Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio Plismona yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Plismona
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd ac cyn swyddogion heddlu sy'n angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Mae rhai o’n staff wedi gweithio i Heddlu Gogledd Cymru yn dod a’i phrofiadau personol i’r dosbarth. Yn ogystal â Heddlu Gogledd Cymru mae gennym berthynas da gyda llawer iawn o asiantaethau troseddol ar draws y DU ac yn aml gyda siaradwyr gwasg ac yn trefnu tripiau i’n myfyrwyr i ymweld gyda nhw.
Gwylio ein fideo
Llongyfarchiadau am gael eich cynnig i ddod i astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf rydym yn rhoi addysg i chi i sut i sut i fod yn blismon.
Ac ynglŷn â gyrfa am fod yn blismon rydym hefyd yn cael pobol i mewn fel Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau eraill i drafod y pwnc gyda chi, dwi'n edrych ymlaen at weld chi yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Cwestiynau Cyffredin
Mae'r radd Plismona Proffesiynol yn cael ei chyflwyno ym Mhrifysgol Bangor mewn ystafell ddosbarth a chyda ymweliadau oddi ar y safle a siaradwyr gwadd.
Ym mlwyddyn 1 y radd Plismona Proffesiynol bydd tua 12 awr o addysgu wyneb yn wyneb ynghyd â thiwtorialau ac ati.
Nid yw cwblhau’r radd Plismona Proffesiynol yn golygu y gallwch ymuno â’r gwasanaeth Heddlu gan y bydd yn dal rhaid i chi gwblhau’r broses ymgeisio. Byddwch yn cael eich cefnogi gyda’ch cais yn ystod y cwrs.
Gallwch ceisio ymuno ag unrhyw Heddlu yng Nghymru neu Loegr ar ôl i chi raddio.
Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Alun Oldfield
Treuliais 31 mlynedd yn gweithio gyda’r Heddlu, ac fel rhan o welliant parhaus o fewn fy maes arbenigedd, astudiais Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig. Cefais fy addysgu gan gydweithwyr rhagorol, a dwi’n awyddus i drosglwyddo fy mhrofiadau i fyfyrwyr newydd.
Dylanwadu ar safbwyntiau beirniadol myfyrwyr ar ymgysylltu â'r cyhoedd, a'u dull gweithredu Plismona.
Yr amgylchedd, proffesiynoldeb ac egni fy nghydweithwyr, a rhannu fy mhrofiad a gwybodaeth i helpu myfyrwyr i ddatblygu a chyflawni.
Dwi wedi gweithio ar, ac wedi arwain, nifer o ymchwiliadau i lofruddiaethau yn ystod fy amser ym maes Plismona, a dwi wedi bod yn ddigon ffodus i allu astudio a datblygu dull addysgu trwy brofiad ar gyfer myfyrwyr. Dwi wedi datblygu Diwrnod Ymchwiliad Llofruddiaeth lle gwahoddir myfyrwyr i'r brifysgol i weithio ar ymchwiliad llofruddiaeth a gwrando ar bersonél allweddol o’r Heddlu sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.
Dwi’n dal i weithio o fewn Ymchwiliadau'r Heddlu a dwi’n gallu gwella fy null addysgu’n barhaus a chael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau Deddfwriaethol a Gweithredol.