Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2015.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Y Gwasanaeth Iechyd yw un o ddarparwyr gwasanaethau gofal iechyd gorau’r byd. Gwasanaeth sy’n cynnig gofal o'r eiliad y cewch eich geni hyd y diwrnod y byddwch farw. Mae'n rhan hanfodol o'n cymdeithas y mae pawb yn cofio ei ddefnyddio ar ryw adeg yn eu bywyd.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Ar hyn o bryd fi yw arweinydd y tîm bydwreigiaeth, rwy’n arwain tîm o fydwragedd sy’n darparu gofal i ferched beichiog sydd angen cefnogaeth ychwanegol yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. Rôl gymunedol yw hon yn bennaf yn gweithio gyda chydweithwyr yn y sector gofal cychwynnol ond mae’n cynnwysi gwaith amlddisgyblaethol yn y sector eilaidd a’r trydydd sector.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Mae pob diwrnod yn wahanol! Bob dydd yn y gwaith rwy'n dysgu rhywbeth newydd. Mae pob ddiwrnod, pob genedigaeth a phob dynes yn wahanol. Mae'n anrhydedd bod yn rhan o daith unigolyn i fod yn rhiant.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Nid gyrfa miliwnydd mohoni ond byddwch chi'n elwa mewn ffyrdd eraill. Trwy ddefnyddio eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiadau, gallwch gael effaith sy'n newid bywydau unigolion a theuluoedd. Mae “diolch” diffuant gan rywun y buoch yn gofalu amdano’n werth mwy nag aur.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?