Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Hanes, Archeoleg a Threftadaeth yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Hanes, Archeoleg a Threftadaeth
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Yn yr ysgol rydym yn cynnal nosweithiau pitsa, cwis a mynd ar dripiau allan i lefydd gwahanol, yn ddiweddar aethom ar drip i farchnad Nadolig Manceinion.
Gwyliwch ein fideo
Helo Dr Mari Wiliam ydw i a dwi'n ddarlithydd Hanes Modern a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Ag i gychwyn byswn yn hoffi dweud llongyfarchiadau i chi, a diolch hefyd am edrych a chymryd diddordeb mewn cyrsiau mewn Hanes,
Archeoleg a Threftadaeth yma ym Mrhifysgol Bangor. Dwi'n hollol ragfarnllyd yn dweud hyn ond i fi mae hanes ag edrych ar y gorffennol yn un o'r pynciau mwyaf pwysig i ni neud dyddiau yma yn yr oes lle mae yna newyddion ffug o'n cwmpas mae'n bwysicach nag erioed cael pobl sydd yn gallu edrych ar y gorffennol ag astudio fo yn ddoeth ag yn gall.
O ran y meysydd allwch chi astudio mewn Hanes, Archeoleg a Threftadaeth ym maen nhw yn eang iawn os da chi yn hoffi cyn hanes yn sicr allwch chi wneud hynny neu os ydych chi eisiau edrych ar y 1990au a hyd yn oed i mewn i'r unfed ganrif ar hugain da ni'n gwneud hynny. Mae gennym ni focus mawr ar deubonedd mae gennym ni focus mawr a chenedlaetholdeb, hanes gwleidyddol hanes y cestyll achos wrth gwrs da ni mewn tir lyn hanesyddol gwych yma ym Mangor.
Da ni yn gorgyffro efo dau safle UNESCO y byd treftadaeth ac mae hyn yn golygu fod ni yn gallu mynd a chi allan i ddysgu chi ar y safleoedd yma.
Yn fwyaf diweddar y diwydiant llechi mae gan UNESCO safle treftadaeth y byd lawr y ffordd o Fangor yn gorchuddio rhannau o Ogledd Cymru fel Bethesda, felly mae ein lleoliad ni yn dda.
Mae yna amrediad eang o gyrsiau allwch chi neud ac mi allwch chi edrych ar hanes yr oesoedd canol neud canolbwyntio mwy ar hanes y Tuduriaid neu yn wir y cyfnod modern. Da ni yn hoffi plethu
Archeoleg a Threftadaeth i mewn efo'ch astudiaethau hanesyddol chi.
Cwestiynau Cyffredin
Yn gyntaf, bydd pob wythnos yn rhoi amrywiaeth o ddosbarthiadau a phrofiadau i chi. Bydd darlithoedd gyda haneswyr ac archeolegwyr a byddwch yn cymryd rhan mewn seminarau. Mae’r seminarau bob amser yn canolbwyntio ar drafod pwnc diddorol mewn grwpiau bach. Bydd gweithdai hefyd: dosbarthiadau ymarferol yw’r rheini i'ch arfogi â sgiliau, fel peilota drônau. Mae eich wythnos hefyd yn debygol o gynnwys teithiau maes ac ymweliadau ag amgueddfeydd, ac archwilio tirweddau hanesyddol ysblennydd gogledd Cymru. Yn y cyfamser, byddwch yn darllen o dan arweiniad ac yn gwneud gwaith paratoi, a bydd digon o gyfleoedd am gyfarfodydd un-i-un gyda darlithwyr.
Fel rheol ym mlwyddyn gyntaf gradd israddedig gyda ni bydd gennych ddosbarthiadau ar yr amserlen am oddeutu 10-14 awr yr wythnos. Bydd hynny’n amrywio ychydig gan ddibynnu pa fodiwlau a ddewiswch, ac ar gyfer yr opsiynau Archaeoleg a Threftadaeth yn neilltuol bydd yr oriau cyswllt yn uwch mewn rhai wythnosau os oes ymweliad â safle neu wibdaith. Yn ogystal, gallwch drefnu cyfarfodydd gyda'ch darlithwyr i roi cyngor pellach am eich modiwlau a'ch asesiadau, a bydd gennych Diwtor Personol hefyd i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau
Mae astudio pwnc rydych yn frwd drosto’n gwneud eich profiad yn y brifysgol yn fwy dymunol a llwyddiannus. Mae ein graddau Hanes yn annog meddwl beirniadol allweddol ac maent yn rhoi sgiliau ymchwil a chyfathrebu annibynnol i chi, gan esbonio pam mae cymaint o'n graddedigion yn gweithio yn y cyfryngau, y gwasanaeth sifil a busnes. Rydym yn ymfalchïo mewn dosbarthiadau bach gyda darlithwyr arbenigol, sy'n rhoi profiad gwych i fyfyrwyr, gan helpu meithrin eich hyder wrth i chi fynd i farchnad swyddi’r graddedigion. Mae’r byd yn ymagor i rywun sy’n meddu ar radd mewn Hanes!
Peidiwch â phoeni! Does dim disgwyl bod gennych brofiadau academaidd o astudio Archaeoleg a Threftadaeth oherwydd nid ydynt yn cael eu cynnig yn yr ysgolion yn gyffredinol. Felly, mae holl fodiwlau’r flwyddyn gyntaf yn anelu at eich cyflwyno i’r pethau sylfaenol, ymgyfarwyddo â thechnegau allweddol, ac, yn hollbwysig, mynd â chi allan i archwilio’r drysorfa o safleoedd archeolegol yng ngogledd Cymru. Ymhlith y rheini mae twmpathau claddu, bryngaerau yn ogystal â’r cestyll a’r chwareli llechi a ddynodwyd gan UNESCO. Byddwn hefyd yn rhoi hyfforddiant digidol hanfodol i chi yn y dyniaethau, fel defnyddio technoleg Rhithrealiti yn y diwydiant treftadaeth.
Yma ym Mangor rydym yn canolbwyntio ar eich gyrfa, ac mae gennych yr opsiwn o gymryd modiwl Lleoliad Gwaith penodol yn ail neu drydedd flwyddyn eich gradd. Bydd hwnnw wedi'i deilwra at eich diddordebau a gallai gynnwys lleoliad mewn archifdy neu amgueddfa, profiad gwaith gyda sefydliadau treftadaeth, megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, neu brojectau gyda busnesau. Mae disgwyliad i chi ddod o hyd i'ch lleoliad gwaith. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan yn gynlluniau interniaeth israddedig â thâl lle byddwch yn cydweithio â’r staff ar brojectau ymchwil, yn gwneud gwaith golygu neu hyd yn oed yn creu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol. Cewch hefyd weithio ar waith cloddio o dan arweiniad ein harcheolegwyr a'u partneriaid yn y diwydiant mewn ymddiriedolaethau archeolegol a sefydliadau treftadaeth cenedlaethol.
Eich darlithion
Dr Mari William
Mae Hanes yn gwbl berthnasol i ddeall y byd cythryblus 'da ni'n ei weld ar y newyddion ac yn ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr 21ain ganrif. Er enghraifft, mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) a 'newyddion ffug' yn achosi cryn benbleth moesol ar hyn o bryd, ac mae edrych yn ôl trwy Hanes ar enghreifftiau eraill o dechnoleg yn newid cymdeithas yn help i roi y cwbl mewn cyd-destun e.e. dyfeisio'r wasg argraffu yn y Cyfnod Modern Cynnar, dyfodiad y teledu yn ystod y 1950au ayyb.
'Dwi'n hoffi'r ffaith fod yna gymaint o ffyrdd gwahanol o edrych ar Hanes, a fod y rhain yn newid o hyd. Ers rhai blynyddoedd mae gen i ddiddordeb mawr mewn pynciau fel hanes bwyd, hanes anifeiliaid ac hyd yn oed hanes tatŵs. Pan o'n i'n gneud fy Safon Uwch faswn i byth wedi dychmygu astudio'r rhain, a 'dwi mor ddiolchgar o sut mae bod yn hanesydd yn fy ngalluogi i ddysgu pethau newydd o hyd! Mae Hanes, a meysydd cysylltiol fel Archaeoleg a Threftadaeth, yn llawn straeon sy'n ysbrydoli.
Fel plentyn bach 'dwi'n cofio gweld ar y teledu Wal Berlin yn dod i lawr yn 1989, ac mi o'n i isio gwbod pam fod yna wal yn y lle cyntaf, a pham fod pobl yn dathlu ei bod hi'n cael ei dymchwel. O hynny 'mlaen mi oedd hanes modern yn un o fy mhrif ddiddordebau i, a phan ges i gyfle rai blynyddoedd yn ôl i ddysgu seminarau ynglŷn â Wal Berlin mi o'n i wrth fy modd, yn enwedig gan i mi gael benthyg darn o'r Wal oedd ym meddiant un o fy nghydweithwyr i ddangos i fy myfyrwyr!
Mi faswn i'n wedi hoffi cael swper gyda'r dylunydd dillad Laura Ashley yn ystod y 1970au hwyr, pan oedd ei phrintiau blodeuog, chintzy yn anterth eu poblogrwydd ar ffrogiau a chyfategolion tŷ. 'Roedd Laura Ashley yn dod o gefndir Cymreig, a sefydlodd ffatri yn Ngharno yng nghanolbarth Cymru wrth i'w busnes dyfu. Mi faswn 'di mwynhau sgwrsio efo hi am y cyferbyniad rhwng rhedeg cwmni byd-enwog a hynny o ardal wledig, gweddol anghysbell, o Gymru. Byddwn hefyd wedi'i holi am sut brofiad oedd bod yn ddynes mewn byd busnes yn y 1970au. Bu Laura Ashley farw mewn damwain yn ei chartref yn 1985, ond mae'n ddifyr fod llawer o'i phatrymau bellach yn ffasiynol ar TikTok ac Instagram o dan yr hashnod #cottagecore.