Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2013.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Mae'n fan lle gall pawb, o bob cefndir gael mynediad at ofal. Roedd gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yn teimlo fel y ffordd fwyaf priodol o helpu pobl..
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Rwy'n gweithio gydag oedolion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl amrywiol. Rwy’n eu cefnogi i ddeall yr anawsterau hynny ac adeiladu ffyrdd o newid effaith y rheini arnynt.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Mae gweithio fel tîm gyda rhywun a gweld eu hyder yn tyfu, yn fraint anhygoel.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Byddwn i'n dweud, marathon yw hi. Mae yna bobl anhygoel a gofalgar, sy'n gweithio yma er bod y llywodraeth yn ymosod yn barhaus ar y Gwasanaeth Iechyd, i’w breifateiddio, a’i danariannu. Mae yma yrfaoedd gwerth chweil.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?