Llongyfarchiadau ar eich cynnig o le ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i'n rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol! Rydym yn falch o'ch croesawu i'n cymuned. I'ch helpu i ddod yn gyfarwydd â ni cyn i chi ddechrau ym mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i fynd i'r afael â chwestiynau cyffredin a darparu gwybodaeth werthfawr.
Cadwch mewn cysylltiad â ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi cyn bo hir ac yn dymuno'r gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae ein cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei addysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd a sydd yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau.
Mae ein gradd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnig cwricwlwm cynhwysfawr sy'n ymdrin ag ystod eang o bynciau, o iechyd y cyhoedd i bolisi cymdeithasol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth ddofn o gymhlethdodau'r sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol, a lleoliadau yn y byd go iawn. Mae ein dull gweithredu rhyngddisgyblaethol yn sicrhau eich bod mewn sefyllfa dda i fynd i'r afael â heriau cyfoes ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Helo, Tom Graham ydw i a fi ydy'r Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Myfyrwyr i'r Ysgol Gwyddorau Iechyd yma ym Mhrifysgol Bangor. Faswn i'n licio ymestyn llongyfarchiadau mawr i chi gyd am gael cynnig i astudio gyda ni yma ym Mhrifysgol Bangor.
Mae gennym gyfleusterau hynod o dda yn y Brifysgol. Rydw i'n sefyll rŵan yn un o'n cyfleusterau clinigol ni, i helpu chi yn eich siwrnai i fod yn broffesiynol tuag at y diwedd.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda chi fel myfyrwyr. Mae gennym dîm academaidd yma sydd â llwyth o brofiad clinigol i helpu chi yn eich siwrnai fel myfyrwyr i fod yn broffesiynol.
Felly, llongyfarchiadau mawr eto i chi am gael cynnig i ddod i astudio gyda ni yn y Brifysgol. Rydym yn edrych ymlaen at weld chi ym mis Medi. Diolch yn fawr.