Y Tîm
I gefnogi’r gwaith hanfodol hwn mae’r ysgol wedi sefydlu pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth ac Athena Swan (a elwir hefyd yn Dîm Hunanasesu) sy’n cynnwys amrywiaeth o staff a myfyrwyr ar draws holl feysydd yr Ysgol.
Prif amcanion y grŵp yw:
• Asesu cydraddoldeb rhyw yn yr Ysgol ac adnabod heriau a chyfleoedd;
• Datblygu a rhoi ar waith gynllun gweithredu i ymgorffori Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yng ngweithrediad beunyddiol yr Ysgol;
• Helpu i ddatblygu a chynnal strwythur a diwylliant sefydliadol cadarnhaol gyda Chydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn amgylcheddau gwaith a dysgu.
Dr Eleri Sian Jones yw'r Arweinydd ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth ac arweinydd Athena Swan yn yr Ysgol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech fod yn rhan o'r gwaith hwn, mae croeso i chi gysylltu â hi.
Cysylltiadau Defnyddiol
Dyma rai cysylltiadau defnyddiol yn ymwneud â gweithgareddau a mentrau sy’n gweithio ar wella cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn chwaraeon:
- Rhwydwaith academaidd Merched mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff
- Women's Sport Trust
- Get active (WheelPower)
- Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid)
Dyma rai cysylltiadau defnyddiol yn ymwneud â gweithgareddau a mentrau sy’n gweithio ar wella cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn seicoleg:
- Amrywiaeth a Chynhwysiant (Cymdeithas Seicolegol Prydain)
- Adroddiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (Sefydliad Iechyd Meddwl)