwersi, a bod gennych reswm i bryderu ond nid oes achos amlwg i bryderu ar hyn o bryd 

E-bostiwch a/neu ffoniwch y myfyriwr. Gadewch neges os oes angen - efallai na fydd myfyrwyr yn ateb galwad os nad ydynt yn adnabod y rhif. Cynghorwch nhw i gysylltu â'r Tiwtor Personol os oes angen unrhyw help arnynt. 

Cofiwch fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr 'coll' yn dod i’r fei’n fuan, a’u bod yn ddiogel ac yn iach, ond os oes gennych unrhyw amheuaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr (cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk ) am gyngor. 

Os nad yw'r myfyriwr yn dod i’r gwersi, ac rydych yn pryderu ar ôl ceisio cysylltu â nhw a methu, ond nid oes achos amlwg i bryderu ar hyn o bryd 

Cysylltwch ag Uwch Diwtor yr Ysgol a/neu Cefnogi Myfyrwyr ar e-bost (cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk) neu dros y ffôn 01248 383707.  

Byddwch yn barod i ddarparu unrhyw wybodaeth sydd gennych am y sefyllfa: enw’r myfyriwr, rhif y myfyriwr, amser a dyddiad y cyswllt diwethaf y gwyddys amdano, y dyddiadau a’r dulliau a ddefnyddioch i geisio cysylltu. 

Os ystyrir neu os adroddir bod y myfyriwr ar goll, a bod achos i bryderu ar unwaith 

Cysylltwch â’r Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr neu eu henwebai drwy e-bostio (cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk), neu’r Tîm Diogelwch y tu allan i oriau: 01248 382795. 

Byddwch yn barod i ddarparu unrhyw wybodaeth sydd gennych am y sefyllfa: enw’r myfyriwr, rhif y myfyriwr, amser a dyddiad y cyswllt diwethaf y gwyddys amdano, unrhyw gyd-destun a gewch chi gan ffrindiau neu gyd-letywyr ynglŷn â’r lleoliadau posibl ac yn y blaen. 

Os credir bod y myfyriwr mewn perygl uniongyrchol o niwed, neu’n fygythiad i eraill 

Ffoniwch y Tîm Diogelwch: 01248 382795 neu ffoniwch 999 a gofynnwch am yr Heddlu. 

Os byddwch yn ffonio’r Heddlu, rhowch wybod i'r Tîm Diogelwch. 

Bydd cydweithwyr o’r Gwasanaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr, neu Uwch Diwtoriaid yr Ysgol yn ceisio cysylltu â’r myfyriwr. Lle bo'n briodol, gallwn ymweld â'u llety neu fwrw golwg dros gofnodion a chysylltiadau eraill. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r myfyrwyr yn ddiogel ac yn iach, ac os oes angen cefnogaeth ychwanegol, gallwn drefnu hynny iddynt. Mewn nifer fach iawn o achosion, efallai y bydd angen cysylltu â’r Heddlu. Os felly, byddwn yn dilyn eu harweiniad ac yn darparu'r holl wybodaeth a’r gefnogaeth berthnasol sydd eu hangen. Caiff cyd-letywyr, cyd-fyfyrwyr a ffrindiau'r myfyriwr coll eu cefnogi gan y Gwasanaeth Cefnogaeth a Llesiant Myfyrwyr, ar y cyd â’r Tiwtoriaid Personol a’r Staff Cefnogi Proffesiynol (fel Llety) lle bo'n briodol. 

Cyswllt gan riant / gwarcheidwad / aelodau teulu / trydydd parti

Mae rhieni, perthnasau a thrydydd partïon eraill yn aml yn cysylltu â'r Brifysgol i ofyn am wybodaeth am fyfyrwyr. Mae gennym ddyletswydd o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 i amddiffyn preifatrwydd ein myfyrwyr, ac felly ni chaniateir i ni ddatgelu unrhyw wybodaeth amdanynt, hyd yn oed i’w rhieni, heb ganiatâd penodol ymlaen llaw gan y myfyriwr. Mae hyn yn cynnwys methu â chadarnhau a yw'r myfyriwr yn astudio gyda ni, neu wedi bod yn astudio gyda ni yn y gorffennol. Fodd bynnag, gallwn ddarparu gwybodaeth gyffredinol am gefnogaeth a gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr. 

 

Os yw rhiant / gwarcheidwad yn cysylltu â chi ac yn gofyn am fyfyriwr 

Eglurwch nad ydym yn gallu trafod myfyrwyr unigol, gan eu bod yn oedolion annibynnol, ac mae gennym ddyletswydd 

i amddiffyn eu preifatrwydd fel y manylir yn ein Polisi Cyfathrebu â Rhieni a 3ydd Partïon yma: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/documents/CommuicatingwithParentsand3rdParties.pdf  

Cadwch unrhyw drafodaeth yn gyffredinol, gan gyfeirio at ein polisïau, gweithdrefnau a systemau cefnogi, ond gan osgoi unrhyw gyfeiriad at fyfyrwyr unigol, e.e.: “Ni allaf siarad am fyfyriwr unigol, ond gallaf ddweud wrthych fod croeso i fyfyrwyr siarad â mi os oes ganddynt unrhyw bryderon am eu hastudiaethau”. 

Os yw rhiant / gwarcheidwad yn poeni am ddiffyg cyswllt gan eu plentyn neu am eu lles / iechyd meddwl eu plentyn 

Eglurwch fod myfyrwyr yn gallu bod yn brysur iawn ac yn cysylltu’n llai aml nag y gallai’r teulu fod wedi'i ddisgwyl. Awgrymwch eu bod yn dal i geisio cysylltu, ac os ydynt yn bryderus iawn, cynghorwch nhw i gysylltu â'r Heddlu.  

Dywedwch wrthynt fod gennym ni ddigonedd o gefnogaeth ar gael i fyfyrwyr sydd ar gael iddynt yn https://www.bangor.ac.uk/studentservices/index.php.cy  

Os yw rhiant / gwarcheidwad yn cysylltu â chi ar frys gyda'u pryderon 

Eglurwch fod myfyrwyr yn aml yn anghofio ffonio adref pan fyddant yn ymgartrefu, a rhowch sicrwydd iddynt y gall myfyrwyr gael mynediad at amrywiaeth o gefnogaeth drwy  https://www.bangor.ac.uk/studentservices/index.php.cy 

Y tu allan i oriau swyddfa, neu ar benwythnosau, cysylltwch â thîm Diogelwch y Brifysgol ar eu rhif argyfwng 24/7: 01248 382795. Awgrymwch eu bod yn dal i geisio cysylltu, ac os ydynt yn bryderus iawn, cynghorwch nhw i gysylltu â'r Heddlu.

Os yw rhiant / gwarcheidwad yn cysylltu â chi ynglŷn â chyllid eu plentyn, amgylchiadau byw, cwrs neu fater arall sy’n ymwneud â’r Brifysgol 

Cadwch unrhyw drafodaeth yn gyffredinol, gan gyfeirio at dudalennau gwe am ragor o wybodaeth, a cheisiwch osgoi cyfeirio at fyfyrwyr unigol, e.e.: “Ni allaf siarad am fyfyriwr unigol, ond gallaf roi rhywfaint o wybodaeth i chi am ein tudalennau gwe fel y gallwch weld y math o gefnogaeth sydd ar gael i bob myfyriwr.” 

Gallai rhai tudalennau gwe perthnasol gynnwys: 

Fel arfer, bydd y tîm Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr (neu’r tîm Diogelwch) yn mynd ar drywydd unrhyw bryderon a adroddir am les, er enghraifft drwy wneud gwiriad llesiant dros y ffôn, e-bost neu ymweliad â llety’r myfyriwr. Bydd y myfyriwr yn cael cynnig cefnogaeth lle bo angen ac yn cael ei annog i gysylltu â’i riant/gwarcheidwad, ond ni fyddwn fel arfer yn gwneud hyn ar ei ran, oni bai ei fod yn peri risg iddo’i hun neu i eraill.  

Ni fyddwn yn cadarnhau bod unrhyw un yn fyfyriwr yn y Brifysgol i drydydd parti, ond gallwn ddweud wrth rieni / gwarcheidwaid, pan fo pryderon wedi codi am fyfyrwyr, y bydd y pryderon hyn yn cael eu cymryd o ddifrif. 

Marwolaeth Myfyriwr

Gall marwolaeth o fewn cymuned y myfyrwyr, er ei fod yn ddigwyddiad cymharol brin, gael effaith emosiynol sylweddol ar bawb a oedd yn adnabod y myfyriwr. Mae ffactorau eraill a all gynyddu'r effaith ar fyfyrwyr eraill, megis pryd mae'n digwydd a'r amgylchiadau.  

Mae’n bwysig bod y brifysgol yn trin marwolaeth myfyriwr gyda sensitifrwydd, ac nad ydym yn ychwanegu at y trallod anochel i’r teulu, ffrindiau ac unrhyw un arall sy’n galaru. Dyma ein blaenoriaeth gyntaf bob amser.  

Rhaid ymdrin â negeseuon yn ofalus ac mewn modd cyson er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r cymorth y gallant ei gael. Rhaid inni hefyd gymryd ein harwain gan ddymuniadau’r perthynas agosaf. Ym mhob achos o farwolaeth myfyriwr, bydd arweinydd tactegol penodol yn gyfrifol am gysylltu a chytuno ar yr holl gyfathrebu yn fewnol ac yn allanol.  

Cofiwch bob amser na ddylech gysylltu â pherthynas agosaf y myfyriwr i’w hysbysu am y farwolaeth yr heddlu a/neu'r aelod staff priodol fydd yn gwneud hynny.  

Os darganfyddir corff 

  • Mae'n hanfodol nad ydych yn cyffwrdd â dim nac yn symud dim byd oni bai bod rhaid gwneud i gadarnhau bod y myfyriwr wedi marw. 
  • Ar y campws, Rhowch wybod i’r Tîm Diogelwch ar 01248 382795 a fydd wedyn yn hysbysu'r heddlu. 
  • Oddi ar y campws: dylech ffonio'r heddlu ar 999 ac yna hysbysu'r Tîm Diogelwch 01248 382795. 

Os cewch eich hysbysu am farwolaeth myfyriwr 

Os cewch eich hysbysu am farwolaeth myfyriwr trwy ffynonellau answyddogol (e.e. cyfryngau cymdeithasol, cyswllt gan fyfyriwr) rhowch wybod i'r Cofrestrydd Academaidd, Sue Moss neu Ysgrifennydd y Brifysgol, Gwenan Hine. Yn eu habsenoldeb, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr, Gian Fazey-Koven.  

Bydd y brifysgol fel arfer yn cael ei hysbysu am farwolaeth myfyriwr naill ai gan y perthynas agosaf neu gan y Gwasanaethau Brys (yr heddlu fel arfer). 

Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth yn ehangach gyda chydweithwyr neu fyfyrwyr ar y pwynt hwn: mae gennym gyfrifoldeb i gynnal preifatrwydd y myfyriwr a'r teulu dan sylw, i gefnogi lles pob aelod o'n cymuned yr effeithir arno ac i weithredu mewn ffordd sy'n cefnogi swyddogaethau'r rhai sydd â dyletswydd statudol. 

Os oeddech yn adnabod y myfyriwr, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn gallu darparu unrhyw fanylion rydych yn ymwybodol ohonynt, fel eu cwrs, carfan, lleoliadau presennol / diweddar ac ati wrth wneud yr hysbysiad. 

Gallai hyn fod yn brofiad anodd i chithau hefyd, felly byddwch yn ymwybodol o'ch anghenion eich hun, a chofiwch sicrhau bod unrhyw un arall yr effeithir arnynt yn gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael (gweler isod). 

Bydd y Cofrestrydd Academaidd / Ysgrifennydd y Brifysgol (neu ei enwebai, Pennaeth y Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr) yn gwirio'r manylion ac yn sicrhau bod yr holl gydweithwyr a myfyrwyr priodol yn cael eu hysbysu. Byddant hefyd yn trefnu i gefnogaeth gael ei chynnig i'r myfyrwyr a'r staff dan sylw.  

Bydd y Gwasanaeth Llesiant yn darparu mynediad â blaenoriaeth i’r myfyrwyr dan sylw. Gallant hefyd gynnig sesiynau grŵp, a all ganiatáu i grwpiau neu ffrindiau ddod at ei gilydd i fyfyrio a rhannu eu syniadau, eu teimladau a’u hatgofion mewn lleoliad gyda chefnogaeth. Trefnir cefnogaeth barhaus yn unol ag anghenion y myfyrwyr.  

Fel arfer, bydd y myfyrwyr hynny yr effeithir arnynt yn uniongyrchol yn cael neges e-bost yn cynnig cymorth wedi ei deilwra, ond mae croeso hefyd i fyfyrwyr ofyn am gymorth trwy eu tiwtor personol, neu drwy gysylltu â’r Gwasanaeth Llesiant dros y ffôn: 01248 383520 neu e-bost: gwasanaethaulles@bangor.ac.uk 

Mae gan staff fynediad at gymorth cyfrinachol trwy Vivup, rhaglen gefnogi staff y brifysgol y gellir ei chyrchu trwy FyMangor. Gallant hefyd ofyn am gyngor gan y Gwasanaeth Llesiant os oes ganddynt bryderon penodol am fyfyriwr. 

Bydd yr Is-ganghellor fel arfer yn anfon llythyr o gydymdeimlad at y perthynas agosaf, a bydd cynrychiolydd o’r brifysgol yn mynd i’r angladd, os yw’n briodol.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Myfyrwyr Anabl

Mae Prifysgol Bangor yn ymfalchïo mewn darparu cefnogaeth ragorol i fyfyrwyr anabl a chreu profiad cynhwysol a hygyrch.

Yn y cyd-destun hwn, mae ‘anabledd’ yn cynnwys cyflyrau iechyd tymor hir a pharhaus, namau corfforol a synhwyraidd, cyflyrau iechyd meddwl, a gwahaniaethau dysgu penodol (ADP), fel dyslecsia, dyspracsia, dyscalwlia ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).   

Efallai nad yw rhai myfyrwyr wedi cael diagnosis eto; gall eraill ddod yn anabl yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol; ac nid yw rhai myfyrwyr yn ystyried eu hunain yn anabl ond efallai y bydd angen cymorth arnynt. Mae llawer o fyfyrwyr yn gweld nad yw strategaethau ymdopi blaenorol a ddefnyddiwyd ganddynt yn yr ysgol neu'r coleg yn gweithio cystal yn y brifysgol.

Os bydd myfyriwr yn dweud bod ganddo nam a bod angen cefnogaeth neu addasiadau arno

Anogwch nhw i gysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd. Gallant wneud hyn drwy: ffôn: 01248 382032, e-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu drwy ymweld â’r Gwasanaethau Anabledd yn Neuadd Rathbone yn ystod oriau agor. 

Byddem yn argymell i fyfyrwyr gysylltu â'r Gwasanaethau Anabledd cyn gynted â phosibl, yn hytrach nag aros nes y cyfyd anawsterau. Rydym yn parchu dewis rhai myfyrwyr i beidio â cheisio cymorth, ond mae'n bwysig eu bod yn deall goblygiadau'r dewis hwn. Er enghraifft, efallai na chânt gymorth adeg arholiadau, neu efallai na fyddant yn ennill y marciau y gallant eu hennill. 

Os yw myfyriwr yn meddwl y gallai fod ganddo anabledd ac eisiau cymorth 

Awgrymwch eu bod yn cysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd cyn gynted â phosibl. Gall gymryd peth amser i asesu a darparu cymorth priodol, ond efallai y bydd cyngor a chymorth hefyd y gallwn eu rhoi yn gyflym tra bydd y broses yn mynd rhagddi. 

Gall y Gwasanaethau Anabledd gynnig rhywfaint o gyngor cychwynnol i fyfyrwyr ac yna trefnu iddynt gwrdd â chynghorydd am gyngor ac arweiniad manylach os oes angen. Gall Ymgynghorwyr Anabledd ddarparu gwybodaeth am: sgrinio ac asesu dyslecsia neu wneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl a gallant hefyd drefnu pecyn cymorth. Gallai hyn gynnwys: addasiadau i lety, cymorth arbenigol, neu addasiadau i ddysgu, addysgu ac asesu.  

Os bydd y myfyriwr yn rhoi caniatâd, bydd gwybodaeth berthnasol ar gael i diwtoriaid trwy fyMangor. 

I gael rhagor o wybodaeth neu arweiniad ynghylch arfer cynhwysol ac addasiadau rhesymol, cysylltwch â’r Gwasanaethau Anabledd drwy e-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 382032.  

Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd

Mae myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio yn bobl ifanc sy'n astudio heb gefnogaeth a chymeradwyaeth rhwydwaith y teulu. Yn aml iawn, does gan y bobl ifanc hynny ddim cysylltiad â'r teulu ac maent wedi ymadael â sefyllfa anodd neu maent wedi cael eu gwrthod gan y teulu. 

Mae’n bosibl na fydd myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni bob amser yn datgelu hynny i chi’n uniongyrchol. Efallai y byddant yn awgrymu hynny drwy ddweud nad oes ganddynt rwydwaith cefnogaeth traddodiadol fel sydd gan fyfyrwyr eraill, neu drwy fod yn amwys ynghylch eu cynlluniau dros y gwyliau neu achlysuron pan fo myfyrwyr eraill yn dychwelyd i'w cartrefi teuluol. 

Os bydd myfyrwyr yn dweud wrthych eu bod wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni 

Ceisiwch fod yn gefnogol ond yn niwtral. Peidiwch â bod yn or-sympathetig na chynnig cefnogaeth ychwanegol a allai fod 

yn amhriodol. Bydd sefyllfa pob myfyriwr yn wahanol. 

Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr yn gwybod bod Prifysgol Bangor yn gymuned amrywiol, a bod amrywiaeth eang o gefnogaeth i bob myfyriwr, beth bynnag eu cefndir a’u hamgylchiadau. 

Gwnewch nodyn byr a chyfrinachol o'r drafodaeth gyda'r myfyriwr. Mae’n gyffredin i fyfyriwr sydd wedi ymddieithrio orfod llenwi Ffurflen Cadarnhad o Ymddieithrio at ddibenion Cyllid Myfyrwyr – mae honno’n gofyn i drydydd parti (mae’r ffurflen yn nodi darlithydd Prifysgol fel enghraifft) sydd â gwybodaeth am y sefyllfa gadarnhau manylion hysbys yr ymddieithriad ar y ffurflen. Os bydd angen i fyfyriwr wneud hynny, gall fod yn ddefnyddiol gallu nodi'r dyddiad y daethoch i wybod am y sefyllfa am y tro cyntaf.  

Os yw myfyriwr eisiau siarad â rhywun neu eisiau rhywfaint o gefnogaeth 

Awgrymwch eu bod yn cysylltu â Wendy Willliams neu Huw Jones yn y Gwasanaeth Cefnogaeth i Fyfyrwyr sef y cyswllt penodedig i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio. Gallant wneud hynny ar e-bost: cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk neu ffonio: 01248 383637 / 01248 383707.   

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cefnogaeth ariannol ar gael: Cefnogaeth i Fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio | a Gweinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr: Cefnogaeth Ariannol | Prifysgol Bangor

Os bydd myfyriwr yn dweud nad oes ganddynt gartref i ddychwelyd iddo yn ystod gwyliau'r haf 

Cynghorwch nhw i gysylltu â: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk am wybodaeth am lety yn y sector preifat neu neuaddau@bangor.ac.uk am wybodaeth am yr ystafelloedd sydd ar gael yn llety'r brifysgol. 

 

Bydd Wendy neu Huw yn gallu trafod gyda’r myfyriwr ynglŷn â’r lefel a’r math o gefnogaeth yr hoffent ei gael. Gallai hynny fod trwy gyfarfodydd un-i-un rheolaidd neu ambell i sgwrs anffurfiol os oes arnynt angen rhywun i siarad â nhw. Rhoddir canllawiau hefyd ar rwydweithiau cefnogaeth ffurfiol ac anffurfiol y gallai'r myfyriwr ddymuno cyfeirio atynt. 

Ffydd, Cred a Chrefydd

Mae dod i'r brifysgol yn gyfnod cyffrous i fyfyrwyr ac mae’n dod â mwy o ryddid i gwestiynu'r byd o'u cwmpas a'u lle ynddo. I lawer gall hynny olygu archwilio materion ffydd, efallai cwestiynu eu credoau eu hunain, neu archwilio syniadau a phosibiliadau newydd. Fel Prifysgol, mae angen inni gofio hefyd ein cyfrifoldebau ar gyfer ymateb i faterion ymarferol sy’n ymwneud ag arfer ffydd ar y campws a cheisiadau gan fyfyrwyr am addasiadau. Gall myfyrwyr ddod atoch chi gydag amrywiaeth o gwestiynau am ffydd. 

Os yw myfyriwr eisiau siarad â rhywun am ffydd, cred, crefydd neu gefnogaeth ysbrydol 

Awgrymu eu bod yn cysylltu â Thîm y Gaplaniaeth. Gallant wneud hynny drwy e-bostio: caplaniaeth@bangor.ac.uk neu drwy ffonio 01248 382024 yn ystod yr oriau swyddfa arferol. 

Gall y Gaplaniaeth roi cyflwyniadau i eglwysi a chymunedau ffydd yn lleol, ac mae’n cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr o bob ffydd a dim ffydd. Mae rhagor o wybodaeth am Dîm y Gaplaniaeth ar gael ar FyMangor. 

Gan ddibynnu ar eu ffydd neu’u cred efallai y bydd myfyrwyr am gysylltu ag Undeb Bangor, Undeb y Myfyrwyr, oherwydd mae nifer o gymdeithasau ffydd i’r myfyrwyr ymuno â nhw.  

Os yw myfyriwr eisiau gwybodaeth am weddïo neu fannau tawel yn y Brifysgol 

Mae cyfleusterau Gweddïo ac Ystafelloedd Tawel, a chyfleusterau ymolchi wrth law, ar gael yn Anecs Rathbone. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we’r Gaplaniaeth a Darpariaeth Ffydd 

 

Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig amrywiol wasanaethau ffydd i gefnogi’r myfyrwyr, boed yn aelod o grŵp ffydd neu’r rhai nad ydynt yn perthyn i draddodiadau ffydd o gwbl. Gall Tîm y Gaplaniaeth gynnig gwybodaeth am fannau addoli lleol a grwpiau ffydd a gallant gyfeirio at Wasanaethau Myfyrwyr eraill, megis Lles, Cefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol neu Gefnogaeth i Fyfyrwyr fel bo'n briodol. Maent hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn i ddathlu gwahanol wyliau ffydd. Caiff y rheini eu hyrwyddo ar-lein ar eu tudalennau gwe yn ogystal ag ym Mwletinau’r Myfyrwyr a’r Staff.  

Addasrwydd i astudio

Mae'r weithdrefn hon yn ymwneud â myfyrwyr sy'n achosi pryder sylweddol, a/neu sy'n peri risg o niwed iddynt eu hunain neu i eraill. Cynlluniwyd y weithdrefn i fod yn broses gefnogol i'r myfyriwr, ac mae’n canolbwyntio ar sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn ei lle iddynt lwyddo yn eu hastudiaethau a gweithredu mewn modd priodol fel aelod o gymuned y Brifysgol. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at fyfyrwyr sydd â salwch corfforol neu feddyliol.  

Gall staff neu fyfyrwyr godi pryderon am iechyd a lles myfyriwr. Ni ddisgwylir i fyfyrwyr reoli sefyllfaoedd o'r fath a dylent bob amser gysylltu ag aelod staff, neu gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr, am gyngor ac arweiniad. 

Mae’r polisi’n amlinellu’r camau y gall staff eu cymryd pan fo ganddynt bryderon sy'n ymwneud ag addasrwydd i astudio.  Mae manylion ynghylch pryd y gellir, a phryd na ellir, defnyddio'r polisi wedi'u hamlinellu ynddo. Anogir staff sy'n ystyried defnyddio'r polisi i drafod eu pryderon a'u bwriadau cyn cychwyn y weithdrefn gyda'r naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles neu’r Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr.  

Mae tair lefel i'r weithdrefn, yn seiliedig ar y risg a welir i iechyd, diogelwch a lles meddyliol y myfyriwr neu eraill, ac ar ymateb y myfyriwr i unrhyw ymyriad.  Gall ymyriadau yng Ngham 1 fod yn ddigon i gefnogi'r myfyriwr. Gall fyfyrwyr eraill symud ymlaen trwy bob cam gyda chanlyniad sy'n gofyn iddynt gymryd amser i ffwrdd o'u hastudiaethau i amddiffyn eu hiechyd, diogelwch neu les. Mae lefelau risg ac ymyrraeth wedi’u diffinio’n fras fel a ganlyn: 

Cam 1: Pan fo pryderon cychwynnol neu bryderon yn dod i'r amlwg am iechyd, diogelwch neu les meddyliol myfyriwr. Gall unrhyw aelod o staff gychwyn hyn. Mae ymyriadau’n debygol o fod yn lleol, gan gynnig cefnogaeth fwy anffurfiol trwy ysgol academaidd neu wasanaeth cefnogi proffesiynol.  

Cam 2: Pan fo pryderon parhaol neu sylweddol am iechyd, diogelwch neu les meddyliol myfyriwr. Dechreuir y cam hwn gan Bennaeth y Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr (neu ei enwebai). Yn ystod y cam hwn, gwahoddir y myfyriwr i drafod y pryderon gyda Phennaeth y Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr (neu enwebai) i nodi cymorth priodol a chytuno ar gynllun gweithredu er mwyn rhoi hyn ar waith.  

Cam 3: Pan fo pryderon difrifol neu gyson am weithredoedd neu ymddygiad myfyriwr unigol sy'n achosi risg sylweddol i iechyd, diogelwch a lles y myfyriwr ei hun neu aelodau eraill o gymuned y Brifysgol. Caiff y cam hwn ei arwain gan Bennaeth y Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr (neu ei enwebai). Bydd panel, a gadeirir gan y Dirprwy i’r Is-ganghellor neu Ddirprwy Is-ganghellor yn cyfarfod i ystyried achos y myfyriwr. Amlinellir y canlyniadau posibl yn y weithdrefn.  

Ar bob cam yn y broses, anogir y myfyriwr i ymgysylltu â chefnogaeth briodol. 

Gweithdrefn Addasrwydd i Astudio: https://my.bangor.ac.uk/regulations/procs/proc08.php.cy  

Newid Rhywedd

Mae Prifysgol Bangor yn ymrwymo i ddarparu cymuned gynhwysol a chroesawgar lle caiff pawb eu parchu fel unigolion. Mae hynny’n cynnwys cynnig cefnogaeth a dealltwriaeth i unigolion sy'n dymuno cymryd, neu sydd yn cymryd camau i’w cyflwyno eu hunain mewn rhywedd sy'n wahanol i rywedd eu geni neu mewn ffordd rhyweddhylifol.  

Ni fydd pob myfyriwr sy’n uniaethu’n drawsryweddol yn gofyn am yr un lefel o gefnogaeth, ond mae’r Brifysgol yn gallu cynnig gwasanaethau sydd o fudd i unrhyw un sy’n cwestiynu eu hunaniaeth o ran rhywedd neu sydd yn y broses o newid rhywedd. Pan fo pobl yn newid rhywedd, neu'n dod allan yn drawsryweddol neu'n anneuaidd neu'n dechrau eu cyflwyno eu hunain mewn rhywedd sy'n wahanol i rywedd eu geni, neu mewn ffordd ryweddhylifol, gall hynny achosi heriau i rai sydd â syniadau sefydlog am rywedd. Mae'n hanfodol bod y staff, yn enwedig staff ysgol y myfyriwr, yn gefnogol. 

Mae ailbennu rhywedd yn un o’r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae’r amddiffyniad yn dechrau o’r adeg y byddant yn nodi eu bwriad i ddechrau’r broses. 

Os bydd myfyriwr yn datgelu ei fod yn ystyried newid rhywedd, neu mae wrthi’n newid rhywedd 

Gwrandewch ar y myfyriwr; bydd clust anfeirniadol yn help mawr a gofynnwch pa gefnogaeth sydd ei angen arnynt. Cofiwch: 

  • Mae'n bwysig eich bod yn meddwl am y myfyriwr fel y rhywedd y mae'n uniaethu ag ef a'ch bod yn defnyddio'r enw a'r rhagenwau o'u dewis. 
  • Parchwch eu ffiniau ac unrhyw gwestiynau y gellid eu hystyried yn bersonol.  
  • Parchwch eu preifatrwydd a pheidiwch â dweud wrth neb arall am eu statws trawsryweddol heb eu caniatâd neilltuol, a dim ond at ddiben priodol. Bydd rhai myfyrwyr yn dymuno cadw eu hamgylchiadau’n breifat neu gyfyngu ar y rhai sy'n gwybod amdanynt; efallai y bydd eraill am ddatgelu hynny’n ehangach. Nid oes un ffordd gywir i hynny ddigwydd ac mae'n well trafod gyda'r myfyriwr a chytuno ynglŷn â chynllun sy'n addas iddynt. 
  • Gall anghenion myfyrwyr sy'n newid rhywedd am gefnogaeth newid. Gallai eu dewisiadau newid dros amser. Byddwch yn barod am hynny.  

Mi allwch chi rannu’r daflen ar-lein hon gyda’r myfyriwr hefyd. Mae’n rhoi cyngor da i fyfyrwyr ynglŷn â’r Polisi Cydraddoldeb Myfyrwyr Trawsryweddol. Gallai eu cyfeirio at Gymdeithas LHDTC+ UNDEB Bangor a/neu Rwydwaith LHDTC+ y Brifysgol ar gyfer ôl-raddedigion a staff, fod yn help hefyd a'u galluogi i rannu profiadau neu geisio cefnogaeth gan gyfoedion. 

Mae’r Polisi a Chanllawiau Cydraddoldeb Myfyrwyr Trawsryweddol yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i fyfyrwyr a staff, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch yr hyn i'w wneud os bydd myfyriwr yn datgelu i chi eu bod yn drawsryweddol neu'n newid rhywedd, ein canllawiau ynglŷn â pharchu unigolion trawsryweddol, rheoli cofnodion y myfyrwyr a rheoli ymatebion myfyrwyr a staff eraill. 

Os hoffai myfyriwr gael cefnogaeth broffesiynol  

Gall y Gwasanaeth Lles roi cefnogaeth a chyngor ynglŷn â newid rhywedd i fyfyrwyr, yn enwedig os ydynt yn cael triniaeth neu’n profi amgylchiadau sy’n effeithio ar eu hastudiaethau. Gallant hunangyfeirio gyda'r ffurflen hon i gael cyngor cyfrinachol. Gyda chaniatâd y myfyriwr cewch wneud atgyfeiriad ar eu rhan, os yw'n briodol, trwy e-bostio gwasanaethaulles@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 388520  

Os yw'r myfyriwr yn dymuno newid y cofnod sydd ar ffeil i adlewyrchu eu henw a'u rhyw cyfredol 

Ar adeg briodol iddyn nhw efallai y bydd y myfyriwr yn dymuno i'w cofnod myfyriwr adlewyrchu eu henw a'u rhywedd cyfredol. Gallai hynny gynnwys disodli hen gofnodion i ddileu cyfeiriad at eu rhywedd blaenorol. Gall Gweinyddu Myfyrwyr roi cyngor ynglŷn â diweddaru cofnodion canolog gweinyddiaeth-myfyrwyr@bangor.ac.uk

Bydd myfyrwyr sy'n cysylltu â’r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr yn cael cefnogaeth briodol a gwybodaeth perthnasol. Fel rheol ni fydd y gwasanaethau’n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gefnogaeth a ddarparwyd oherwydd bod hynny’n gyfrinachol.  

Digartrefedd

Mae digartrefedd yn fater amrywiol iawn. Mae elusen Shelter yn diffinio digartrefedd fel rhywbeth sy’n digwydd pan fo rhywun yn byw mewn tŷ anaddas, heb ddim hawliau i aros lle maen nhw neu’u bod yn cysgu allan. Gall myfyrwyr ddod ar draws llawer o wahanol broblemau gyda'u llety ac mae eu hamgylchiadau personol a digwyddiadau cymhleth mewn bywyd yn gallu gwaethygu pethau. Mae’n bosibl bod myfyrwyr sy’n wynebu neu’n profi digartrefedd yn wynebu heriau eraill hefyd (e.e. ariannol, tor-perthynas, ymddieithrio oddi wrth y teulu) sy’n golygu bod pwysau mawr arnynt.

Efallai y sylwch chi nad ydynt yn canolbwyntio’n iawn, eu bod yn fwy blinedig mewn dosbarthiadau ac o bosibl yn cymryd llai o ofal gyda'u hymddangosiad. Efallai y byddant yn colli diddordeb yn eu hastudiaethau. Efallai y bydd myfyriwr hyd yn oed yn dweud wrthych ei fod yn cysgu ar lawr ffrind, ei fod yn “syrffio soffas” neu'n cysgu yn y car.

Os bydd y myfyriwr yn dweud wrthych ei fod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref

Rhowch sicrwydd iddynt fod help ar gael, ac y byddant yn dal i allu parhau â’u hastudiaethau, gyda’r gefnogaeth briodol. Dywedwch wrthyn nhw fod amrywiol opsiynau ar gael, gan gynnwys help gyda chyllid (ar gyfer llety a/neu ar gyfer bwyd, dillad a phethau ymolchi) pe bai angen.

Awgrymwch eu bod yn cysylltu â Chefnogaeth i Fyfyrwyr cyn gynted â phosibl. Gallant wneud hynny dros e-bost: cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk neu ffonio: 01248 383637, neu galw heibio Neuadd Rathbone yn ystod yr oriau agor (Llun – Gwener, 9am – 4:30pm).

Os ydynt yn gyndyn o gysylltu â gwasanaethau cefnogaeth

Os yw'r myfyriwr yn gyndyn o gysylltu â Chefnogaeth i Fyfyrwyr, ceisiwch aros yn niwtral ac yn gefnogol. Nhw sy’n dewis â phwy maen nhw am siarad, ac efallai eu bod nhw'n teimlo'n fregus iawn ar y pryd. Atgoffwch nhw ein bod ni yma i'w helpu, a bod hynny’n rhywbeth rydyn ni wedi delio ag ef gyda myfyrwyr eraill o'r blaen. Sicrhewch fod manylion cyswllt Cefnogaeth i Fyfyrwyr ganddyntrhag ofn iddynt newid eu meddwl.

Os dewisant beidio ag ymwneud â gwasanaethau cefnogaeth mewnol yn y fan a’r lle, awgrymwch efallai y gallent droi at Shelter Cymru a all roi cyngor cyfrinachol ynglŷn â’r opsiynau sydd ar gael iddynt.

Mewn argyfwng pan fo rhywun yn ddigartref yn gyfredol neu'n cysgu allan digartref@gwynedd.llyw.cymru 01766 771000

Bydd Cefnogaeth i Fyfyrwyr yn trefnu i'r myfyriwr siarad ag Ymgynghorydd. Byddant yn nodi'r gefnogaeth sydd ei angen ar y myfyriwr (fel Llety, Cyngor Ariannol, Cwnsela ac Iechyd Meddwl) ac yn helpu'r myfyriwr gysylltu â'r gwasanaethau perthnasol. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y byddwn yn gallu helpu’r myfyriwr ddod o hyd i lety brys yn y tymor byr, a darparu ar gyfer eu hanghenion uniongyrchol, fel bwyd, pethau ymolchi, dillad gwely, a help gyda’r rhent. Yna gallant helpu'r myfyriwr gynllunio ymlaen llaw, a’u cyfeirio at asiantaethau allanol os bydd angen.

Mewnfudo a Fisas

Efallai y bydd myfyrwyr yn dod atoch gyda chwestiynau ynghylch gofynion fisas, sut mae cael cerdyn fisa neu BRP (Trwydded Preswylio Prydain) neu eisiau gwahodd aelodau o'r teulu i ddod i fyw gyda nhw yma yn y Deyrnas Unedig.

Mae rheolau mewnfudo’n newid yn aml a gallant fod yn benodol i'r unigolyn.  Gallai rhoi gwybodaeth anghywir neu hen wybodaeth arwain at ganlyniadau difrifol i’r myfyriwr, gan gynnwys diddymu fisa os nad yw’n cydymffurfio â’r rheoliadau. 

Cyfeirio'r myfyriwr yn syth at y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol. Maent yn cynnig cyngor ynglŷn â mewnfudo a fisas a gall myfyrwyr anfon e-bost atynt yn uniongyrchol: internationalsupport@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382882.

 

Os oes gan fyfyriwr gwestiynau cyffredinol am fisas a mewnfudo

Mae nifer o adnoddau sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd ar gael ar-lein a dylai’r myfyriwr eu darllen cyn cysylltu â’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol: https://www.bangor.ac.uk/international/support/visa_immigration

Os yw'r myfyriwr eisoes wedi cael yr wybodaeth honno a bod angen rhagor o arweiniad, cefnogaeth neu wybodaeth arno/arni, dywedwch wrtho/wrthi am gysylltu â’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn uniongyrchol. Gallant e-bostio internationalsupport@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 382882. Fel arall, gallant alw yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg yn ystod yr oriau agor (Llun – Gwener, 10am – 4pm).

Os oes gan y myfyriwr gwestiynau am ei statws fisa/mewnfudo neu statws y teulu

Dylai'r myfyriwr gysylltu â’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol. Gallant e-bostio internationalsupport@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 382882. Fel arall, gallant alw yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg yn ystod yr oriau agor (Llun – Gwener, 10am – 4pm).

Os yw’r myfyriwr yn pryderu bod eu fisa ar fin dod i ben neu fod y fisa eisoes wedi darfod

Mae gan fyfyrwyr tan y dyddiad y daw’r fisa i ben i wneud cais am estyniad/newid i fisa newydd. Os nad yw’r myfyriwr wedi ymestyn ei fisa a bod dyddiad darfod y fisa’n agosáu, gall hynny fod yn anodd iawn iddynt. Ceisiwch dawelu meddwl y myfyriwr bod cefnogaeth ar gael a gofynnwch iddynt gysylltu â: internationalsupport@bangor.ac.uk am gyngor am y camau nesaf.

Os yw fisa’r myfyriwr wedi dod i ben, mae'n well gweithredu'n gyflym. Dywedwch wrth y myfyriwr am gysylltu â: mewnfudo@bangor.ac.uk a internationalsupport@bangor.ac.uk ar unwaith.  Os yw'n bosibl iddynt wneud hynny, dylent fynd yn y cnawd i weld y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol  yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg yn ystod yr oriau swyddfa (Llun – Gwener, 10am – 4pm).

Os yw fisa myfyriwr wedi'i dynnu'n ôl gan y Brifysgol

Mae sawl rheswm pam y gall y Brifysgol dynnu fisa myfyriwr yn ôl (h.y. ei ganslo). Cyfeiriwch y myfyriwr at Uned Fewnfudo Gweinyddu Myfyrwyr. Gallant gysylltu â nhw yn: mewnfudo@bangor.ac.uk / 01248 382776 neu ymwelwch â nhw yn yr Hyb Gweinyddu Myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau (Llawr 1af).

Os yw’r myfyriwr wedi colli ei BRP

Gallwch gyfeirio'r myfyriwr at Wefan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol trwy’r ddolen ganlynol:

https://www.bangor.ac.uk/international/support/lost_passport_visa

Os yw'r myfyriwr dramor ac yn pryderu am y sefyllfa gallwch annog y myfyriwr i ffonio'r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn uniongyrchol ar TEAMS neu 01248 382776. Byddant yn gallu cefnogi'r myfyriwr trwy fynd trwy'r holl gamau i'w dilyn dros y ffôn.

Os dewch i wybod am weithgareddau anghyfreithlon sy’n ymwneud â mewnfudo a chydymffurfiaeth â fisas

Mae'n ofynnol i Brifysgol Bangor roi gwybod am unrhyw weithgareddau anghyfreithlon sy'n ymwneud â mewnfudo a chydymffurfio â fisas. Os bydd myfyriwr yn datgelu i chi y bu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n groes i reoliadau ei fisa, dylid rhannu'r wybodaeth â: mewnfudo@bangor.ac.uk at ddibenion dilyniant. Pe na baech yn rhannu gwybodaeth fel yr uchod gellid ystyried bod y Brifysgol wedi derbyn gwybodaeth am ddiffyg cydymffurfiaeth posibl ac ni chafodd hynny ei ymchwilio ac ni weithredwyd ar yr wybodaeth a roddwyd iddi. Gallai hynny effeithio ar gofrestriad UKVI y Brifysgol a pheryglu recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yn y dyfodol.

Anawsterau gydag Iechyd Meddwl neu Emosiynol 

Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, mae 20% o fyfyrwyr yn ystyried bod arnynt gyflwr iechyd meddwl, sy'n cyd-daro â nifer yr achosion ymhlith oedolion ifanc (16-24 oed) yn y boblogaeth gyffredinol. Gall dod yn fyfyriwr a bywyd myfyriwr fod yn anodd i’r sawl sy'n byw gyda chyflwr iechyd meddwl, a gall beri teimladau o orbryder, hwyliau isel, neu bryderon am beidio â ffitio i mewn. Er bod pryderon o’r fath yn effeithio ar bawb o bryd i'w gilydd, i rai myfyrwyr gallant fod yn llethol. I eraill, gall digwyddiadau mewn bywyd fel profedigaeth neu brofiadau trawmatig eraill a all effeithio’n ddifrifol ar eu hastudiaethau a'u bywyd beunyddiol. I unrhyw fyfyriwr sy’n cael trafferthion, gall y Gwasanaeth Llesiant gynnig cefnogaeth ac arweiniad arbenigol ynglŷn â rheoli eu hiechyd meddwl a llwyddo yn eu hastudiaethau. 

Pan fo angen cefnogaeth ar fyfyriwr, ond nid yw mewn perygl uniongyrchol 

Awgrymwch eu bod yn cysylltu â’r Gwasanaethau Llesiant. Gallant hunan-atgyfeirio ar-lein gyda ffurflen fer neu drwy e-bostio gwasanaethaulles@bangor.ac.uk. Gallwch gysylltu hefyd dros y ffôn ar 10248 388520 neu drwy alw i mewn i Neuadd Rathbone a siarad â staff y dderbynfa.   

Os yw’r myfyriwr eisoes yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Llesiant, awgrymwch eu bod yn cysylltu â’r ymarferydd y buont yn ei weld, neu os yw’n ansicr ynghylch unrhyw agwedd ar gefnogaeth y gwasanaeth, awgrymwch eu bod yn e-bostio gwasanaethaulles@bangor.ac.uk gydag unrhyw gwestiynau.  

Dywedwch wrth y myfyriwr y gall dderbyn cefnogaeth trwy’r meddyg teulu hefyd, ac os nad ydynt yn teimlo y gallant eu cadw 

eu hunain yn ddiogel ar unrhyw adeg dylent ddeialu 999 neu fynd i’r Adran Achosion Brys.  

Os nad yw’r myfyriwr yn gallu, nac yn fodlon, ymwneud â'r Gwasanaeth Llesiant, ac mae angen cyngor arnoch ynglŷn â sut i fynd ynghylch pethau 

O fewn yr oriau gwaith arferol, gall y staff anfon e-bost at gwasanaethaulles@bangor.ac.uk am gyngor, a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi, y diwrnod hwnnw fel rheol. 

Os byddwch, ar unrhyw adeg, yn ymwybodol o fyfyriwr sydd mewn perygl uniongyrchol o’i niweidio ei hun neu eraill 

Cysylltwch â Swyddogion Diogelwch y Brifysgol ar eu rhif argyfwng 24/7: 01248 382795. Rhowch wybod iddynt am eich lleoliad, eich enw, enw'r myfyriwr a natur y sefyllfa. Os oes angen, ffoniwch 999 a gofynnwch am ragor o gymorth. Rhowch wybod i'r Tîm Diogelwch os bydd y gwasanaethau brys yn dod. 

Os ydych chi'n ystyried eich bod chi neu eraill mewn perygl, gadewch y myfyriwr ac ewch o’r fan mor gyflym ac mor dawel â phosib. Rhowch wybod i’r Tîm Diogelwch ac os oes angen, ffoniwch 999 a gofynnwch am ragor o gymorth. Rhowch wybod i'r Tîm Diogelwch os bydd y gwasanaethau brys yn dod. 

Os yw’r myfyriwr yn ymwneud â’r Gwasanaeth Llesiant cynigir Apwyntiad Llesiant cychwynnol iddynt i asesu eu hanghenion am gefnogaeth. Y pryd hynny, cynigir cyngor priodol, atgyfeiriadau at wasanaethau eraill, neu gwnsela a/neu gefnogaeth gydag iechyd meddwl. Gall y gefnogaeth a gynigir amrywio gan ddibynnu yn ôl y mathau o broblemau y mae'r myfyriwr yn eu profi. 

Mae apwyntiadau llesiant ar gael fel rheol o fewn 5 diwrnod gwaith, neu’n gynt os gall y myfyrwyr fod yn hyblyg o ran amser. Efallai y bydd angen aros wedyn am apwyntiad dilynol, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ei angen, ond caiff y myfyriwr gynllun interim (gan gynnwys llinellau cymorth os bydd angen), a bydd yn derbyn diweddariadau wythnosol gan y gwasanaeth ac yn cael gwybod y gall drefnu apwyntiad arall os bydd rhywbeth yn newid wrth iddynt aros. 

Cyngor am Arian a Phryderon Ariannol

Mae arian yn bryder i lawer o fyfyrwyr a gall effeithio’n ddirfawr ar eu perfformiad academaidd a’u lles cyffredinol. Gall dechrau a diwedd semester beri straen mawr oherwydd efallai na fydd benthyciadau wedi’u derbyn, neu efallai fod arian wedi darfod. Chwiliwch am arwyddion o bryder, gostyngiad o ran perfformiad, colli ymrwymiadau academaidd, neu hyd yn oed sôn am adael y brifysgol, fel awgrymiadau posibl bod un o'ch myfyrwyr yn ei chael hi'n anodd yn ariannol.

Os yw myfyriwr yn ceisio gwybodaeth ariannol gyffredinol

Cyfeiriwch nhw at dudalen we Cefnogaeth Ariannol am wybodaeth am gyllid, caledi, cyllidebu bwrsariaethau a'r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr. Peidiwch â chynnig cyngor ariannol oherwydd mae’r rheolau, y rheoliadau a’r cymorth yn newid yn rheolaidd ac yn amrywio yn ôl sefyllfaoedd personol y myfyrwyr.

Os yw myfyriwr eisiau cyngor ariannol mwy penodol

Awgrymwch eu bod yn siarad â'r Uned Cefnogaeth Ariannol. Gallant wneud hynny dros y ffôn: 01248 383566 / 01248 383637, drwy e-bostio: cymorthariannol@bangor.ac.uk neu drwy ymweld â Neuadd Rathbone yn ystod yr oriau agor.

Os oes pryderon neilltuol y mae’r myfyriwr am eu trafod, megis bod benthyciad y myfyriwr yn hwyr, neu galedi ariannol, gallwch awgrymu eu bod yn dod ag unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth gyda nhw, i’w trafod gyda’r Tîm.

Os nad oes gan fyfyriwr arian

Dywedwch wrthynt am gysylltu â: cymorthariannol@bangor.ac.uk cyn gynted â phosibl. Rydym yn annog y myfyrwyr i beidio â chymryd benthyciadau diwrnod cyflog na ‘benthyciadau gan siarcod’ oherwydd bod cyfraddau llog afresymol arnynt sy’n arwain at gylch dieflig o ddyledion.

Gall fod nifer o ffyrdd y gallwn helpu, gan gynnwys atebion tymor byr, megis talebau bwyd neu grant argyfwng, gan ddibynnu ar anghenion ac amgylchiadau unigol y myfyrwyr.

Os yw’r myfyriwr yn profi caledi ariannol

Mae’r Gronfa Galedi ar gael i fyfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Bangor, boed yn Israddedig neu’n Ôl-raddedig, o’r Deyrnas Unedig, Undeb Ewrop neu’n fyfyriwr Rhyngwladol, ac yn dilyn cyrsiau llawn-amser neu ran-amser. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Cefnogaeth Ariannol: https://www.bangor.ac.uk/student-services/hardship-fund

 Mae’r dyfarniadau'n seiliedig ar asesiad llawn o amgylchiadau'r myfyriwr a gallant helpu gyda chostau hanfodol na ellid rhoi cyfrif amdanynt. Gall staff Cefnogaeth Ariannol gynnig cefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr wrth iddynt gwblhau'r broses ymgeisio. 

Bydd yr Uned Cefnogaeth Ariannol yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad i fyfyriwr drwy gydol y broses ymgeisio. Gallai hynny fod ar e-bost, apwyntiad yn y cnawd, cyfarfod Teams ar-lein neu alwad ffôn. Os bydd angen, gall yr Uned Cefnogaeth Ariannol gysylltu ag asiantaethau allanol megis Cyllid Myfyrwyr. Gall y staff hefyd gynnig cyngor a gwybodaeth i fyfyrwyr ynglŷn â chyllidebu. Caiff y myfyriwr wybod am unrhyw gefnogaeth ariannol y gallai fod yn gymwys i’w derbyn. Caiff ei gefnogi drwy’r prosesau perthnasol i gael mynediad at y gefnogaeth.

Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol 

Mae Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (PLSP) yn cynnwys yr addasiadau rhesymol y mae’n rhaid i’r Brifysgol eu gwneud o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau bod myfyrwyr anabl yn gallu cael mynediad at bob agwedd ar fywyd prifysgol – dysgu ac addysgu, asesu, Neuaddau, y llyfrgell a’r mannau dysgu; Mae Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol yn cynnwys mynediad digidol a ffisegol. 

Yn y cyd-destun hwn, mae ‘anabledd’ yn cynnwys cyflyrau iechyd tymor hir a pharhaus, namau corfforol a synhwyraidd, cyflyrau iechyd meddwl, a gwahaniaethau dysgu penodol (ADP), fel dyslecsia, dyspracsia, dyscalwlia ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).   

Mae system y Cynllun Cefnogi Dysgu Personol yn eistedd ar ben FyMangor ac mae'n dwyn ynghyd yr holl addasiadau rhesymol mewn un gwasanaeth ar-lein hawdd ei gyrchu. 

Caiff yr wybodaeth sydd mewn Cynllun Cefnogi Dysgu Personol ei rhannu ar sail yr angen i wybod gan ddibynnu ar rôl yr aelod o staff gyda'r myfyriwr. 

Os dilynwch yr Addasiadau Rhesymol sydd mewn Cynllun Cefnogi Dysgu Personol bydd hynny’n sicrhau eich bod yn bodloni’r rhwymedigaethau cyfreithiol unigol sydd arnoch o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2021.  

Er mwyn cael CCDP rhaid i fyfyriwr gofrestru gyda'r Gwasanaethau Anabledd ac fel rhan o'r broses rhaid cyflwyno tystiolaeth ddogfennol - caiff hynny oll ei wneud ar-lein. 

Mae’r ddolen i gofrestru ynghyd â gwybodaeth am CCDP i fyfyrwyr ar gael yma: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/disability/personal_learning_support.php.cy 

Mae amserlen ddefnyddiol i CCDP ar gyfer y staff yma: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/disability/documents/PLSP-Timeline-Eng.pdf 

Mae rhagor o wybodaeth i’r staff, gan gynnwys pwy sy’n gweld beth mewn CCDP a sut mae cael mynediad at CCDP yma: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/disability/info_staff.php.cy  

Dyletswydd prevent

Mae'r Dyletswydd Prevent yn gosod rhwymedigaethau ar brifysgolion, mewn perthynas â’r angen i '…atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth…' wrth inni geisio cynnal egwyddorion Rhyddid Academaidd a Rhyddid i Lefaru. Mae Prifysgol Bangor yn rhagweithiol wrth gefnogi lles eraill ac yn annog pobl i godi pryderon. O dan y Ddyletswydd, mae pob un ohonom yn rhannu cyfrifoldeb i hyrwyddo goddefgarwch a gwerthoedd cadarnhaol, ac i gadw llygad am arwyddion o radicaleiddio posibl.

Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i godi ymwybyddiaeth ymhlith staff am y Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 a'r Ddyletswydd Prevent. Mae bellach yn orfodol bod POB aelod o staff yn ymgyfarwyddo â'r agenda atal trwy gwblhau'r pecyn hyfforddi ar-lein yma. I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar Prevent, cysylltwch â prevent@bangor.ac.uk.  

Os ydych yn trefnu digwyddiad 

Os yw myfyriwr neu aelod o staff yn trefnu digwyddiad y gwahoddir rhywun o'r tu allan i'r Brifysgol i siarad ynddo, gan gynnwys darlithoedd, neu os yw staff neu fyfyriwr o'r brifysgol yn siarad ar ran endid allanol, mae angen iddynt adolygu'r cynnig, y digwyddiad a’r siaradwr yn erbyn y Cod Ymarfer ar Ryddid i Lefaru (gan gynnwys rheolau'r Brifysgol ar gyfer dynodi, cynllunio a chynnal digwyddiadau). Os oes angen, rhaid codi'r digwyddiad fel y nodir yn y Cod Ymarfer.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch myfyriwr 

Mae'r Polisi Prevent yn amlinellu dull gweithredu'r Brifysgol a'r gweithdrefnau cyfeirio. I roi gwybod am bryderon am fyfyrwyr neu staff mewn perthynas â Prevent, ac i ddarparu unrhyw dystiolaeth sydd ar gael, gwnewch hynny drwy gysylltu â prevent@bangor.ac.uk. Mae'r cyfeiriad e-bost hwn yn cael ei fonitro'n rheolaidd yn ystod oriau swyddfa arferol. Fodd bynnag, os ydych yn ystyried bod risg uniongyrchol o niwed i berson neu eiddo neu bobl eraill yn bodoli, dylech gysylltu â’r Heddlu drwy ffonio 999 ac yna rhoi gwybod i ni eich bod wedi gwneud hynny a darparu crynodeb o’r pryderon i prevent@bangor.ac.uk.  

Bydd y mater yn cael ei ymchwilio ac, os yw'n briodol, yn cael ei gyfeirio at sefydliadau allanol priodol.  

Sylwch, oherwydd natur y maes gwaith hwn, er y gallwn eich diweddaru hyd orau ein gallu, byddwn yn gyfyngedig o ran y wybodaeth y gallwn ei darparu i chi.  

Adrodd am drais rhywiol ac aflonyddu

Er bod prifysgolion, yn eu hanfod, yn lleoedd rhyddfrydol a chynhwysol, mae perygl bob amser y gall myfyriwr ddioddef camymddwyn rhywiol, trais neu aflonyddu. Gallai hyn gynnwys troseddau casineb, homoffobia neu drawsffobia, neu gam-drin hiliol. Gall unrhyw fath o aflonyddu gael effaith ddifrifol ar y myfyriwr, a gall hefyd fod yn erbyn y gyfraith, neu ein rheoliadau a chod ymddygiad i fyfyrwyr. Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i gydraddoldeb a chynhwysiant ac mae'n trin honiadau o aflonyddu o unrhyw fath o ddifrif.

Mae pobl sydd wedi dioddef camymddwyn rhywiol, trais neu aflonyddu yn aml yn poeni am adrodd am yr hyn sydd wedi digwydd iddynt, felly cadwch lygad am arwyddion o encilio, dirywiad mewn gwaith academaidd neu ddiffyg presenoldeb mewn darlithoedd, diffyg rhyngweithio â grŵp cyfan neu ag unigolion penodol ac osgoi rhai sefyllfaoedd. 

Os bydd myfyriwr yn adrodd am unrhyw fath o gamymddwyn rhywiol, trais neu aflonyddu 

Os byddwch yn datblygu perthynas broffesiynol o ymddiriedaeth gyda myfyriwr, efallai y bydd yn teimlo'n ddigon cyfforddus i siarad â chi, neu efallai y bydd yn datgelu rhywbeth i chi yn annisgwyl yn ystod sgwrs. Byddwch yn glust anfeirniadol i'r myfyriwr a pheidiwch â rhoi unrhyw farn neu gyngor penodol. Dywedwch wrthynt am y Tîm Gwaith Achos Myfyrwyr yn y brifysgol, sydd â staff sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig ac sy'n gallu cynnig dewisiadau o ran adrodd a chyfeirio at gymorth arbenigol. Gall myfyrwyr a staff sydd angen cyngor gysylltu â hwy trwy e-bostio studentcases@bangor.ac.uk . Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau gwe bangor.ac.uk/harassment <https://www.bangor.ac.uk/harassment> gan gynnwys ein hadnodd adrodd ar-lein, 'Rhannu a Chefnogaeth', y gall myfyrwyr ei lenwi neu ofyn i aelod staff ei lenwi ar eu rhan.

Ar ôl y cyfarfod, gwnewch gofnod mor gywir â phosib o’r sgwrs a’i e-bostio at y Tîm Gwaith Achos Myfyrwyr. Os bydd y myfyriwr yn penderfynu adrodd i'r heddlu, yna efallai y bydd angen y nodiadau hyn arnynt fel tystiolaeth, a dyna pam mae’n bwysig nodi geiriau'r myfyriwr a pheidio â defnyddio cwestiynau arweiniol. 

Os bydd y myfyriwr yn datgelu ymosodiad sydd wedi digwydd yn ystod y 7 niwrnod diwethaf, dylid hysbysu'r myfyriwr am Amethyst, y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol agosaf, trwy roi eu gwybodaeth gyswllt iddynt. Mae'n hanfodol, gydag unrhyw fath o gamymddwyn rhywiol, trais neu aflonyddu, bod y myfyriwr yn cael ei rymuso i geisio cymorth ei hun. Nid ydym yn argymell i chi fynd â hwy i wasanaeth yn y brifysgol neu wasanaeth allanol, neu fynnu eu bod yn cael cymorth. 

Os ydych yn teimlo bod risg uniongyrchol i eraill, yna dylech hysbysu'r heddlu neu dîm diogelwch y brifysgol.  

Mae ein modiwl hyfforddi ar-lein i staff 'Ymateb i Ddatgeliadau o Drais Rhywiol ac Aflonyddu' yn darparu cyngor a chyfarwyddiadau defnyddiol ar beth i'w wneud a sut i ymateb. 

Os byddwch yn amau bod rhywun yn cael ei gam-drin  

Cysylltwch â'r Tîm Achosion Myfyrwyr. Byddant yn gallu rhoi cyngor ynglŷn â’r sefyllfa a sut i symud ymlaen. 

Os ydych yn pryderu bod y myfyriwr yn oedolyn bregus a/neu fod plant yn gysylltiedig â’r achos, dylech gyfeirio at bolisi’r brifysgol ar ddiogelu plant ac oedolion bregus a cheisio cyngor trwy e-bostio safeguarding@bangor.ac.uk. Dylech wneud hyn ar unwaith. Bydd ein Swyddog Diogelu yn adolygu’r wybodaeth sydd ar gael ac yn penderfynu a ddylid cyfeirio at yr awdurdod lleol perthnasol, neu’r heddlu.  

Pan fydd y myfyriwr yn cysylltu, neu'n llenwi'r ffurflen 'Rhannu a Chefnogi', bydd ein Tîm Gwaith Achos Myfyrwyr yn cynnig apwyntiad iddynt cyn gynted â phosib. Yn ogystal â sicrhau bod y myfyriwr yn cael ei gyfeirio at gymorth, bydd y Tîm Gwaith Achos Myfyrwyr, os yw’r ymosodwr yn aelod o’r brifysgol, yn gallu rheoli unrhyw adroddiad ffurfiol y dymunant ei wneud, o dan y rheoliad disgyblu myfyrwyr. 

Diogelu

Mae diogelu’n berthnasol i blant ac oedolion sy’n agored i niwed, a gall gynnwys eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o gam-drin gan gynnwys hunan-esgeuluso, achosion o gam-drin domestig, cam-drin ariannol, cam-drin gwahaniaethol, cam-drin rhywiol, a cham-drin emosiynol.  

Mae’r term “oedolyn mewn perygl” yn disgrifio unrhyw un dros 18 oed sy’n dioddef camdriniaeth neu esgeulustod ac sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, ac o ganlyniad i’r anghenion hynny, nad yw’n gallu amddiffyn ei hun rhag camdriniaeth neu esgeulustod.  

Mae’r term “plentyn” yn cyfeirio at unrhyw un sydd o dan 18 oed. Mae hyn yn unol â'r diffiniad cyfreithiol o blentyn fel y nodir o fewn deddfwriaeth berthnasol. Mae “plentyn” yn y cyd-destun hwn yn golygu plentyn neu berson ifanc. Nid yw'r ffaith bod plentyn yn 16 oed, yn byw'n annibynnol ac mewn addysg uwch yn newid ei statws na'i hawl i wasanaethau nac i gael ei ddiogelu. 

 

Dylech beidio â chynhyrfu, sicrhau eich diogelwch eich hun yn gyntaf, gofyn am gyngor neu uwchgyfeirio pryderon lle bo angen ac ymgyfarwyddo â'r Polisi Diogelu. Peidiwch ag addo cyfrinachedd oherwydd efallai y bydd yn rhaid ichi rybuddio eraill er mwyn cadw'r myfyriwr neu eraill yn ddiogel. Nid ydych yn torri cyfrinachedd drwy roi gwybod i ni am bryderon, hyd yn oed os yw rhywun wedi dweud nad ydynt am i chi ddweud wrth unrhyw un, neu wedi dweud yn benodol na allwch wneud hynny. 

Fel prifysgol, oedolion yw poblogaeth ein myfyrwyr yn bennaf, ac felly mae achosion lle mae angen i ni gymhwyso egwyddorion diogelu yn gymharol isel. Ar gyfer yr adran hon, rydym yn canolbwyntio ar fyfyrwyr o fewn y diffiniad diogelu oedolion. Mae ein cyfrifoldebau’n ymestyn yn fras i fyfyrwyr sydd, oherwydd problemau megis salwch meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, ag anghenion gofal a chefnogaeth a allai eu gwneud yn fwy agored i gael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Dylid cyfeirio pryderon o'r fath yn y lle cyntaf at gwasanaethaulles@bangor.ac.uk. 

Mae'r Polisi Diogelu’n <https://www.bangor.ac.uk/governance-and-compliance/governance.php.en> amlinellu dull gweithredu'r Brifysgol a'r gweithdrefnau cyfeirio. I roi gwybod am bryderon am blentyn, person ifanc neu oedolyn sy’n agored i niwed ac i ddarparu unrhyw dystiolaeth sydd ar gael, gwnewch hynny ar unwaith trwy gysylltu â safeguarding@bangor.ac.uk.

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn yn cael ei fonitro'n rheolaidd yn ystod oriau swyddfa arferol. Fodd bynnag, os ydych yn ystyried bod risg uniongyrchol o niwed i berson yn bodoli, dylech gysylltu â’r Heddlu drwy ffonio 999 ac yna rhoi gwybod i ni eich bod wedi gwneud hynny a darparu crynodeb o’r pryderon i safeguarding@bangor.ac.uk.  

Bydd y mater yn cael ei ymchwilio ac, os yw'n briodol, yn cael ei gyfeirio at sefydliadau allanol priodol. Sylwch, oherwydd natur y maes gwaith hwn, er y gallwn eich diweddaru hyd orau ein gallu, byddwn yn gyfyngedig o ran y wybodaeth y gallwn ei darparu i chi.  

 

Myfyrwyr mewn trallod

Beth sydd angen ichi ei wybod? 

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn profi rhyw faint o drallod emosiynol ar wahanol adegau yn eu bywydau, ac wrth gwrs, gall bywyd prifysgol ddod â heriau ychwanegol. Fel arfer, gall unrhyw anawsterau gael eu datrys trwy i'r myfyriwr eu trafod gyda'u teulu a'u ffrindiau, neu yn achos materion academaidd, gyda'u Tiwtor Personol. 

Mae yna lawer o ffyrdd i helpu rhywun ac mae'n bwysig eich bod wrth wneud hynny yn ymwybodol o'ch terfynau a'ch ffiniau eich hun o ran eich swydd yn y Brifysgol.  Nid ydych yn llwyr gyfrifol am gyflwr emosiynol y myfyriwr, ac nid oes disgwyl i chi ddarparu cymorth y tu hwnt i'ch arbenigedd, hyfforddiant ac adnoddau. 

Gweler hefyd Anawsterau Iechyd Meddwl ac Emosiynol 

Gweler hefyd Atgyfeirio 

Gweler hefyd Bod yn Gefnogwr Da a Rheoli Ffiniau 

 

Os oes gennych chi fyfyriwr sy'n ofidus, gall neilltuo amser i wrando a’u cymryd o ddifrif fod yn ddigon i'w helpu i deimlo'n well a dechrau dirnad beth ellir ei wneud. Gan amlaf, er y gall y sefyllfa beri gofid i'r myfyriwr, ni fydd yn fater brys.  

Strategaethau cyffredinol:

Dewch o hyd i le tawel:      Os ydych chi'n codi pryderon gyda myfyriwr, gwnewch hynny o glyw grwpiau o bobl eraill, naill ai trwy fynd â nhw o'r neilltu neu siarad â nhw'n breifat yn ddiweddarach. 

Gwrandewch yn wrthrychol: Cymerwch eu pryderon o ddifrif a gadewch iddyn nhw egluro beth sy'n digwydd. Gosodwch amserlen ar gyfer eich cyfarfod ac eglurwch y cedwir eich trafodaeth yn breifat oni bai eich bod yn credu bod rhywun mewn perygl. 

Cydnabod dewrder: Mae rhannu brwydr gyda rhywun yn beth dewr i'w wneud. Gall cydnabod yr ymddiriedaeth a roesant ynoch eu hannog i fanteisio ar wasanaethau a chymorth arall y gallech eu hawgrymu iddynt. 

Cefnogi hunangymorth: Weithiau mae'n ddigon i rannu gofidiau neu bryderon. Ystyriwch eu helpu i ddechrau cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r hyn sy'n peri gofid iddynt. Os yw myfyriwr yn agored ac yn barod i ystyried cymorth ychwanegol, anogwch hyn a defnyddiwch y canllaw hwn i'w cyfeirio'n briodol. Mae gan fyfyrwyr yr hawl i wrthod neu dderbyn cefnogaeth ac yna newid eu meddwl yn ddiweddarach. Oni bai bod peryg sylweddol o niwed i'r myfyriwr neu eraill, eu cyfrifoldeb nhw yw cymryd y cam nesaf, ond anogwch nhw.

Byddwch yn agored a chlir: Byddwch yn agored am yr hyn y gallwch ei wneud nesaf a chyfyngiadau eich gwybodaeth, arbenigedd a swydd. Byddwch yn glir os oes angen i chi ymgynghori â chydweithiwr neu wasanaeth am ragor o wybodaeth a gofynnwch bob amser am ganiatâd gan y myfyriwr i rannu gwybodaeth gyfrinachol. Efallai y bydd angen cymorth ar rai myfyrwyr i atgyfeirio eu hunain i wasanaethau i ddechrau (ceir gwybodaeth yn y canllaw hwn ynghylch sut i atgyfeirio).

Camau dilynol: Yn dibynnu ar eich swydd ac, os yw'n briodol, cytunwch pryd y gallech drafod eto gyda’r myfyriwr a gweld sut y maent neu a oes angen cymorth pellach arnynt. Mae'n dda cadw pethau'n normal y tro nesaf y byddwch chi'n eu gweld a gofyn sut maen nhw, ar yr amod nad yw hyn yn torri cyfrinachedd. 

Byddwch ddiogel Mae eich diogelwch yn flaenoriaeth. Os yw helpu rhywun yn eich rhoi mewn perygl neu’n gwneud i chi deimlo’n bryderus, soniwch am eich pryderon yn y modd priodol – wrth eich rheolwr llinell, uwch diwtor neu’r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr. Os yw’n ymddangos eich bod chi neu’r myfyriwr mewn perygl uniongyrchol o niwed, cysylltwch ag Uned Ddiogelwch y Brifysgol ar eu rhif ddydd a nos: 01248 382795.

Os yw’r myfyriwr mewn trallod mawr 

Mae'n bwysig nad ydych yn cynhyrfu a’ch bod yn parhau i gynnal ffiniau proffesiynol. Pan fo'n briodol, atgoffwch 

y myfyriwr o’r cymorth sydd ar gael a amlygir yn y Canllaw hwn a'u hannog i geisio cymorth. Mae’r Gwasanaeth Lles yn cynnig nifer cyfyngedig o apwyntiadau yn ystod yr wythnos ar gyfer materion brys, ond nad ydynt yn fater o argyfwng, rhwng 9:30 a 4:30pm. Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bostio gwasanaethaulles@bangor.ac.uk neu drwy ffonio 01248 388520. 

Os yw’n ymddangos bod y myfyriwr mewn perygl uniongyrchol o niwed, cysylltwch ag Uned Ddiogelwch y Brifysgol ar eu rhif argyfwng ddydd a nos: 01248 382795. Rhowch wybod iddynt am eich lleoliad, eich enw, enw'r myfyriwr a natur y sefyllfa. Os oes angen, ffoniwch 999 a gofynnwch am ragor o gymorth. Rhowch wybod i'r Tîm Diogelwch os bydd y gwasanaethau brys yn dod. 

 

Efallai yr hoffech siarad â rheolwr llinell neu gydweithiwr ar ôl sgwrs anodd. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd gwneud nodyn diogel o’r hyn a ddywedwyd fel y gallwch gyfeirio ato’n ddiweddarach os oes angen. Os byddai arweiniad penodol yn ddefnyddiol, mae croeso i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr. Gallwch wneud hynny heb rannu manylion myfyrwyr unigol os nad oes gennych ganiatâd i rannu.  

Myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofal

Mae myfyriwr sydd â chyfrifoldebau gofalu yn gofalu am aelod o'r teulu, partner neu ffrind gydag anabledd corfforol neu synhwyraidd, anabledd dysgu, cyflwr meddygol, problemau iechyd meddwl neu rywun sy'n gaeth i gyffuriau, alcohol neu gamblo.  

Weithiau gall myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu golli darlithoedd neu fethu â chadw at ddyddiadau cyflwyno aseiniadau. Efallai eu bod yn cyfuno gofalu â gwaith rhan-amser yn ogystal â'u hastudiaethau a gallent fod yn cael trafferth ei dal hi ym mhobman. Gall myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu hefyd fod â phroblemau ariannol, gyda chostau teithio uwch, neu'n cael trafferth gweithio'n rhan-amser er mwyn ychwanegu at eu cyllid myfyrwyr.    

Os bydd myfyrwyr yn dweud wrthych fod ganddynt gyfrifoldebau gofalu

Ceisiwch fod yn gefnogol ond yn niwtral. Peidiwch â bod yn or-sympathetig na chynnig cefnogaeth ychwanegol a allai fod yn anaddas. Bydd sefyllfa pob myfyriwr yn wahanol. Gwnewch yn siŵr bod y myfyrwyr yn gwybod bod Prifysgol Bangor yn gymuned amrywiol, a bod amrywiaeth eang o gefnogaeth ar gael i bob myfyriwr, beth bynnag eu cefndir a’u hamgylchiadau. 

Gall myfyrwyr sydd wedi colli darlithoedd neu sydd heb gyflwyno gwaith i'w asesu fod yn bryderus iawn ynghylch ailymuno â'u cwrs. Rhowch sicrwydd iddynt fod digon o opsiynau fel arfer, a bod cefnogaeth ar gael i’w helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen. 

Os yw myfyriwr eisiau siarad â rhywun neu eisiau rhywfaint o gefnogaeth 

Os yw myfyriwr mewn trafferth ariannol ac eisiau cymorth ariannol, awgrymwch ei fod yn cysylltu â'r Uned Cymorth Ariannol.  Gallant wneud hyn trwy e-bostio moneysupport@bangor.ac.uk neu ffonio: 01248 383566 / 01248 383637.   

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys arweiniad a chymorth ariannol ar gael yn: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/moneyadvice/carers.php.cy  

Os yw myfyrwyr yn cael problemau academaidd sy'n eu hatal rhag ymroi i’w hastudiaethau 

Awgrymwch eu bod yn cysylltu â'u tiwtor personol i drafod unrhyw heriau y maent yn eu hwynebu. Gallant ddod o hyd i enw eu tiwtor personol ar FyMangor. Gall y tiwtor personol hefyd gynghori’r myfyriwr am ei opsiynau os nad yw gwaith a asesir wedi ei gyflwyno neu os yw’r myfyrwyr wedi cael marc methu.

Gellir hefyd annog myfyrwyr i siarad â'r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr <https://www.bangor.ac.uk/studentservices/student-support.php.en> a all eu cyfeirio at y gwasanaeth priodol am gefnogaeth. Gallant wneud hynny trwy ymweld â’r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr, Neuadd Rathbone yn ystod yr oriau agor, trwy ffonio: 01248 383707, neu e-bostio: cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk <mailto:studentsupport@bangor.ac.uk> 

Gan ddibynnu ar sefyllfa'r myfyriwr, efallai y byddwch hefyd yn ystyried awgrymu eu bod yn hunangyfeirio at y Gwasanaeth Llesiant i ofyn am apwyntiad trwy e-bostio gwasanaethaulles@bangor.ac.uk 

Lle bo’n bosib, cynigir arweiniad a chymorth ariannol i fyfyrwyr, ynghyd â chymorth i ymroi’n effeithiol i’w hastudiaethau i helpu i’w cadw ar y trywydd iawn. Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, weithiau efallai y bydd angen help arnynt i wneud cais am amgylchiadau lliniarol neu ofyn am gael gohirio eu hastudiaethau dros dro nes eu bod yn barod i ailgydio yn eu hastudiaethau.  

 

 

Anhwylderau ac anafiadau dros dro

Yn aml, gall myfyrwyr sydd ag anafiadau a chyflyrau dros dro wneud trefniadau'n uniongyrchol gyda'u hysgol ac nid oes angen addasiadau arnynt.

Holwch y myfyriwr pa gefnogaeth sydd ei hangen arnynt o ran eu salwch neu anaf, ac a ellir darparu ar gyfer hyn drwy ddefnyddio'r prosesau arferol sydd ar gael yn y Ganolfan Geisiadau / drwy'r system Tiwtor Personol. 

Os oes angen addasiadau neu gefnogaeth ar fyfyriwr gan y Gwasanaethau Anabledd, ceisiwch ei annog i gysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd. Gallant wneud hyn drwy: ffôn: 01248 382032, e-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu drwy ymweld â’r Gwasanaethau Anabledd yn Neuadd Rathbone yn ystod oriau agor. 

Gallai myfyrwyr ag anafiadau neu salwch dros dro gael addasiadau i'w trefniadau arholiadau megis egwylion neu amser ychwanegol, defnyddio cyfrifiadur neu ysgrifennwr.  

I wybod mwy, cysylltwch â'r Gwasanaethau Anabledd (gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk) neu ffoniwch ar 01248 382032

Gall y Gwasanaethau Anabledd gynnig rhywfaint o gyngor cychwynnol i fyfyrwyr ac yna trefnu iddynt gwrdd â Chynghorydd am gyngor ac arweiniad manylach os oes angen.   

Os bydd y myfyriwr yn rhoi caniatâd, bydd gwybodaeth berthnasol ar gael i diwtoriaid trwy fyMangor. 

Tynnu’n ôl o astudiaethau neu ohirio astudiaethau

Gall myfyrwyr sy'n ystyried tynnu'n ôl o'r brifysgol ymddangos yn bryderus ac wedi ymbellhau, yn ymddiddori llai yn eu cwrs neu yn eu cyfoedion, a gallant fod yn absennol o'r dosbarth, neu golli sesiynau eraill yn y brifysgol. 

Gall myfyrwyr sy'n dweud yr hoffent naill ai ohirio eu hastudiaethau dros dro neu dynnu'n ôl o'r brifysgol newid eu meddwl ar ôl siarad am eu pryderon gyda thiwtor neu aelod staff o'r gwasanaethau proffesiynol. Beth bynnag yw'r rheswm dros ddymuno gadael, a beth bynnag y maent yn penderfynu ei wneud; mae’n bwysig sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu’n llawn am yr holl opsiynau, goblygiadau, a’r cymorth sydd ar gael, fel y gallant wneud penderfyniad gwybodus sy’n teimlo fel y penderfyniad cywir iddynt hwy. 

Gellir dod o hyd i'r holl wybodaeth yn ymwneud â gohirio astudiaethau dros dro a thynnu'n ôl yma - https://www.bangor.ac.uk/studentservices/leaving/index.php.cy

 

Os yw myfyriwr eisiau siarad â rhywun am ei opsiynau a'r camau nesaf 

Os yw'n bosib, anogwch hwy i siarad â'u tiwtor personol fel y gellir mynd i'r afael ag unrhyw bryderon am eu rhaglen academaidd neu am eu cynnydd. 

Os ydynt yn dal yn dymuno symud ymlaen, dylid cyfeirio myfyrwyr at y tîm perthnasol o fewn Gwasanaethau a Gweinyddu Myfyrwyr i drafod gohirio eu hastudiaethau dros dro neu dynnu'n ôl o’u hastudiaethau. 

Bydd aelod o staff Gwasanaethau a Gweinyddu Myfyrwyr yn helpu'r myfyriwr i ystyried unrhyw broblemau sylfaenol ac yn darparu gwybodaeth a chymorth i'r myfyriwr wneud y penderfyniad cywir i’w amgylchiadau ei hun. Gallant gysylltu â gwasanaethau eraill os oes angen er mwyn sicrhau, lle bo modd, yr eir i'r afael â phryderon ac anghenion cefnogi er mwyn galluogi'r myfyriwr i barhau â’i astudiaethau. 

Os yw'r myfyriwr eisiau gohirio ei astudiaethau neu dynnu'n ôl ar unwaith 

Rhowch wybod iddynt fod rhaid iddynt lenwi ffurflen gohirio astudiaethau dros dro neu ffurflen hysbysu tynnu'n ôl ar-lein drwy'r Ganolfan Geisiadau ond cofiwch eu hatgoffa bod cymorth ar gael. 

 

Bydd rhaid i'r ysgol academaidd gymeradwyo’r gohiriad cyn y daw i Wasanaethau a Gweinyddu Myfyrwyr i’w brosesu. Os nad yw'r myfyriwr wedi cyfarfod ag aelod staff Gwasanaethau a Gweinyddu Myfyrwyr eisoes, byddant yn cael eu gwahodd i wneud hynny fel eu bod yn gwbl ymwybodol o oblygiadau eu penderfyniad.  

Ar ôl tynnu'n ôl, bydd y myfyriwr yn colli mynediad i holl adnoddau'r brifysgol (gan gynnwys y llyfrgell, FyMangor a mynediad at e-byst) unwaith y bydd eu cofnod myfyriwr wedi nodi eu bod wedi tynnu'n ôl. 

Ar ôl gohirio eu hastudiaethau, bydd y myfyriwr yn colli mynediad i Blackboard, ond bydd yn parhau i gael mynediad at yr holl adnoddau electronig eraill. Fel arfer, ni all myfyrwyr gael mynediad at wasanaethau cefnogi fel Gwasanaeth Lles Myfyrwyr / Gwasanaethau Anabledd yn ystod y cyfnod pan fydd eu hastudiaethau wedi gohirio dros dro. 

Yn y ddau achos, bydd llythyr yn cael ei uwchlwytho i'r Ganolfan Geisiadau yn cadarnhau pryd y gweithredwyd ar y cais i ohirio astudiaethau neu dynnu'n ôl.  

Os yw'n berthnasol, bydd Cyllid Myfyrwyr yn cael gwybod bod y myfyriwr wedi gohirio neu wedi tynnu’n ôl o’i astudiaethau a bydd yn cysylltu â'r myfyriwr yn uniongyrchol i ail-gyfrifo ei hawl. Os yw'r myfyriwr yn hunan-ariannu, bydd y llythyr gohirio neu dynnu'n ôl yn cadarnhau a oes dyled ar y cyfrif, neu a oes ad-daliad ffioedd dysgu yn ddyledus iddynt.

Cymorth, cyngor neu gymorth arall

Ymestynnir y Canllaw hwn dros amser i gynnwys amrywiaeth o ffyrdd eraill o gynghori a chefnogi myfyrwyr. Efallai y ceir amryfal sefyllfaoedd eraill nad ydynt yn cael sylw penodol yma, ond gellir mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o sefyllfaoedd trwy atgyfeirio yn y lle cyntaf at Uwch Diwtor eich ysgol, neu staff yn yr Uned Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr.  

Os oes gan fyfyriwr ymholiad cyffredinol, angen cymorth neu arweiniad, neu angen cymorth y gwasanaethau canolog, gan gynnwys cyngor ynghylch cyllid a llety 

Cynghorwch nhw i gysylltu â’r Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr drwy e-bostio cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk, taimyfyrwyr@bangor.ac.uk neu cymorthariannol@bangor.ac.uk  neu drwy ymweld â Neuadd Rathbone yn ystod oriau agor. 

Gall myfyrwyr hefyd gael gwybodaeth o'r dudalen we hon: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/student-support.php.cy  

Os oes angen sylw meddygol ar fyfyriwr 

Bydd angen iddynt wneud apwyntiad gyda'u meddyg teulu. Rydym yn argymell bod myfyrwyr yn cofrestru cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd y brifysgol, ond bydd meddygon teulu fel arfer yn darparu apwyntiadau brys os oes angen. Os oes argyfwng bydd angen iddynt fynd i’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Gwynedd neu ffonio 999. 

Ceir gwybodaeth ynghylch sut i gofrestru gyda meddyg teulu yma: https://www.bangor.ac.uk/studentservices/student-health/health.php.cy  

Os yw myfyrwyr a/neu staff mewn perygl uniongyrchol o niwed 

Cysylltwch â swyddogion diogelwch y Brifysgol ar eu rhif argyfwng 24/7: 01248 382795. Rhowch wybod iddynt am eich lleoliad, eich enw, enw'r myfyriwr a natur y sefyllfa. Os oes angen, ffoniwch 999 a gofynnwch am ragor o gymorth. Rhowch wybod i'r Tîm Diogelwch os bydd y gwasanaethau brys yn dod. 

Os ydych yn ystyried eich bod chi neu eraill mewn perygl, gadewch yr ardal mor gyflym ac mor dawel â phosibl, gan sicrhau bod eraill yn gadael yr ardal os yw'n ddiogel i chi wneud hynny. Rhowch wybod i’r Tîm Diogelwch ac os oes angen, ffoniwch 999 a gofynnwch am ragor o gymorth. Rhowch wybod i'r Tîm Diogelwch os bydd y gwasanaethau brys yn dod. 

Os oes angen arweiniad pellach arnoch ynghylch cefnogi myfyrwyr 

Cysylltwch â: Cefnogi Myfyrwyr: cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk

Cefnogaeth i staff

Er mwyn cefnogi ein myfyrwyr, mae'n rhaid i ni i gyd ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles ein hunain. Beth bynnag fo'ch swydd yn y Brifysgol, efallai y bydd galw arnoch i gynnig cymorth emosiynol i fyfyriwr, neu i wrando ar eu problem, pryder neu argyfwng. Ar brydiau, gall hyn fod yn heriol a thrallodus, felly cymerwch amser i ofalu amdanoch eich hun a gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich batris mewnol wedi’u gwefru! 

Gofalwch amdanoch eich hun 

Ymgyfarwyddwch â’r dewisiadau o ran gwasanaethau, cymorth ac atgyfeirio a grynhoir yn y Canllaw hwn, a gosodwch rai ffiniau clir sy'n briodol i'ch swydd. Byddwch yn ymwybodol o sut rydych chi'n teimlo o ddydd i ddydd a cheisiwch feithrin rhai strategaethau i gynnal eich cydbwysedd. Efallai bod angen i chi gael egwyl am baned, mynd am dro amser cinio, neu sgwrsio â chydweithiwr? Edrychwch ar yr wybodaeth ynghylch lles ar wefan y Brifysgol am ragor o adnoddau, technegau ac awgrymiadau. 

Gall y dolenni hyn fod yn ddefnyddiol:  https://www.bangor.ac.uk/cy/iechyd-a-lles a https://www.bangor.ac.uk/cy/iechyd-a-lles/taflen-wybodaeth  

I ofyn am help gan eraill 

Mae'n bwysig gofyn am gymorth os oes ei angen arnoch. Efallai y byddwch yn teimlo y gallwch siarad â chydweithiwr i ddechrau neu ofyn am gymorth gan eich rheolwr llinell. Mae yna hefyd sefydliadau ac adnoddau allanol a allai fod o gymorth. Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn darparu dewis i chi gyfeirio eich hun at ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Vivup. Mae hwn yn wasanaeth cymorth cyfrinachol am ddim sydd ar gael ddydd a nos drwy'r wefan neu dros y ffôn. Mae'r gwasanaeth yn darparu cyngor a chymorth ar unrhyw fater sy'n eich poeni, ac mae cwnsela ar gael os yw'n briodol. 

Mae cyfeiriadau at adnoddau allanol ar gael yma: https://www.bangor.ac.uk/cy/iechyd-a-lles/taflen-wybodaeth  

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Cymorth i Weithwyr ar gael yma: https://healthandwellbeing.bangor.ac.uk/bu-employee-assistance-prog.php.cy 

Nid oes angen i chi roi eich enw - dim ond dweud eich bod yn gweithio i Brifysgol Bangor i gael mynediad i'r gwasanaeth. 

Mae modd cyfeirio’ch hun yn gyfrinachol at y Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth pryd bynnag y byddwch ei angen, 365 diwrnod y flwyddyn.  

Gwahaniaeth Dysgu Penodol (er enghraifft, Dyslecsia, Dyspracsia, ADHD)

Mae’r Tîm Gwahaniaethau Dysgu Penodol yn rhoi cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr â gwahaniaethau dysgu penodol (SpLDs) megis dyslecsia, dyspracsia, dyscalcwlia, anhwylder diffyg sylw ac anhwylder diffyg sylw (ADD) ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).  

Os yw myfyrwyr yn cofrestru gyda’r gwasanaeth anabledd a bod ganddynt gynllun cefnogi dysgu personol ar waith yn ymwneud â’u Gwahaniaethau Dysgu Penodol, gallant: 

sylwch: Gall myfyrwyr Gwyddorau Gofal Iechyd yn Wrecsam gael mynediad at gefnogaeth arbenigol â strategaethau a sgiliau astudio gan Brifysgol Wrecsam. 

  • trafod unrhyw bryderon yn ymwneud â Gwahaniaethau Dysgu Penodol sy’n effeithio ar eu hastudiaethau, trwy e-bostio: spldadviser@bangor.ac.uk

Bydd effaith Gwahaniaethau Dysgu Penodol yn amrywio o berson i berson ac yn dibynnu ar ystod o ffactorau - faint o amser sydd ers y diagnosis; yr amrywiaeth o strategaethau sydd eisoes wedi'u datblygu; y gefnogaeth sydd ar gael etc.   

Chwiliwch am fyfyrwyr sydd â phresenoldeb gwael, sy’n cyflwyno gwaith yn hwyr yn rheolaidd, sy’n ymddangos fel pe baent yn cael trafferth gydag elfennau ysgrifenedig eu cwrs, yn dangos tueddiadau perffeithydd, neu’n rhwystredig gyda’r marciau a gânt, oherwydd gallent elwa o gefnogaeth ychwanegol o bosibl. 

 

Os bydd myfyriwr yn dweud eu bod yn cael trafferth gyda’u gwaith cwrs, neu os byddwch yn sylwi bod myfyriwr yn cael trafferth gyda’u gwaith academaidd, yna gallech eu cyfeirio at y: 

Gwasanaeth Asesu am sgrinio anffurfiol.  Sgrinio rhagarweiniol yw hwn a wneir trwy holiadur e-bost.  Mae'n rhad ac am ddim i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr Prifysgol Bangor. 

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Asesu dros y ffôn: 01248 382032, e-bost: asesiad@bangor.ac.uk neu cyfeiriwch y myfyriwr i'r brif Dderbynfa yn Neuadd Rathbone yn ystod oriau agor. 

Byddem yn argymell i fyfyrwyr gysylltu â'r Gwasanaethau Anabledd cyn gynted â phosibl, yn hytrach nag aros nes y cânt anawsterau. Rydym yn parchu dewis rhai myfyrwyr i beidio â cheisio cefnogaeth, ond mae'n bwysig eu bod yn deall goblygiadau'r dewis hwn. Er enghraifft, efallai na chânt gefnogaeth adeg arholiadau, neu efallai na fyddant yn ennill y marciau y gallant eu hennill. 

 

Gall Ymgynghorwyr Gwahaniaethau Dysgu Penodol ddarparu gwybodaeth am: sgrinio ac asesu am Wahaniaethau Dysgu Penodol, gwneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl a gallant hefyd drefnu pecyn cefnogaeth. Gallai hyn gynnwys: cefnogaeth arbenigol, neu addasiadau i ddysgu, addysgu ac asesu trwy Gynllun Cefnogi Dysgu Personol (PLSP). 

I gael rhagor o wybodaeth neu arweiniad ar arfer cynhwysol ac addasiadau rhesymol, cysylltwch â’r Gwasanaethau Anabledd drwy e-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 382032. 

Cefnogaeth Fugeiliol mewn Ysgolion Academaidd

Caiff Tiwtor Personol ei bennu i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, sy'n aelod o staff academaidd eu Hysgol, gyda'r cyfrifoldeb i ddarparu cefnogaeth fugeiliol i'w Dysgwyr. Disgwylir i Diwtor Personol gwrdd â’u Dysgwyr o leiaf dair gwaith y flwyddyn, i drafod materion academaidd sy’n ymwneud â symud ymlaen, neu unrhyw bryderon a allai fod gan fyfyriwr. 

Mae gan bob Ysgol Uwch Diwtor fydd yn goruchwylio ac yn cydlynu cefnogaeth fugeiliol yn eu Hysgol.    

 

Os hoffai myfyriwr ofyn am newid Tiwtor Personol?  

Os yw myfyriwr yn dymuno newid eu Tiwtor Personol, gallent wneud hynny ar sail 'dim bai' drwy gysylltu ag Uwch Diwtor yr ysgol a gofyn am y newid.  

Os nad yw myfyriwr yn gwybod pwy yw eu Tiwtor Personol neu nad ydynt wedi cyfarfod â'u Tiwtor Personol? 

Dylai pob myfyriwr gwrdd â'i Diwtor Personol, o leiaf 3 gwaith y flwyddyn, fodd bynnag, os nad yw myfyriwr yn gwybod pwy yw ei Diwtor Personol, gallant fewngofnodi i fyMangor, a bydd eu Tiwtor Personol yn cael ei enwi ar eu proffil myfyriwr. Os na allant gysylltu â'u Tiwtor neu os nad yw eu Tiwtor wedi cysylltu â nhw, gallant siarad â'u Huwch Diwtor a gofyn am gefnogaeth.  

Mae myfyriwr yn fyfyriwr cydanrhydedd, ac mae ganddynt broblem yn ymwneud â'u Hysgol arall? 

Bydd myfyrwyr cydanrhydedd yn cael tiwtor personol o un ysgol a chyswllt penodedig yn eu hail ysgol. Bydd y myfyriwr a’r Tiwtor Personol yn cael gwybod pwy yw’r cyswllt penodedig, a gallant gysylltu â nhw os bydd unrhyw broblemau’n codi.  

 

 

 

 

 

 

Ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, bydd yr Uwch Diwtor yn adolygu sut y darparwyd cefnogaeth fugeiliol ac yn ystyried unrhyw broblemau neu dueddiadau sydd wedi codi. Cesglir y wybodaeth hon gan y Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr, yn yr Uned Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr, a fydd yn darparu adroddiad i bwyllgor(au) perthnasol y Brifysgol.  

Dioddefwyr Trosedd

Mae Bangor yn cael ei hadrodd yn rheolaidd fel un o’r dinasoedd mwyaf diogel i fyw ynddi, ond mae’n bosibl ar ryw adeg y bydd myfyriwr yn dod atoch yn chwilio am gefnogaeth fel dioddefwr trosedd. Efallai y bydd myfyriwr, er enghraifft, yn rhannu’r ffaith gyda chi eu bod wedi dioddef trosedd yn ddiweddar, ac nad ydynt wedi rhoi gwybod i neb eto am hyn, neu efallai y byddant yn dweud wrthych eu bod yn ei chael hi’n anodd ymdopi ag effaith barhaus trosedd a ddigwyddodd beth amser yn ôl. Gall hyd yn oed troseddau a brofwyd peth amser yn y gorffennol gael effaith sylweddol ar fywyd ac astudiaethau dydd i ddydd unigolyn. 

Mae hwn yn drosolwg eang ac mae rhestr o ddolenni defnyddiol i bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ehangach isod.  

Os oes angen cymorth brys ar y myfyriwr 

Dylech gysylltu â Swyddogion Diogelwch y Brifysgol ar eu rhif argyfwng 24/7: 01248 382795.   

Os ydych chi'n ystyried y sefyllfa’n argyfwng, rhowch wybod i’r Swyddogion Diogelwch ac os oes angen, ffoniwch 999 a gofynnwch am ragor o gymorth. Rhowch wybod i'r Tîm Diogelwch os bydd y gwasanaethau brys yn dod. 

Os nad yw'r myfyriwr wedi riportio'r drosedd 

Yn y rhan fwyaf o achosion, pan fo rhywun wedi dioddef trosedd, eu penderfyniad nhw yw p'un ai i riportio'r drosedd honno. Gall hwn fod yn benderfyniad anodd ac mae sawl ffordd o riportio. Awgrymwch eu bod yn trafod hyn gyda rhywun y maent yn ymddiried ynddynt a rhoi sicrwydd iddynt fod cefnogaeth ar gael os bydd ei hangen arnynt. 

Dywedwch wrthyn nhw bod cefnogaeth ar gael a bod modd cael mynediad at hynny trwy'r Gwasanaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr. Gallant wneud hyn drwy e-bostio’r gwasanaeth lles (gwasanaethaulles@bangor.ac.uk) neu am gefnogaeth mwy cyffredinol gallant e-bostio cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk neu internationalsupport@bangor.ac.uk.  

Os bydd myfyriwr yn dweud wrthych eu bod yn ofnus neu nad ydynt yn teimlo’n ddiogel oherwydd eu profiad, awgrymwch fod ganddynt rif cyswllt Tîm Diogelwch y Brifysgol wrth law: 01248 382795. Gallwch roi gwybod i'r myfyriwr y gellir riportio unrhyw drosedd yn uniongyrchol drwy'r heddlu yn yr orsaf heddlu leol.  

Os yw'r myfyriwr wedi dioddef seiberdrosedd  

Os yw’r myfyriwr wedi colli arian neu’n poeni y gallent fod wedi rhannu gwybodaeth gyfrinachol dros y ffôn/e-bost o ganlyniad i sgam gwe-rwydo, dylent roi gwybod i’r Heddlu cyn gynted â phosibl drwy Action Fraud neu drwy ffonio 0300 123 2040. 

Gall myfyrwyr gael mynediad at gefnogaeth drwy’r Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr a'r Tîm Cefnogaeth Ariannol. Gallant roi cyngor a chymorth ymarferol yn y tymor byr os yw myfyriwr yn cael trafferthion ariannol oherwydd twyll neu ladrad.  Cynghorwch myfyrwyr i e-bostiocymorthariannol@bangor.ac.uk  

Os ydych yn pryderu am les myfyriwr 

Gall staff gysylltu â’r Gwasanaeth Lles am gyngor cyfrinachol ar 01248 388520 neu e-bostio gwasanaethaulles@bangor.ac.uk. Os nad yw’r myfyriwr wedi rhoi eu cydsyniad i rannu eu gwybodaeth dylech wneud unrhyw drafodaeth yn ddienw o ran manylion y sefyllfa.  

Os yw myfyriwr wedi datgelu trosedd i chi y credwch ei bod yn cynnwys risg barhaus i'r myfyriwr neu eraill, cysylltwch â diogelu@bangor.ac.uk am gyngor, neu os oes angen, cysylltwch â Thîm Diogelwch y Brifysgol ar 01248 382795. Gallwch ofyn am gyngor heb dorri cyfrinachedd. 

 

 

Disgyblu

Mae gan y Brifysgol God Ymddygiad Myfyrwyr a rheolau a rheoliadau y mae'n disgwyl i bob myfyriwr eu dilyn. Pan fydd myfyriwr yn ymddwyn mewn ffordd a allai dorri ein rheolau a’n rheoliadau, efallai y bydd angen i ni ymdrin â’r mater o dan ein Rheoliad ar gyfer Disgyblu Myfyrwyr.  

Os ydych yn destun ymchwiliad disgyblu, bydd Tîm Gwaith Achos Myfyrwyr y Brifysgol yn ysgrifennu atoch ac yn amlinellu natur yr hyn sydd wedi dod i'n sylw. Bydd staff yn ein Tîm Gwaith Achos Myfyrwyr yn esbonio ein gweithdrefnau i chi ac yn eich cynghori ynghylch eich hawliau o dan y gweithdrefnau hyn. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn cael eich gwahodd i ddod i gyfarfod anffurfiol yn y lle cyntaf, i drafod y mater. Yn dibynnu ar natur yr achos, efallai y bydd angen hefyd dwysáu’r mater i’w ymchwilio’n ffurfiol, lle bydd Swyddog Disgyblu, neu banel o Swyddogion Disgyblu yn penderfynu a ddigwyddodd yr achos honedig ac os gwnaeth, gosod sancsiwn. 

Os cewch eich hysbysu bod eich ymddygiad yn cael ei ymchwilio o dan ein Gweithdrefnau Disgyblu Myfyrwyr, mae'n bwysig eich bod yn ymateb yn brydlon i unrhyw ohebiaeth a gewch ac yn ymgysylltu'n llawn â'r broses. Gall pob myfyriwr gael cynrychiolaeth a chyngor annibynnol gan ein Hundeb Myfyrwyr, Undeb Bangor. Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bostio ymholiadau@undebbangor.ac.uk 

Gall pob myfyriwr hefyd gael mynediad at gefnogaeth ynghylch unrhyw effaith y gallai’r broses neu faterion ei chael ar eu lles, gan ein Gwasanaeth Lles Myfyrwyr. Er na fydd ein tîm llesiant yn gallu darparu cynrychiolaeth na chyngor ar y broses ddisgyblu, gallant helpu gyda’r effaith y gallai hyn ei chael ar eich lles cyffredinol ac rydym yn argymell cysylltu â nhw am gefnogaeth drwy e-bostio gwasanaethaulles@bangor.ac.uk  

Mae’r Brifysgol yn ymdrin ag achosion disgyblu myfyrwyr mewn modd teg a chymesur ac mae ein gweithdrefnau’n sicrhau bod pob myfyriwr sy’n cael eu hunain yn destun ymchwiliad disgyblu yn gallu cyflwyno eu fersiwn nhw o’r hyn ddigwyddodd, gan gynnwys unrhyw ffactorau lliniarol y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt. 

Gall myfyrwyr ddod â ffrind, neu berson y gellir ymddiried ynddo, i unrhyw gyfarfodydd ac mae hyn yn ychwanegol at ddod â chynrychiolydd o Undeb Bangor. Gall ein Tîm Gwaith Achos Myfyrwyr hefyd ateb unrhyw gwestiynau am y broses a'ch cyfeirio at gefnogaeth fwy arbenigol os bydd ei hangen arnoch. 

Clefydau Heintus

Gall myfyrwyr, yn enwedig pan fyddant yn byw mewn neuaddau preswyl neu wrth rannu llety, fod yn arbennig o agored i glefydau heintus. Mae rhai, fel annwyd tymhorol a ffliw, yn gyffredin ac yn anodd eu hosgoi; mae eraill yn fwy difrifol neu gellir eu hosgoi gyda rhai mesurau syml. Mae’n rhaid hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) am rai clefydau heintus, gan gynnwys llid yr ymennydd a chlwy pennau, er mwyn eu cofnodi, eu trin neu er mwyn atal lledaeniad pellach. 

Os yw myfyriwr yn eich hysbysu bod ganddynt glefyd heintus heblaw annwyd cyffredin neu ffliw tymhorol 

Mae’n bwysig eich bod yn hysbysu’r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr cyn gynted â phosibl oni bai bod y myfyriwr eisoes wedi gwneud hynny. E-bostiwch cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk. Bydd staff wedyn yn cysylltu â'r partïon perthnasol i sicrhau bod y Brifysgol yn dilyn y protocolau cywir. 

Dywedwch wrth y myfyriwr y bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr a rhannu eu manylion. Gofynnwch iddynt beidio â mynd i unrhyw ddarlithoedd yn y cnawd hyd nes y ceir cadarnhad eu bod yn iawn i wneud hynny. Gallant e-bostio cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk neu ffonio: 01248 383707 ond NI ddylent ymweld yn y cnawd. 

Os bydd trydydd parti yn datgelu bod gan fyfyriwr glefyd heintus 

Cymerwch gymaint o wybodaeth â phosibl gan y person sy'n eich hysbysu; eu henw, y sefydliad y maent yn gweithio iddo, eu perthynas â’r myfyriwr, manylion cyswllt megis rhif ffôn ac ati. E-bostiwch y wybodaeth hon i cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk a bydd staff yn ymchwilio ymhellach. 

Os oes angen sylw meddygol brys ar y myfyriwr a’i fod ar dir y brifysgol, cysylltwch â Thîm Diogelwch y Brifysgol ar 01248 382795. Rhowch wybod iddynt am eich lleoliad, eich enw, enw'r myfyriwr a natur y sefyllfa. Os oes angen, ffoniwch 999 a gofynnwch am ragor o gymorth. Rhowch wybod i'r Tîm Diogelwch os bydd y gwasanaethau brys yn dod. 

 

Bydd staff yn y gwasanaethau priodol yn cysylltu â sefydliadau perthnasol megis Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gallai'r camau a gymerir gynnwys canfod pwy mae'r myfyriwr wedi dod i gysylltiad â nhw mewn darlithoedd/seminarau, cyd-letywyr, cyfarfyddiadau cymdeithasol ac ati a chysylltu â nhw i'w hysbysu am y risg o haint. Byddant hefyd yn sicrhau bod y myfyriwr yn cael y gefnogaeth gywir o ran darlithoedd a gollwyd, dyddiadau cyflwyno aseiniadau a dychwelyd i astudio pan fyddant yn ffit ac yn iach. 

Gofalu am fyfyrwyr eraill / Cefnogi cyfoedion

Gall myfyrwyr ganfod eu bod yn gweithredu fel gofalwr anweladwy, a'u bod yn rhoi lefel sylweddol o gefnogaeth anffurfiol i gyd-fyfyriwr. Mae bod yno i rywun arall yn rhan o’n dynoliaeth ac mae’n helpu i wneud y byd yn well lle, ond gall rhoi cefnogaeth i rywun arall fod yn rhwystredig ac yn flinedig yn emosiynol, a gall greu pryder sylweddol gan arwain o bosibl at ddicter a chasineb. Gall gwybod bod rhywun yn hunan-niweidio, neu'n teimlo’n ddigon anobeithiol i feddwl am hunanladdiad, ennyn amrywiaeth eang o emosiynau, yn cynnwys ofn, dicter a diymadferthwch.  

Mae’n bwysig iawn i’r rhai sy’n helpu, pwy bynnag yr ydynt, fod yn ymwybodol o’u hanghenion a’u cyfyngiadau, ac i gael cymorth eu hunain. Gall y Cynghorwyr Iechyd Meddwl gynnig cefnogaeth a chyngor.   

  

Efallai y bydd angen i chi gyfeirio'r myfyriwr at wahanol wasanaethau’n dibynnu ar union natur eu pryder.  

Os oes gan fyfyriwr bryderon am fyfyriwr arall:  

Os ydych yn poeni am iechyd meddwl myfyriwr, gallwch eu cyfeirio at y Gwasanaeth Lles Myfyrwyr gwasanaethaulles@bangor.ac.uk   

Os oes gan fyfyriwr bryderon am yr effaith ar eu gwaith academaidd eu hunain:  

Dylid cyfeirio’r myfyriwr at eu Tiwtor Personol yn y lle cyntaf, ond efallai y bydd angen eu cynghori hefyd i gyflwyno adroddiad amgylchiadau arbennig drwy'r Ganolfan Geisiadau os yw'n cael effaith ar eu gwaith academaidd. Gallant hefyd ofyn am estyniad drwy'r Ganolfan Geisiadau os yw eu pryderon yn cyd-fynd â dyddiad cyflwyno asesiad.  

Os yw myfyriwr eisiau arweiniad ar sut i gefnogi myfyriwr arall:  

Dylid cyfeirio’r myfyriwr at gwasanaethaulles@bangor.ac.uk. Mae'r Brifysgol yn cynnig gweithdai ‘Edrych ar ôl dy Fêts’ yn rhad ac am ddim a all roi cyngor i'r myfyriwr os yw ffrind neu gyd-letywr yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. Mae’r gweithdy’n ymdrin â sut i gyfeirio a chefnogi, technegau cyfathrebu, risg, ffiniau a pha mor bwysig yw hunanofal.  

Os oes gan fyfyriwr bryderon am fyfyriwr arall tra maent yn byw mewn Neuaddau Preswyl:  

Dylid cynghori’r myfyriwr i gysylltu â'r Tîm Cefnogaeth Breswyl, sy'n gyfrifol am les myfyrwyr yn llety'r Brifysgol. Bydd unrhyw beth y mae myfyriwr yn ei drafod gyda Mentor Neuaddau’n cael ei drin yn gwbl gyfrinachol.   

Bydd y gwasanaeth perthnasol yn cysylltu â'r myfyriwr i archwilio'r gefnogaeth y mae arnynt ei hangen.  

Camddefnyddio cyffuriau neu alcohol

Gwyddom fod cymdeithasu’n rhan fawr o fywyd Prifysgol, ond mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau amgylchedd diogel a chadarnhaol i’n myfyrwyr, ac rydym yn hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr. Rydym yn mabwysiadu agwedd gefnogol ac adeiladol wrth ddelio â myfyrwyr a all fod yn dioddef dibyniaeth neu gaethiwed i gyffuriau a/neu alcohol. 

 

Os ydych yn amau bod myfyriwr yn camddefnyddio alcohol neu sylweddau, dylech eu cyfeirio at y Gwasanaeth Lles Myfyrwyr a all drafod yr opsiynau o ran eu cefnogi - gwasanaethaulles@bangor.ac.uk.

Os daw myfyriwr atoch yn chwilio am gefnogaeth, gallwch hefyd eu cyfeirio at dudalennau gwe’r Gwasanaethau Myfyrwyr sy'n amlinellu'r gefnogaeth allanol a'r llinellau cymorth sydd ar gael - https://www.bangor.ac.uk/studentservices/student-health/drugs-and-alcohol.php.cy

 

Os argymhellir i fyfyriwr y dylent geisio arweiniad/cefnogaeth gan y Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr, ni fyddwn yn gallu rhoi diweddariadau i chi oherwydd natur gyfrinachol ein perthynas â’r myfyrwyr, ond byddant yn cael cynnig arweiniad a chefnogaeth bersonol fel y nodir yn y canllaw hwn. 

Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad ynglŷn â chadw ffiniau proffesiynol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Lles trwy e-bost: gwasanaethaulles@bangor.ac.uk a byddant yn hapus i helpu.   

Gwasanaethau Iechyd

Cofrestru gyda meddyg teulu 

Mae’n ofynnol i bob myfyriwr gofrestru gyda meddyg teulu lleol, a dylent wneud hynny mor fuan â phosibl yn ystod eu tymor cyntaf ym Mangor. Maent yn rhydd i ddewis pa bractis i gofrestru ag ef, ac os ydynt yn byw'n lleol gallant ddewis aros gyda’u meddygfa bresennol. Fodd bynnag, mae'r Brifysgol yn annog myfyrwyr i gofrestru gyda Meddyg Teulu cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd – a gallant wneud hynny yng Nghanolfan Feddygol Bodnant - https://bodnantmedicalcentre.co.uk  

Gellir dod o hyd i Feddygon Teulu eraill yma - https://www.bangor.ac.uk/studentservices/student-health/doctors.php.cy.  

Fferyllfeydd 

Pan fydd myfyriwr yn derbyn presgripsiwn gan Ganolfan Feddygol Bodnant, gallant fynd ag ef i unrhyw fferyllfa o’u dewis, a fydd wedyn yn rhoi’r feddyginiaeth sydd wedi ei bresgripsiynu iddynt. Os byddant yn cael presgripsiwn am feddyginiaethau hirdymor rheolaidd, dylent drafod gyda staff y fferyllfa beth yw’r ffordd orau o’u casglu’n rheolaidd yn unol â’u hanghenion. Mae pob fferyllfa yn yr ardal yn gwneud pethau'n wahanol, felly dylai myfyrwyr gadarnhau gyda'r fferyllfa o'u dewis sut yn union y dylid gwneud cais am eu meddyginiaethau amlroddadwy. Gall rhedeg allan o feddyginiaeth yn annisgwyl achosi llawer o straen, felly argymhellir yn gryf trafod yn briodol a chynllunio ymlaen llaw. 

Gwasanaethau Deintyddol Brys 

Mae Galw Iechyd Cymru’n cynnig gwasanaeth 24/7 i gleifion er mwyn siarad â gweithiwr deintyddol proffesiynol a fydd yn eich brysbennu, yn rhoi cyngor i chi ac, os yw’n briodol, yn cyfeirio’r myfyriwr at Wasanaeth Deintyddol Brys yng Ngogledd Cymru, neu hyd yn oed at Adran Achosion Brys os bydd angen. 

Mae o leiaf un clinig Gwasanaeth Deintyddol Brys yn gweithredu ar bob un o'r canlynol: nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau, a bore Sadwrn a bore Sul. 

Mae’r clinigau Gwasanaeth Deintyddol Brys wedi eu lleoli ym Methesda, Llanfairpwll, Cyffordd Llandudno, y Rhyl, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam. 

Gallwch gyfeirio myfyrwyr at y Llyfryn Gofal Iechyd Myfyrwyr. 

Os bydd myfyriwr yn teimlo'n sâl, dylent ymweld â thudalennau gwe GIG 111 Cymru neu ffonio 111. 

  • Os byddant yn teimlo'n sâl gyda'r ddannodd, peswch/anwyd, chwydu neu symptom arall, gallant ddefnyddio’r wefan gwirio symptomau i weld beth ddylent ei wneud. 
  • Gallant ddod o hyd i feddyg, deintydd neu glinig iechyd rhywiol yn eu hardal drwy ddefnyddio’r adnodd chwilio am wasanaethau lleol. 

Yn dilyn salwch, dylech hysbysu myfyrwyr y gall fod angen iddynt ddangos Tystysgrif Feddygol i egluro eu habsenoldeb. 

  • Yn achos salwch o lai na 7 diwrnod, gall myfyrwyr hunan-ardystio. Mae ffurflenni ar gael o'r meddygfeydd, ar-lein drwy’r porth 'FyMangor' neu o wefan y Gwasanaethau Myfyrwyr. 
  • Yn achos salwch o 7 diwrnod neu fwy a/neu sydd wedi peri i chi golli dyddiad cyflwyno aseiniad neu golli arholiad, efallai y bydd angen tystysgrif feddygol. Gall y Gwasanaeth Iechyd Myfyrwyr yng Nghanolfan Feddygol Bodnant ddarparu’r dystysgrif yn rhad ac am ddim. 

 Cynghorir myfyrwyr nad ydynt wedi cofrestru â Chanolfan Feddygol Bodnant i weld eu meddyg eu hunain. 

Beichiogrwydd a bod yn rhiant

Mae gan y Brifysgol Bolisi Beichiogrwydd, Mamolaeth a Rhianta i Fyfyrwyr.  

I lawer o’n myfyrwyr, gallai beichiogrwydd fod yn rhan gynlluniedig o’u dyfodol, ond i rai gall fod yn ddigwyddiad heb ei gynllunio. Efallai y byddant yn ymddangos yn bryderus neu fel petaent ddim yn talu sylw, efallai y byddant yn cael trafferth canolbwyntio, neu efallai yr effeithir ar eu perfformiad academaidd. Efallai y bydd angen iddynt gymryd seibiannau aml, neu efallai y byddant yn anghyfforddus mewn amgylcheddau sydd naill ai'n boeth iawn neu'n oer iawn, neu os byddant o amgylch bwyd neu ddiodydd penodol. Gall myfyrwyr beichiog hefyd fod yn bryderus ynghylch gorffen eu cwrs, a/neu’n poeni a allant gymryd seibiant o'u hastudiaethau. 

 

Os bydd myfyriwr yn dweud wrthych eu bod yn feichiog 

Ceisiwch gadw eich iaith yn niwtral a chanfod sut mae'r myfyriwr yn teimlo am y beichiogrwydd, yn hytrach na mynegi eich barn eich hun am y sefyllfa. Os yw myfyriwr yn teimlo’n ddryslyd ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio arnynt, byddwch yn ymwybodol y gallai eu llongyfarch neu fynegi empathi ddylanwadu ar eu proses benderfynu, neu achosi trallod iddynt. 

Dylai'r tiwtor personol neu aelod staff penodedig arall lunio cynllun ysgrifenedig yn nodi unrhyw drefniadau arbennig sydd eu hangen yn ystod beichiogrwydd y myfyriwr: pryd mae'r myfyriwr yn debygol o ddechrau eu habsenoldeb oherwydd mamolaeth; pa wybodaeth fydd angen ei chyflwyno, y dull cyfathrebu fyddai orau ganddynt yn ystod eu habsenoldeb, a'r amserlen y cytunir arni iddynt ddychwelyd i'w hastudiaethau. Dylai'r myfyriwr dderbyn copi o’r cynllun hwn, yn ogystal ag aelod(au) priodol eraill o staff sydd angen y wybodaeth hon. ⁠Dylid cael caniatâd y myfyriwr cyn trosglwyddo’r wybodaeth. 

Iechyd a Diogelwch 

Efallai y bydd angen rhoi mesurau iechyd a diogelwch ar waith er mwyn amddiffyn y myfyriwr a'r babi yn y groth, a bydd hyn yn arbennig o berthnasol mewn rhai Ysgolion.

Ar ôl i'r myfyriwr roi gwybod am eu beichiogrwydd i'w Hysgol, bydd yr Ysgol yn gwneud Asesiad Risg sy’n benodol i’r unigolyn. Yn achos myfyrwyr israddedig, gwneir hynny gan yr Ysgol, neu gan y Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch yn achos myfyrwyr ôl-radd. Bydd hyn yn nodi unrhyw risgiau a all fod yn bresennol a allai niweidio'r myfyriwr neu eu babi, a rhoi manylion am y camau sydd angen eu cymryd i liniaru neu leihau'r risgiau hynny. Dylai hefyd roi manylion ynghylch unrhyw risgiau a all godi o unrhyw gyfnod lleoliad neu waith maes sydd i'w wneud 

Os nad yw'n ymarferol gwneud yr addasiadau sy'n ofynnol gan yr Asesiad Risg, neu os na ellir osgoi'r risgiau a nodwyd, efallai y bydd angen i'r myfyriwr gymryd amser i ffwrdd o'u hastudiaethau. Serch hynny, dylai'r Ysgol wneud pob ymdrech, lle bo'n bosibl, i reoli'r risgiau Iechyd a Diogelwch a dod o hyd i ffyrdd eraill o alluogi i'r myfyriwr barhau â'u cwrs os nad yw gohirio'n cyd-fynd â'u dymuniadau. 

Os oes gan fyfyriwr gwestiynau neu os oes arnynt eisiau cefnogaeth ynghylch eu beichiogrwydd: 

Gallwch gyfeirio'r myfyriwr at y  Polisi Beichiogrwydd, Mamolaeth a Rhianta i Fyfyrwyr. Mae'r ddogfen yn amlinellu hawliau'r myfyriwr, ynghyd â'r opsiynau sydd ar gael.  

Os oes gan y myfyriwr unrhyw ymholiadau pellach, neu os ydynt eisiau trafod eu hopsiynau, megis gohirio astudiaethau dros dro, dylid eu cyfeirio at cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk (myfyrwyr israddedig) neu gweinyddiaeth-myfyrwyr@bangor.ac.uk (myfyrwyr ôl-radd).  

Cynghorir myfyrwyr rhyngwladol i gysylltu ag internationalsupport@bangor.ac.uk oherwydd y rheoliadau cymhleth posibl yn ymwneud â mewnfudo a fisa, yn enwedig os yw myfyriwr yn penderfynu gohirio astudiaethau dros dro.  

Os yw myfyriwr yn dymuno dychwelyd i astudio’n syth ar ôl rhoi genedigaeth 

Ni ddylai unrhyw fyfyriwr sydd wedi rhoi genedigaeth ddychwelyd i'r Brifysgol o fewn pythefnos i roi genedigaeth; y mae hyn yn unol â Chyfraith Cyflogaeth. 

Mae Bwrsariaethau Myfyrwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn argymell o leiaf 12 wythnos o absenoldeb mamolaeth, ond mae'n caniatáu i fyfyrwyr ddychwelyd yn gynt gyda chymeradwyaeth gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. 

 

 

Gall Ymgynghorwyr y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr (ar gyfer myfyrwyr israddedig - cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk) neu’r Tîm Gweinyddu Myfyrwyr (ar gyfer myfyrwyr ôl-radd - gweinyddiaeth-myfyrwyr@bangor.ac.uk) drafod opsiynau gyda myfyrwyr o ran astudio, gan gynnwys gohirio astudiaethau dros dro. Gallant hefyd gynorthwyo’r myfyriwr i gael mynediad at wasanaethau cefnogi eraill megis y Gwasanaethau Lles (gwasanaethaulles@bangor.ac.uk) a/neu’r Tîm Cymorth Ariannol (cymorthariannol@bangor.ac.uk) fel eu bod yn cael y wybodaeth lawn am eu hopsiynau, a’r effaith ar eu hastudiaethau. 

Gall ymgynghorwyr hefyd roi cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr sy'n dychwelyd i'w hastudiaethau.