Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Ieithoedd Modern yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Ieithoedd Modern

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

 

Helo a Llongyfarchiadau mawr am gael cynnig i astudio yma ym Mhrifysgol Bangor. Fy enw i yw Jonathan Ervine.

Dwi'n darlithio mewn Ieithoedd Modern. Mae'n ardal hyfryd i astudio fel myfyriwr Ieithoedd Modern mae gennych gyfleon i ddysgu llawer am ieithoedd a ble mae pobl yn siarad yr ieithoedd da chi yn astudio. Rydym yn defnyddio lot o adnoddau modern iawn.

Mae gennych gyfleoedd i gwrdd â staff a myfyrwyr yn rheolaidd iawn, mewn ardal ag adran gyfeillgar. Rydym wir yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i Fangor yn fuan.

Cwestiynau Cyffredin

Pan fyddwch chi'n astudio ieithoedd, mae gennych chi wersi iaith sy'n canolbwyntion ar sgiliau fel siarad, ysgrifennu a chyfieithu. Hefyd, mae llawer o'n myfyrwyr yn astudio modiwlau diwylliannol am sinema, llenyddiaeth a hanes gwledydd lle mae pobl yn siarad yr ieithoedd perthnasol. Tu allan o'r dosbarth, mae yn gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffroes sy'n gysylltiedig ag ieithoedd ac yn rhoi cyfle i chi ddod i nabod myfyrwyr eraill.

Fel arfer, mae gan fyfyrwyr ieithoedd modern tua 9-12 awr o wersi bob wythnos. Mae yna ddarlithoedd a seminarau ag rydym yn gwneud y rhan fwyaf y dysgu mewn grwpiau bychain sy'n helpu i greu deialog rhwng myfyrwyr a staff ac yn rhoi cyfle i chi gofyn cwestiynau a chael adborth.

Ar fodiwlau Iaith, yn aml iawn mae yna arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd y semester a hefyd aseiniadau eraill yn ystod y semester (cyflwyniadau, profion gramadeg, aseiniadau gwaith cartref). Ar fodiwlau diwylliannol, fel arfer bydd yna draethodau, gyflwyniadau, ac aseiniadau eraill yn ystod y semester.

Mae rhan fwyaf cyrsiau ieithoedd modern yn parhau am 4 blynedd, sy’n gynnwys blwyddyn dramor ym mlwyddyn tri. Yn ystod y flwyddyn dramor, mae myfyrwyr yn astudio mewn prifysgolion tramor sydd efo cysylltiadau gyda ni, yn dysgu Saesneg mewn ysgolion tramor, neu yn gwneud profiad gwaith. Yn aml iawn, maen nhw’n cael profiadau bythgofiadwy sy’n edrych yn wych ar eu CV.

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Dr Sarah Pogoda

Dr Sarah Pogoda

Rydym yn gymuned yma ym Mangor, ac rydym yn byw hynny bob dydd. Mae myfyrwyr a staff yn adnabod ei gilydd yn dda, oherwydd ein bod ni - o gymharu â phrifysgolion eraill - yn adran gweddol fach. Rydym yn dysgu mewn grwpiau bach (sy’n arbennig o wir ar gyfer dosbarthiadau iaith) sy'n ein galluogi i wir adnabod pob myfyriwr, gwrando ar sut maen nhw’n hoffi dysgu ac addasu sut rydym ni’n dysgu i gyd-fynd â hynny. Mae gennym ni hefyd agwedd greadigol iawn at ddysgu ym Mangor, ac mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol (e.e. trefnu a chynnal arddangosfa). Y tu allan i’r ystafell ddosbarth, rydym yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol hwyliog a chynhwysol, sy’n ein galluogi i ddod i adnabod ein gilydd hyd yn oed yn well. 

Galluogi pobl i gysylltu â phobl ar draws y byd, gan gyfoethogi eu profiad a'u rhagolygon trwy ddysgu sut y gallan nhw lunio eu dyfodol eu hunain trwy siarad sawl iaith a gweld gwir amrywiaeth diwylliannau. Mae astudio iaith a diwylliannau modern rywsut yn golygu plymio i isddiwylliant. Rydych chi'n dysgu am bobl, hanes, y celfyddydau a hyd yn oed economeg nad oes ond ychydig o bobl yn gwybod amdanynt yn y Deyrnas Unedig. Gyda'r wybodaeth hon a'r holl sgiliau grymuso rydych chi'n eu hennill gyda gradd mewn Ieithoedd a Diwylliannau Modern, rydych chi'n arfogi'ch hun i ddilyn bywyd unigryw a hynod sydd prin yn hygyrch i bobl eraill. 

Mae fy mywyd yn amlieithog, bob dydd. Rwy’n defnyddio Almaeneg, Saesneg a Chymraeg drwy’r dydd mewn sefyllfaoedd amrywiol, yn y gwaith neu y tu allan i’r gwaith. Rwy'n ceisio siarad yr iaith y mae'n well gan y person rwy'n siarad â nhw ei defnyddio. Gan fy mod yn ymwybodol bod y ffordd yr wyf yn gweld y byd wedi ei ffurfio gan fy mynediad at wahanol ddiwylliannau a safbwyntiau byd-eang, rwy'n cadw meddwl agored wrth gwrdd â phobl ac yn dysgu am eu gwerthoedd a'u dewisiadau bywyd. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ganfod safbwyntiau a chyfleoedd newydd, dro ar ôl tro, gan fy ngwneud yn berson hapusach. 

Does dim angen i chi ddeall popeth bob amser. 

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.   

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal Bangor fel eich dewis Cadarn, â'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
 

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd