Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Gwleidyddiaeth yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Gwleidyddiaeth

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Yn yr ysgol rydym yn cynnal nosweithiau pitsa, cwis a mynd ar dripiau allan i lefydd gwahanol, yn ddiweddar aethom ar drip i farchnad Nadolig Manceinion.

Gwyliwch ein fideo

Helo Llongyfarchiadau mawr i chi, fy enw i ydi Dr Mari Wiliam ac rwy'n ddarlithydd Hanes Modern yma ym Mhrifysgol Bangor.

Fel rhan o hyn rwy'n cyfrannu at nifer o fodiwlau Gwleidyddiaeth ni'r modiwlau sydd ar gael ar ein cwrs gradd Gwleidyddiaeth, a dwi'n meddwl rhan nodedig o'n cwrs gradd Gwleidyddiaeth ni ydi pa mor rhyngddisgyblaethol ydi o, rydym ni'n ffeindio synthesis rhwng gwahanol feysydd fel Hanes, Cymdeithaseg, Athroniaeth, Astudiaethau Cyfryngau a'r Gyfraith.

Felly mae yna ddarpariaeth eang iawn i chi sydd yn eich gwreiddio chi mewn dealltwriaeth o wahanol fathau o Wleidyddiaeth, achos mae Gwleidyddiaeth yn derm eang mae o yn gallu golygu lot o bethau ond beth sydd yn bwysig ydi eich bod yn cael eich yn y cwrs Gwleidyddiaeth yma ym Mangor efo dealltwriaeth o gymdeithas gyfredol a digwyddiadau cyfredol yn y newyddion ac mewn Gwleidyddiaeth byd eang.

Cwestiynau Cyffredin

Bydd wythnos arferol yn cynnwys mynychu’r darlithoedd a’r seminarau ar gyfer pob un o’r 3 modiwl y byddwch yn eu hastudio ym mhob semester. Bydd darlithoedd yn cyflwyno pynciau tra bod seminarau’n rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod gwaith darllen gosod a gweithgareddau ymchwil. Byddwch hefyd yn treulio amser yn y llyfrgell neu fannau astudio, yn paratoi at ddosbarth neu'n gweithio ar aseiniadau.

Tua 6-10 awr yr wythnos yn dibynnu ar y modiwl a ddewiswch. Mae rhai wedi eu strwythuro'n wahanol felly efallai y bydd dosbarthiadau’n wythnosol.

Byddwch yn siapio'ch gradd trwy'r modiwlau a ddewiswch. Mae modd canolbwyntio ar hanes gwleidyddol, athroniaeth wleidyddol a syniadau, neu gymryd diddordeb penodol mewn materion polisi cymdeithasol.

Byddwch hefyd yn datblygu nifer o sgiliau yn y modiwlau y byddwch yn eu hastudio. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi ffynonellau’n feirniadol, ochr yn ochr â chyfathrebu ysgrifenedig a chyfathrebu llafar trwy gyflwyno asesiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth. Yn bwysicach na dim, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch ymwybyddiaeth o faterion gwleidyddol ac yn gwerthuso'n feirniadol sut mae'r llywodraeth a sefydliadau eraill yn gweithredu.

Mae nifer o fyfyrwyr wedi cael profiad gwaith gydag awdurdodau lleol, megis Cyngor Dinas Bangor a gydag Aelodau Seneddol lleol. Roeddent yn aml yn ymgymryd â'r lleoliadau hynny wrth astudio modiwl Lleoliad Gwaith yr Ysgol.

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.   

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal Bangor fel eich dewis Cadarn, â'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
 

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd