Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar dderbyn eich cynnig i astudio gyda ni! Cynlluniwyd y dudalen hon i'ch helpu i archwilio'r hyn sydd gan Fangor i'w gynnig - o'n cyfleusterau o'r radd flaenaf i gyfleoedd ar gyfer profiad ymarferol. Wrth i chi ystyried eich opsiynau, edrychwch yn agosach ar yr hyn sy'n gwneud astudio yma yn ddewis unigryw a gwerth chweil.
Oeddech chi'n gwybod?
Ym Mlwyddyn 2 a Blwyddyn 5 byddwch yn cymryd Rhannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC). Mae SSCs yn rhoi'r cyfle i chi ddewis meysydd yr ydych yn eu hastudio a chaffael gwybodaeth trwy eich ymdrech eich hun. Yn y gorffennol mae myfyrwyr wedi ymgymryd â phrosiectau yn ymwneud â Meddygaeth Mynydd, atal heintiau a mwy.
Ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith byddwch yn gallu astudio rhai modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg a defnyddio eich iaith ar leoliadau.
Byddwch yn dysgu trwy Ddysgu Seiliedig ar Achosion (CBL) sy’n eich helpu i wneud synnwyr o’ch gwybodaeth a’ch sgiliau newydd. Gan weithio mewn grwpiau bach ar astudiaeth achos neu senario, byddwch yn datblygu atebion dan arweiniad eich hwylusydd. Gyda phob achos byddwch yn edrych ar yr anatomeg, ffisioleg ac agweddau cymdeithasol, datblygu sgiliau ymarferol a chael profiad clinigol perthnasol trwy leoliadau byr. Bydd y broses hon yn caniatáu ichi ddeall sut mae pob un yn berthnasol i'r llall, gan roi persbectif cyffredinol i chi.
Neges gan Dr Nia Jones, Arweinydd Rhaglen Meddygaeth
Helo, fi ydy Doctor Nia Jones, arweinydd y rhaglen feddygol yma yn yr Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor.
Llongyfarchiadau mawr iddo chi ar dderbyn eich cais i ddod yma i astudio hefo ni yn mis Medi.
Dwi, a'r tîm eang i gyd, yn edrych ymlaen i groesawu chi yma. Dwi'n gwybod bod o'n gallu bod yn adeg reit nyrfys iddo chi i gyd yn gadael cartre’.
Ond 'dan ni yma yn barod i groesawu chi, i gefnogi chi, ac i gychwyn y cyfnod yma yn eich bywydau sydd yn, yn adeg gyffrous iawn.
Llongyfarchiadau mawr iddo i chi.
@medical.bangor.meddygol Watch our future doctors in action 🤩🩺 One way we build students' confidence for their time on placement is by simulating real medical scenarios in our simulation facilities. They'll follow the exact same procedures as real medical professionals so they can understand the processes and procedures and get used to working together as a team 🙌🏻 #medicalstudent #medtok #medicinestudent #medicalstudent ♬ original sound - Medical @ Bangor Uni