Llongyfarchiadau ar eich cynnig o le ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar dderbyn eich cynnig i astudio gyda ni! Cynlluniwyd y dudalen hon i'ch helpu i archwilio'r hyn sydd gan Fangor i'w gynnig - o'n cyfleusterau o'r radd flaenaf i gyfleoedd ar gyfer profiad ymarferol. Wrth i chi ystyried eich opsiynau, edrychwch yn agosach ar yr hyn sy'n gwneud astudio yma yn ddewis unigryw a gwerth chweil.
Oeddech chi'n gwybod?
O ddarganfyddiadau cyffuriau newydd i ofal cleifion, byddwch yn astudio beth sy'n gyfredol ac yn cael effaith.
Bydd eu cefnogaeth a’u mentoriaeth yn eich helpu i lywio eich astudiaethau a pharatoi ar gyfer eich gyrfa mewn fferylliaeth, ffarmacoleg neu feysydd eraill.
Mae'r amgylchedd hwn yn helpu i ddod â dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn fyw ac yn datblygu sgiliau y gallwch eu defnyddio yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Neges gan yr Athro Dyfrig Hughes
Dyfrig Hughes ydw i, dwi'n athro yma yn Prifysgol Bangor a dwi'n dysgu ar y cyrsiau Fferylliaeth a Ffarmacoleg.
Dwi'n hynod falch eich bod wedi cael cynnig, lle yma i astudio ym Mhrifysgol Bangor a dwi'n fawr obeithio y byddwch yn derbyn y cynnig, a pob llongyfarchiadau mawr i chi a pob dymuniadau da ar eich arholiadau i ddod.
@medical.bangor.meddygol Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw ymarferol labordy? 🥼 Cyfle i gael cipolwg ar ein myfyrwyr blwyddyn gyntaf o'r Gwyddorau Meddygol, Gwyddor Biofeddygol a Ffarmacoleg yn cynnal ymchwiliad ymarferol gan ddefnyddio madarch 🍄 Ever wondered what a lab practical is ACTUALLY like? 🥼 Have a peek at our first year students from Medical Sciences, Biomedical Science and Pharmacology undertaking an investigation practical using mushrooms 🍄 #pharmacology #bangoruniversity #medicalsciences #biomed #STEMtok #laboratory ♬ original sound - Medical @ Bangor Uni
Cwrdd â'r Darlithwyr
Os dewiswch astudio gyda ni ym Mangor byddwch yn cael eich dysgu gan bobl sy'n angerddol am eu pynciau. Isod gallwch ddod i adnabod rhai o'r darlithwyr allweddol a fydd yn rhan o flynyddoedd cyntaf eich gradd.