Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Llongyfarchiadau mawr ar gael cynnig lle yma ym Mangor. Alys Conran ydw i dwi'n darlithio yma ym Mangor, yn dysgu Ysgrifennu Creadigol ag hefyd ambell i fodiwl Llenyddiaeth Saesneg.
Da ni'n edrych ymlaen yn fawr at gael dysgu'r modiwlau craidd yna yn y flwyddyn gyntaf, a hefyd y modiwlau ymlaen trwy'r radd lle mae myfyrwyr yn datblygu diddordeb yn y pwnc.
Da ni'n edrych hefyd at gael rhoi croeso cynnes i chi yma ym Mangor yn fuan.
Cwestiynau Cyffredin
Yn ystod eich blwyddyn cyntaf byddwch yn mynychu a darlithoedd sy'n cynnig cyflwyniadau ysgogol i'r nofelau, y cerddi, y straeon byrion, y dramâu a’r ffilmiau a astudir ar eich . Mewn seminarau llenyddiaeth, byddwch yn mwynhau trafodaethau o dan arweiniad a gweithgareddau pwrpasol i wella eich dealltwriaeth o'r testunau a'r cyd-destunau perthnasol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn neilltuo amser i ddarllen bob dydd - mae llyfrgell wych Shankland neu un o siopau coffi hyfryd Bangor yn gefndir perffaith.
Yn y flwyddyn gyntaf, fel arfer bydd gennych 9-12 awr gyswllt yn wythnosol. Mae pob modiwl llenyddiaeth Saesneg yn cynnwys darlithoedd a seminar yn wythnosol. Caiff y modiwlau Ysgrifennu Creadigol eu dysgu mewn gweithdai. Yn ogystal, bydd pob tiwtor a darlithydd yn cynnal awr swyddfa wythnosol, sy'n rhoi cyfle arall am adborth a chyswllt. Mae rhai modiwlau hefyd yn cynnwys grwpiau astudio rheolaidd ar yr amserlen, lle cewch drafod testunau'n anffurfiol gyda chyd-fyfyrwyr. Er bod pwyslais mawr ar ddarllen ac astudio annibynnol, caiff y seminarau a’r darlithoedd eu cynllunio i arwain eich astudiaethau a'ch paratoi at asesiadau.
Mae asesiadau amrywiol ar ein modiwlau, ond caiff pob un ei gynllunio i helpu datblygu eich sgiliau, rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, a’ch galluogi i ymgysylltu â deunyddiau’r cwrs mewn ffyrdd sy’n ysgogol yn ddeallusol. Er y gallwch ddisgwyl ymchwilio ac ysgrifennu traethodau a rhoi cyflwyniadau, cewch gyfleoedd hefyd i arddangos eich syniadau a'ch ymchwil mewn ffyrdd amgen, er enghraifft, trwy gynhyrchu ymatebion creadigol i'r testunau a astudiwn. Weithiau, cewch ddewis rhwng aseiniad yn null traethawd traddodiadol ac asesiad amgen. Mae nifer fach o fodiwlau’n cynnwys arholiadau neu brofion dosbarth.
Er bod hyd a lled y darllen yn dibynnu ar eich dosbarthiadau, mae modiwlau Llenyddiaeth Saesneg fel arfer yn ymdrin â thestunau hirach (megis y nofel, drama, neu stori fer), ffilm, neu ddetholiad o gerddi bob wythnos. Weithiau, gofynnir i chi ddarllen traethawd beirniadol neu ddarn damcaniaethol i baratoi at seminarau. Rydym yn dylunio’r modiwlau’n ofalus i'ch helpu chi reoli'r llwyth darllen, trwy amrywio testunau hirach a byrrach bob yn ail, ond mae cynllunio’n allweddol! Rydym bob amser yn annog myfyrwyr i gynllunio eu darllen ymhell ymlaen llaw ac rydym yn cynnig arweiniad ynglŷn â mynd i’r afael â llwyth darllen modiwlau penodol.
Bydd, cewch eich annog i rannu eich gwaith gyda'ch tiwtor a'ch cyfoedion yn y gweithdy. Mae'n bwysig dweud nad oes neb byth yn cael ei orfodi i wneud hynny! Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mwynhau’r gweithdai, ac yn eu cael yn fuddiol iawn o ran symud trwy'r broses olygu. Mae’r gweithdai’n gyfeillgar, yn gefnogol, yn ddiogel, ac yn bwysicaf oll, maent yn eich gwthio i ysgrifennu hyd orau eich gallu. Dros amser, mae’r myfyrwyr yn gweld eu hyder yn cynyddu ynddynt ac mae llawer yn mynd ymlaen i fwynhau rhannu’r gwaith sydd ganddynt ar y gweill yn noson meic agored, Versify.
Y Llechan yw rhaglen yr awduron gwadd sy'n rhedeg yn y ddau semester. Mae Y Llechan yn gyfle i glywed awduron adnabyddus a newydd yn darllen eu gwaith ac i sgwrsio â nhw mewn Sesiynau Holi ac Ateb.
Versify yw enw ein noson meic agored fisol mewn bar lleol. Mae’r staff a’r myfyrwyr yn mynd i’r noson, ac mae'n boblogaidd ac yn cynnig cyfle i chi rannu eich gwaith neu eistedd yn ôl a mwynhau'r gair llafar.
Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr
Dr Karin Koehler
Peidio â phoeni am berffeithrwydd! Mae drafft cyntaf ofnadwy’n well na thudalen wag - ac mae traethawd gorffenedig (neu erthygl, neu lyfr) yn well nag un perffaith sydd ond yn bodoli yn fy mreuddwydion. Dwi’n meddwl bod hwn hefyd yn gyngor pwysig iawn i fyfyrwyr.
Rwy'n cael archwilio rhai o'r llenyddiaeth fwyaf cyffrous, heriol, pryfoclyd a hardd a ysgrifennwyd, o’r gorffennol a'r presennol, gyda myfyrwyr sydd bob amser yn fy syfrdanu ac yn fy synnu gyda'u syniadau a'u safbwyntiau.
Mae gweithio mewn amgylchedd dwyieithog wedi bod yn wych, mewn ffyrdd na allwn i byth fod wedi eu disgwyl cyn dechrau yn y swydd a dechrau dysgu Cymraeg. Mae addysgu yma wedi rhoi safbwynt hollol newydd i mi ar y testunau a’r awduron yr wyf yn eu haddysgu ac yn ymchwilio iddynt!
Creadigol, heriol, beirniadol

Dr Tristan Burke
Mae llawer o bobl yn meddwl mai addysgu yw'r unig yrfa y gallwch ei chael gyda gradd Llenyddiaeth Saesneg. Mewn gwirionedd, mae graddedigion Llenyddiaeth Saesneg yn gyflogadwy iawn. Mae galw mawr am y sgiliau cyfathrebu a chydweithio y mae Llenyddiaeth Saesneg yn eu dysgu gan gyflogwyr ym mhob math o sectorau!
Rwyf wrth fy modd â'r ymdeimlad o gymuned ym Mhrifysgol Bangor. Fel prifysgol lai rydym yn dod i adnabod ein myfyrwyr ac yn gweithio'n agos gyda nhw yr holl ffordd drwy eu graddau. Mae'n ysbrydoledig ac yn werth chweil gweld myfyrwyr yn datblygu fel meddylwyr ac ysgrifenwyr dros y cyfnod hwnnw.
Dewch i adnabod yr ardal y tu hwnt i'r brifysgol. Mae gogledd orllewin Cymru yn lle unigryw a chyfeillgar ac mae cymaint i’w ddarganfod yma: cymunedau rhyfeddol, sîn gelfyddydol ffyniannus, tirweddau hardd a lleoedd hanesyddol.
Y bardd a'r arlunydd gwych William Blake. Mae’n un o’r artistiaid mwyaf gwreiddiol, dychmygus a chyffrous i fyw erioed ac mae wedi dylanwadu ar sut rydw i’n profi ac yn deall mewn ffyrdd di-ri! Hoffwn i ddweud wrtho pa mor bwysig ydi o i mi.