Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

Llongyfarchiadau mawr ar gael cynnig i astudio yma ym Mhrifysgol Bangor.

Rhian Tomos ydw i a dwi'n darlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn yr Ysgol Addysg yma ym Mangor.

Dwi'n edrych ymlaen at gael eich cwmni chi mewn darlithoedd i chi gael dysgu am y maes, a chael dod i nabod eich hun ag i ddatblygu eich cyflogadwyedd fel eich bod yn gallu mynd i weithio yn y maes plant a phobl ifanc yn llwyddiannus yn y dyfodol.

Felly dwi'n edrych ymlaen yn arw at gael eich cwmni chi a'ch cyfarfod chi yn fuan.

Cwestiynau Cyffredin

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fel arfer bydd gennych 8-10 o oriau cyswllt, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Yn ystod weddill yr wythnos bydd disgwyliad arnoch chi i wneud hunain astudiaeth a threulio amser yn darllen, ymchwilio a pharatoi ar gyfer aseiniadau.

Oes, byddwch yn cael cyfle i fynd ar leoliad gwaith yn y flwyddyn gyntaf ac yr ail flwyddyn. Cewch hefyd gyfle i gwrdd ag arbenigwyr yn y maes a chlywed am eu profiadau.

Mae gennym dau gwrs yma ym Mhrifysgol Bangor, cwrs Cyfrwng Cymraeg a chwrs Cyfrwng Saesneg. Mae astudio drwy’r Gymraeg yn gallu rhoi mantais i chi os byddwch yn edrych am swydd yng Nghymru.

Mae gwobrau ariannol ar gael i chi pam fyddwch yn astudio o leiaf 40 credyd drwy'r Gymraeg gan gynnwys ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bwrsariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn edrych ar bob agwedd ar ddatblygiad plentyn, ei hawliau, caffael iaith, anghenion dysgu ychwanegol, i enwi ond ychydig. Bydd y radd yn eich paratoi i weithio gyda phlant mewn pob math o leoliadau, o'r blynyddoedd cynnar hyd at y llencyndod. Mae rhai o’n graddedigion yn mynd ymlaen i roi pwysau ar TAR i ddod yn athro Cynradd neu Uwchradd (yn amodol ar fodloni’r gofynion mynediad).

Na, mae pob asesiad yn waith cwrs.

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Headshot of Arwyn Roberts

Arwyn Roberts

Ar ol graddio mewn Daearyddiaeth Dynol a mynd ymlaen i TAR cynradd, mae gweithio hefo plant wedi bod yn bwysig i mi, mae wastad yn ddiddorol, hwyl ac yn agoriad llygaid.

Ar ôl gweithio o fewn y maes Hawliau Plant a Chyfranogi am ran fawr o fy mywyd gweithio mae gwrando ar blant a phobl ifanc yn bwysig i mi.

Mae'r syniadau a sylwadau mae plant a phobl ifanc yn rhoi yn ein Huwchgynadleddau yn hynod o ddiddorol.

Roedd y cyfle i weithio ar astudiaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â Llais y Disgybl dros gyfnod Covid yn brofiad gwych a wnes i ddysgu llawer bod y ffordd mae ysgolion yn gwrando ar blant yn amrywio.

Cymerwch fantais o'r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr, o gymorth astudio i chwaraeon sydd ar gael yma. Gwnewch y mwyaf o'ch amser yma!

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.   

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal Bangor fel eich dewis Cadarn, â'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
 

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd