Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio yn Ysgol Busnes Bangor
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Busnes, Rheolaeth a Rheolaeth Adnoddau Dynol yma yn Ysgol Busnes Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi. Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Busnes, Rheolaeth a Rheolaeth Adnoddau Dynol
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
O gystadlaethau cenedlaethol fel The Pitch a Universities Business Challenge Worldwide i leoliad gwaith a sgyrsiau gwadd mae digon o gyfleoedd fel myfyriwr i wella eich cyflogadwyedd ac ennill sgiliau gwerthfawr ar gyfer eich dyfodol.
Gwyliwch ein fideo
Helo a Llongyfarchiadau mawr i chi ar eich cynnig i ddod yma i astudio i Brifysgol Bangor.
Fy enw i Dr Siwan Mitchelmore dwi'n Uwch Ddarlithydd mewn Busnes a Rheolaeth ac yn Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd yma yn yr Ysgol Fusnes.
Mae'n adran sy'n cynnig rhaglenni astudio amrywiol a chyffrous wedi eu cynllunio i rhoi'r wybodaeth a sgiliau rydych chi angen i lwyddo yn y byd busnes.
Dwi'n edrych ymlaen i rannu fy ngwybodaeth a fy mhrofiad gyda chi, a'ch cefnogi chi ar eich taith academaidd a proffesiynol.
Mae cyflogadwyedd yn agwedd hanfodol ar ein rhaglenni ac rydym ni ac rydym yn gweithio yn galed i sicrhau y byddech yn graddio gyda'r sgiliau a'r profiad sydd ei angen arnoch i lwyddo yn y farchnad swyddi.
Yn ei ysgol rydym ni yn ymfalchïo yn ein cyfleusterau ac amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol.
Mae'n staff academaidd yn frwdfrydig, cyfeillgar a bob amser yn barod i'ch helpu i gyrraedd eich llawn potensial. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn i'ch gweld yn fuan.
Cwestiynau Cyffredin
Mewn wythnos arferol, byddwch yn mynd i 12 awr o ddosbarthiadau. Cedwir prynhawniau dydd Mercher yn rhydd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasau myfyrwyr. Mae yna hefyd lawer o weithgareddau allgyrsiol y gallwch gymryd rhan ynddynt yn yr Ysgol Busnes ac yn y brifysgol ehangach.
Byddwch yn cael 12 awr o addysgu yn y cnawd bob wythnos. Mae'r rhain yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Dylid treulio gweddill yr amser ar ddysgu hunangyfeiriedig/annibynnol h.y. darllen y bennod berthnasol yn y gwerslyfr rheolaeth i fodiwl penodol, gwneud ymchwil ar frand i aseiniad sydd i ddod, cymryd rhan mewn trafodaeth rithwir neu ddarllen astudiaeth achos i baratoi at diwtorial sydd i ddod.
Os hoffech fod yn entrepreneur a sefydlu eich busnes eich hun, neu weithio gyda chwmnïau rhyngwladol, busnesau newydd neu rai nid-er-elw neu weithio yn y sector cyhoeddus, bydd y rhaglen hon yn rhoi'r gallu a'r arbenigedd i chi roi eich gyrfa ar lwybr carlam. Er enghraifft, bydd y radd hon yn rhoi'r sgiliau i chi feddwl yn strategol ac yn greadigol wrth ddatrys problemau a rheoli newid. Byddwch yn cael cyfle i wrando ar amrywiaeth o siaradwyr gwadd, gan gynnwys entrepreneuriaid llwyddiannus a chewch gyfle i ymgysylltu â busnesau, ymgymryd â lleoliadau gwaith, interniaethau a chymryd rhan mewn cystadlaethau busnes, a bydd pob un ohonynt yn rhoi hwb i'ch cyflogadwyedd.
Byddwch yn astudio pynciau fel arferion rheoli, theori trefniadaeth a'r amgylchedd busnes byd-eang, yn ogystal â llawer o agweddau eraill ar fusnes, megis arweinyddiaeth, cynaliadwyedd, arloesi, marchnata, gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol, strategaeth, creu menter newydd, cyllid, addasu i newid ac e-fusnes. Byddwch yn astudio sefydliadau go iawn er mwyn dod yn graff o ran busnes a chewch feithrin eich gwybodaeth am brosesau rheoli.
Cwrdd rhai o'ch darlithwyr
Dr Clair Doloriert
Dechreuais fy ngyrfa yn gweithio ym maes manwerthu a chefais brofiad negyddol gyda rheolwr. Ysgogodd hyn awydd ynof i ddeall pam bod penaethiaid ac arweinwyr yn gallu ymddwyn mewn ffyrdd mor negyddol, a sut beth yw arweinyddiaeth dda, a sut y gellir rheoli a chefnogi staff pan fyddant yn cael anawsterau gyda phobl eraill yn y gwaith.
Deall pobl yn y gwaith a sut y gall gwaith fod yn brofiad hapus a gwerth chweil. Bydd llawer ohonom yn treulio tua 44 mlynedd yn y gwaith, mae hyn yn cyfateb i tua 690,000 o oriau gwaith. Dylai gwaith fod yn rhywbeth sy'n ein helpu i ffynnu ac yn rhoi synnwyr o ystyr i ni ac yn cyfrannu at les personol cadarnhaol.
Meddyliwch am eich amser ym Mangor fel amgylchedd cefnogol i dyfu a datblygu eich sgiliau cyfathrebu, rhwydweithio a chyflogadwyedd. Bachwch ar bob cyfle y gallwch i gyfoethogi eich CV; gemau busnes, cymdeithasau, gwirfoddoli, teithio!
Dwi wrth fy modd yn cerdded bryniau neu gerdded pŵer am hanner awr gyda phodlediad - a dwi'n hoff iawn o bodlediadau a'r pŵer o ddysgu i ffwrdd oddi ar sgrin!
Dr Linda Osti
Mae llawer o bobl yn meddwl bod gradd mewn twristiaeth yn arwain at swyddi yn y sectorau lletygarwch neu asiantaethau teithio yn unig. Nid felly y mae hi o gwbl. Mae twristiaeth, ynghyd â sylfeini cadarn mewn rheoli, marchnata a chynaliadwyedd, yn agor drysau i yrfaoedd amrywiol. Gall graddedigion weithio mewn rolau fel gweithwyr proffesiynol rheoli cyrchfannau, rheolwyr atyniadau twristiaeth, rheolwyr cynaliadwyedd, neu strategwyr marchnata. Gall eraill ddilyn mentrau entrepreneuraidd. Dros bron i ddau ddegawd o ddysgu twristiaeth yn y brifysgol, gwelais lwyddiannau di-ri’—graddedigion yn rheoli cyrchfannau sgïo yn yr Alpau, yn rhedeg mentrau twristiaeth cynaliadwy, yn dod yn rheolwyr digwyddiadau, yn agor busnes twristiaeth ar lwybr beicio, neu’n ymuno â'r byd academaidd a dod yn gydweithwyr imi.
Rwyf wrth fy modd yn defnyddio enghreifftiau o’r byd go iawn. Mae ymwneud â’r myfyrwyr wrth iddynt rannu eu profiadau hwythau o wyliau neu deithiau y buont arnynt yn creu sylfaen i drafodaethau ystyrlon. Ar y sail honno, rydym yn ymchwilio i ddadansoddiad beirniadol o rôl twristiaeth i dwristiaid, busnesau a chymunedau. Rwy'n mwynhau archwilio twristiaeth o safbwynt ehangach, ac ystyried ei swyddogaeth fel system gymhleth sy'n effeithio ar randdeiliaid lu.
Y tueddiadau sy'n dod i'r amlwg. System agored yw twristiaeth ac mae amrywiol ffactorau’n dylanwadu arni, gan gynnwys newidiadau technolegol, amgylcheddol, demograffig a gwleidyddol, i enwi dim ond rhai. Bob blwyddyn mae tueddiadau newydd yn siapio'r diwydiant deinamig hwn. Mae fy narlithoedd yn esblygu'n gyson wrth imi gyflwyno ac archwilio'r datblygiadau newydd hynny gyda’r myfyrwyr. Mae twristiaeth yn frith o ddatblygiadau newydd - cwmnïau hedfan cost isel, Airbnb, modelau prisio deinamig. Mae ymchwilio a rhannu'r datblygiadau hynny dod â chyffro parhaus i’r gwaith.
Dynamig - oherwydd mae pob diwrnod yn wahanol.
Arloesol - oherwydd ei fod yn addasu'n gyson i dueddiadau a heriau byd-eang.
Effeithiol - oherwydd ei fod yn cysylltu diwylliannau ac o’i reoli'n briodol, mae’n helpu cymunedau dyfu,