Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio yn Ysgol Busnes Bangor

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Cyfrifeg, Bancio a Chyllid yma yn Ysgol Busnes Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi. Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. 

Dilynwch ni ar Facebook

Dilynwch ni ar Instagram

Dilynwch ni ar LinkedIn

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Cyfrifeg, Bancio a Chyllid

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Yma yn Ysgol Busnes Bangor, mae gennym fynediad i rai o'r cronfeydd data gorau gan gynnwys Bloomberg. Mae caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r cronfeydd data hyn fel rhan o'u cwrs nid yn unig yn gwella eu profiad dysgu ond hefyd yn eu paratoi'n well ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.

Gwyliwch ein fideo

Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i astudio yma yn Ysgol Fusnes Bangor.

Fi yw Dr Edward Tomos Jones Uwch Ddarlithydd mewn Economeg.

Yma cewch astudio Cyfrifeg, Cyllid a Bancio a pan fyddwch yn astudio y pynciau yma fyddwch yn edrych ar holl fathau o wahanol bethau, fel chwyddiant a llogau'r ddau dwi'n siŵr eich bod wedi clywed amdano yn y newyddion yn ddiweddar.

Wrth i chi astudio modiwlau hefo ni, fyddwch yn dysgu mwy am wahanol elfennau o Cyfrifeg, Cyllid a Bancio ac yn dysgu sut mae'r wybodaeth yma yn eich paratoi ar gyfer y gweithle.

Ni'n edrych ymlaen at gwrdd chi gyd pan da chi yn dod yma i astudio go fuan.

Cwrdd rhai o'ch darlithwyr

Hanxiong Zhang

Hanxiong Zhang

Gwella statws ariannol personol a chynhwysiant cymdeithasol.

Gwella budd cymdeithasol trwy fanteisio i’r eithaf ar benderfyniadau buddsoddi.

Cefnogi myfyrwyr i gyflawni eu nodau personol trwy drosglwyddo fy ymchwil a phrofiad ymarferol yn y maes cyllid.

Dysgu trwy brofiad.

Mathemateg, Optimeiddio, Gweithgar. 

Shee-Yee Khoo

Shee-Yee Khoo

Roedd cyllid wedi cipio fy niddordeb oherwydd ei effaith bwerus ar unigolion, busnesau ac economïau. Roedd y syniad y gallai penderfyniadau ariannol gwybodus greu cyfoeth, a sbarduno arloesedd a sefydlogrwydd economaidd, yn ddiddorol i mi. Cefais fy nenu’n arbennig at natur ddeinamig buddsoddi a rheoli portffolios, lle mae’r cyfuniad o ddadansoddi meintiol a seicoleg ddynol yn creu her hynod ddiddorol.

Yr agwedd fwyaf diddorol ar Fuddsoddi a Rheoli Portffolios yw deall sut mae risg ac adenillion yn rhyngweithio i ysgogi penderfyniadau buddsoddi, o brisio asedau fel ecwitïau a bondiau i grefftio portffolios amrywiol sy'n cyd-fynd ag amcanion buddsoddwyr.

Fy hoff ran am addysgu ym Mhrifysgol Bangor yw ei hamgylchedd cynhwysol a chefnogol. Mae Prifysgol Bangor yn meithrin cymuned ddysgu amrywiol lle mae myfyrwyr o bob cefndir yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u hannog i ffynnu.

Manteisio i'r eithaf ar amgylchedd cynhwysol Bangor, sy'n gyfoethog o ran adnoddau, trwy gymryd rhan weithredol mewn cyfleoedd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, er enghraifft ymuno â chymdeithasau, cymryd rhan mewn gweithdai, a chysylltu â chyfoedion o gefndiroedd amrywiol.

Dynamig - dadansoddol = trawsnewidiol 

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.   

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal Bangor fel eich dewis Cadarn, â'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
 

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd