Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Ffilm, Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Drama yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Ffilm, Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Drama
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Helo Geraint Ellis ydw i a dwi'n ddarlithydd ym maes y cyfryngau yma ym Mhrifysgol Bangor a dwi'n darlithio yn arbennig ar fodiwlau sydd i ymwneud a chynhyrchu ar gyfer y cyfryngau. Llongyfarchiadau mawr i chi ar gael cynnig lle efo ni yma ym Mangor
Mae yna amrywiaeth o fodiwlau ym maes ffilm, newyddiaduraeth a'r cyfryngau fyswch chi yn astudio chwech modiwl yn y flwyddyn gyntaf, tri yn y semester cyntaf a tri yn yr ail semester. Mae yna gyfuniad o fodiwlau sydd yn ymarferol a rhai sydd yn fwy dadansoddol ac rydym yn plethu'r elfennau yma gyda'i gilydd.
Mae yna gyfle hefyd i chi ymuno efo cymdeithasau a dilyn eich diddordebau gyda myfyrwyr eraill, mae yna gymuned greadigol gref yma ym Mangor efo ysgrifenwyr, ffilmwyr, cyfarwyddwyr a chyfansoddwyr hefyd.
Felly mae yna gyfle i chi neud sawl peth tu allan i'r cwrs sydd hefyd yn mynd i helpu chi gyda'r cyrsiau eu hunain a da ni mewn lleoliad ardderchog ar gyfer ffilmio wrth gwrs ac mae'n gymuned fach, clos a chroesawgar ac mi fydd yna groeso cynnes iawn i chi os da ni'n eich gweld chi yma ym Mangor yn fuan iawn gobeithio. Cymerwch ofal, hwyl.
Cwestiynau Cyffredin
Mae eich wythnos arferol yn cynnwys amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ymarferol, ymarferion o bosib, gwylio ffilmiau yn y sinema, ffilmio, recordio ar leoliad gydag eich cyd-fyfyrwyr a darlithwyr. Weithiau bydd gofyn i chi gwblhau tasgau ar gyfer y sesiwn nesaf ar gyfer y modiwl, yn annibynnol neu/ac mewn grŵp tuag at eich astudiaethau. Mae yna hefyd gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol gyda chymdeithasau bywiog y coleg, er enghraifft, Y Gymdeithas Ffilm, Cymdeithas Sioeau Cerdd Bangor, Papur newydd y Brifysgol, ac amryw o gymdeithasau cerddorol, megis corau a cherddorfa o fri. Gallwch fod mor brysur â 'da chi eisiau bod neu gyfle i ymlacio ar adegau yn lle!
Fel arfer, rydych yn astudio tri modiwl yn bob semester sydd yn golygu 9-12 awr o amser cyswllt yn wythnosol. Yn dilyn hyn, mi fydd gofyn i chi gwblhau gwaith annibynnol, er enghraifft darllen yn wythnosol, mynd i wylio perfformiadau, ffilmiau, sgyrsiau byw yn llefydd fel ein Canolfan Celfyddydau, Pontio. Ac ar rhai wythnosau mi fyddwch yn cyfarfod yn ychwanegol o fewn eich grwpiau dosbarth er mwy ymarfer tuag at berfformiad, ffilmio ffilmiau byr/dogfen, recordio podlediad, golygu, sgriptio a gweithio ar eich portffolio creadigol.
Paratowch ar gyfer eich gyrfa mewn newyddiaduraeth, ffilm cyfryngau neu/a drama gydag offer ffilm, recordio a golygu o safon yn ogystal â gofodau perfformio gwych.
Mae ein gennym Gamerâu Black Magic, Meddalwedd golygu Adobe Creative Suite a DaVinci Resolve yn ogystal ag ystafell radio a phodledau, Theatr Bryn Terfel sydd a 450 o seddi, Stiwdio theatr gyda 150 o seddi a Sinema!
Pontio ein Canolfan Celfyddydau ac Arloesi yw’r lle rydym o dro i dro yn arddangos eich ffilmiau a’ch projectau creadigol. Bydd Pontio hefyd yn rhoi rhaglen ymlaen sy'n cynnwys ffilmiau celf a’r ffilmiau mawr diweddaraf, a chynyrchiadau dawns a theatr gyfoes gallwch fynd i fwynhau yn amser eich hun (bydd cost ychwanegol).
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag enwau blaenllaw ym myd ffilm, theledu a theatr Cymraeg, gan gynnwys:
- Ffilm Cymru Wales, yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilm yng Nghymru
- Stiwdios Ffilm Aria - Llangefni
- Fran Wen - cwmni theatr yn Mangor
Ni fydd angen i chi deithio'n bell i ddysgu be ydy be! Bydd cyfle i gael teithiau tywysiedig o amgylch setiau teledu Rownd a Rownd. Bydd gweithdai a dosbarthiadau meistri yn cael eu cynnal yn y Brifysgol gyda chriwiau proffesiynol llawrydd trwy Academi Sgrin Cymru. Byddwn hefyd yn dod ag arbenigwyr o’r diwydiant i mewn i gynnal sesiynau sgiliau i hybu eich cyflogadwyedd. Mae ein graddedigion wedi cael llwyddiant yng Ngwobrau BAFTA Cymru.
Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Dr Elena Hristova
Dysgu beth mae myfyrwyr yn ymddiddori ynddo - y llynedd, roedd fy nosbarth Diwylliannau Gweledol blwyddyn gyntaf wedi cyffroi'n lân ar gyfer ein hwythnos graffiti, ac ysgrifennodd llawer ohonynt draethodau ar graffiti yng Nghymru, Lloegr a’r Unol Daleithiau. Ac felly, cymerais eu cyffro a datblygu'r modiwl ymhellach i wneud ymchwil ar graffiti. Felly yn ystod semester y gwanwyn hwn, byddwn yn dogfennu graffiti yn yr ardal leol ac yn datblygu ein dealltwriaeth o sut mae graffiti’n cyfleu ymdeimlad o le a pherthyn.
Graddio a’r Arddangosfa Diwedd Blwyddyn lle mae myfyrwyr blwyddyn olaf Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau’n arddangos eu gwaith ymchwil ac ymarfer creadigol - mae’n wych gweld ein myfyrwyr mor falch o’u cyflawniadau, a hefyd gweld eu rhieni balch.
Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda myfyrwyr ar ymchwil. Y llynedd, cafodd un fyfyrwyr eu penodi fel fy intern cyflogedig i greu cyfres o bodlediadau a oedd yn tarddu o fy llyfr 'The Ghost Reader: Recovering Women's Contributions to Media Studies' (Goldsmiths Press, 2024) - roedd yn brofiad gwych.
Darllenwch, a defnyddiwch 'The Elements of Style' gan Strunk a White - sef llyfr bychan am ysgrifennu'n dda: Dwi bellach yn ei argymell i bob myfyriwr - pan fyddwch yn dysgu rheolau ysgrifennu da, rydych yn gallu eu torri mewn ffordd effeithiol a phwrpasol, er mwyn cael yr effaith fwyaf.