Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Troseddeg, Chyfiawnder Troseddol
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Mae rhai o’n staff wedi gweithio i Heddlu Gogledd Cymru yn dod a’i phrofiadau personol i’r dosbarth. Yn ogystal â Heddlu Gogledd Cymru mae gennym berthynas da gyda llawer iawn o asiantaethau troseddol ar draws y DU ac yn aml gyda siaradwyr gwasg ac yn trefnu tripiau i’n myfyrwyr i ymweld gyda nhw.
Gwyliwch ein fideo
Helo, fy enw i ydi Lisa Suzanne Sparkes a dwi'n darlithio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Bangor.
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i ddod i astudio yn y brifysgol. Da ni'n edrych ymalen i'ch cyfarfod chi ar y cwrs Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.
Yn y flwyddyn gyntaf fyddwn yn siarad am pam mae pobl yn troseddu yn y wlad a hefyd edrych ar wledydd eraill dros y byd. Yn yr ail a trydedd flwyddyn mi fyddwn yn edrych gyntaf fyddwn yn siarad am mwy tuag at bethau fel y gosb marwolaeth a hefyd un o'r pethau mwyaf cyffrous i gael trafod yw llofruddwyr cyfresol,
Ted Bundy a Aileen Wuornos a fyddwn ni yn trafod mwy am hyn yn yr ail a trydedd flwyddyn. Edrych ymlaen at eich cyfarfod chi, hwyl am y tro.
Cwestiynau Cyffredin
Yn ogystal â darlithoedd ac amser dysgu personol gallwch ddatblygu eich sgiliau ymhellach trwy sesiynau sgiliau astudio a gweithgareddau allgyrsiol.
Efallai hoffwch ymuno â chlybiau a chymdeithasau amrywiol ar gael trwy undeb y myfyrwyr, mae prynhawniau dydd Mercher wedi ei chadw'n benodol i chi gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau clwb. Trwy gydol y flwyddyn rydym yn trefnu digwyddiadau yn yr ysgol megis nosweithiau cwis sy'n rhoi'r cyfle i chi gwrdd â chymysgu â myfyrwyr eraill a'r gymuned academaidd ehangach.
Yn gyffredinol, bydd gennych 9 i 12 awr o amser cyswllt yr wythnos, all hyn gynnwys darlithoedd, seminarau neu weithdai. Yn ogystal, fe'ch anogir i ennill profiad ychwanegol trwy gyfleoedd fel ymweliadau carchar, diwrnodau hyfforddi gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant, a digwyddiadau eraill sy'n gysylltiedig â'r ddisgyblaeth. Byddai disgwyl i chi hefyd wneud hunan-astudio.
Oes, allwch ddewis modiwl profiad gwaith neu ddewis gwneud blwyddyn o brofiad gwaith rhwng blwyddyn 2 a 3.
Mae yna lawer o yrfaoedd y gallwch eu dilyn gyda gradd mewn troseddeg. Mae astudio troseddeg a chyfiawnder troseddol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddeall troseddwyr a’u hymddygiad troseddol, a gall hyn arwain at yrfaoedd gwerth chweil a all wneud newid cadarnhaol mewn cymdeithas. Er enghraifft, gallech fynd ymlaen i weithio yn un o'r asiantaethau cyfiawnder troseddol fel yr heddlu, carchardai a gwasanaethau prawf. Mae graddedigion hefyd yn dilyn gyrfaoedd sy'n gweithio i fynd ar afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau lleol, megis troseddau ieuenctid a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr, gyda rolau mewn awdurdodau lleol fel y gwasanaethau brys, awdurdodau iechyd a sefydliadau cymdeithasau tai.
Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Dr Lorraine Barron
Mae Cyfraith Trosedd a Throseddeg yn bynciau diddorol iawn. Rwyf wrth fy modd yn archwilio'r damcaniaethau ynghylch pam mae pobl yn cyflawni trosedd (Troseddeg) ac yna'n archwilio beth sy'n digwydd iddynt pan fyddant yn cael eu dal (Cyfraith Trosedd a Chyfiawnder Troseddol)!
Rwyf wrth fy modd pan fydd gan fyfyrwyr ddiddordeb yn y pwnc! Rwyf yn mwynhau darllen traethodau fy myfyrwyr ar y 'drosedd' maent wedi’i dewis, a'r ddamcaniaeth y byddent yn ei defnyddio i egluro eu hymddygiad.
Daeth y defnydd llwyddiannus cyntaf o’r amddiffyniad gwallgofrwydd ar ôl ymgais i lofruddio Prif Weinidog Prydain, Robert Peel, ym 1843. Credai’r llofrudd, Daniel M’Naghten, ei fod yn cael ei erlid gan asiantau’r llywodraeth a cheisiodd ladd y Prif Weinidog Peel, ond saethodd yn ddamweiniol a lladd ysgrifennydd Peel, Edward Drummond. Yn ystod yr achos, dadleuodd amddiffyniad M’Naghten ei fod yn dioddef o ledrith oherwydd salwch meddwl, ac fe’i cafwyd yn ddieuog oherwydd gwallgofrwydd. Arweiniodd yr achos hwn at greu Rheol M’Naghten, safon gyfreithiol ar gyfer gwallgofrwydd sy’n gofyn a allai’r diffynnydd wahaniaethu rhwng da a drwg ar adeg y drosedd. Sbardunodd yr achos ddicter cyhoeddus enfawr, gyda’r Frenhines Victoria ei hun yn mynnu deddfau llymach. Ac eto, daeth Rheol M’Naghten yn gonglfaen i’r amddiffyniad gwallgofrwydd mewn cyfraith droseddol, gan ddylanwadu ar systemau ledled y byd, a chyfeirir ati o hyd mewn ystafelloedd llys heddiw.
Canolbwyntiwch ar yr hyn sy'n wirioneddol gyffrous i chi neu'n eich cynhyrfu, a pheidiwch â bod ofn manteisio ar gyfleoedd annisgwyl ar hyd y ffordd.

Lisa Sparkes
Dwi wedi bod â diddordeb mewn trosedd erioed, a dechreuodd y cyfan oherwydd mai heddwas oedd fy nhad cyn iddo ymddeol. Penderfynais pan oeddwn yn 34 fy mod eisiau dysgu mwy am y pwnc, a dyna sut y dechreuodd y cyfan, wel, yn academaidd.
Mae cymaint o wahanol feysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt, boed hynny’r System Cyfiawnder Troseddol ei hun, yr asiantaethau amrywiol, y gwahanol fathau o droseddau a throseddwyr, y damcaniaethau y tu ôl i pam mae rhywun yn dod yn droseddwr. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd…
Y rhan orau i mi, yw graddio! Dwi bob amser yn mynd mor emosiynol yn gwylio ein myfyrwyr yn graddio, dwi’n llawn balchder ohonynt. Byddwn hefyd yn dweud bod y System Cyfiawnder Troseddol bob amser yn esblygu ac mae cymaint o achosion y gallwn eu cysylltu â’n dysgu.
Cyn dod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, roeddwn yn fyfyriwr yma. Y cyngor gorau i mi ei dderbyn oedd bod y staff yma i helpu, eu bod eisiau ichi lwyddo, ac mae ganddynt bolisi drws agored. Ymunwch â chlybiau a chymdeithasau hefyd.