Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Yn yr ysgol rydym yn cynnal nosweithiau pitsa, cwis a mynd ar dripiau allan i lefydd gwahanol, yn ddiweddar aethom ar drip i farchnad Nadolig Manceinion.

Gwyliwch ein fideo

Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i Brifysgol Bangor.

Dr Cynog Prys ydw i, dwi'n uwch ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn y Brifysgol, lle dwi yn arbenigo mewn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Methu disgwyl cael gweld chi yn cyrraedd yma yn y Brifysgol i astudio pwnc sydd ym mor bwysig, sydd mor amserol i ni heddiw lle da ni yn trio neud synnwyr o'r byd o'n cwmpas ni lle da ni'n trio neud synnwyr o'r gymdeithas a'r newidiadau sydd yn digwydd yn y gymdeithas.

Mi fydd yn grêt cael chi yma i astudio efo ni.

Felly da ni'n cyfri'r diwrnodiau tan fod chi yn cyrraedd. Pob lwc i chi!

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Dr Hefin Gwilym

Dr Hefin Gwilym

Nid yw fy maes pwnc erioed wedi bod yn fwy perthnasol. Mae sut rydym yn mynd i'r afael â materion megis yr argyfwng tai a'r heriau yn y GIG yn bryderon mawr, a gall Polisi Cymdeithasol gynnig atebion i'r problemau hynny a phroblemau eraill.

Rwyf erioed amser wedi bod â diddordeb mewn sut mae cymdeithas yn cael ei llywodraethu a pha bolisïau sy'n gwneud y gwahaniaethau mwyaf i bethau fel tlodi ac anghydraddoldeb. Mae Polisi Cymdeithasol yn archwilio'r meysydd hyn ac yn cynnig atebion i rai o brif broblemau cymdeithas mewn meysydd megis tai a lles.

Rydw i’n mwynhau addysgu am feysydd amserol a chyfoes wrth fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yng nghymdeithas y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Rydw i’n ffodus iawn bod gen i fyfyrwyr o bedwar ban byd yn fy nosbarthiadau ac rydw i’n mwynhau clywed eu straeon a'u profiadau ynglŷn â pholisïau cymdeithasol mewn meysydd megis iechyd ac addysg.

Rydw i’n mwynhau rhyngweithio â'r myfyrwyr a dysgu o'u profiadau o wladwriaethau lles ledled y byd. Mae'n wych gweld myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau, yn enwedig ar ôl i mi roi cyflwyniad am faes amserol.

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.   

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal Bangor fel eich dewis Cadarn, â'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
 

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd