- Bod yn flaengar a chynaliadwy ac anelu at gyflawni pileri a themâu Strategaeth 2030 y Brifysgol a Fframwaith Byd-eang y Brifysgol.
- Paratoi a chefnogi ymarferwyr meddygol ac iechyd a gofal cymdeithasol i ymwneud â dysgu gydol oes ac ymarfer adfyfyriol a fydd yn meithrin safonau rhagorol o ran ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Gweithio mewn partneriaeth â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau, darparwyr ac asiantaethau meddygol a gofal iechyd yng Nghymru, ond hefyd yn drawsffiniol, gyda gweddill y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ar ymchwil, addysg, ysgolheictod a gwyddor gofal iechyd.
- Sicrhau rhagoriaeth mewn addysgu meddygol, iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n seiliedig ar ymchwil ac sydd wedi ei gydgynhyrchu gan staff, myfyrwyr, defnyddwyr gwasanaeth a chlinigwyr, gan arddel cyd-werthoedd cymdeithasol a gwella cyfleoedd ar gyfer cyflogadwyedd.
- Cefnogi a hyrwyddo ysgolheictod, gwyddoniaeth ac ymchwil sy'n rhagori'n rhyngwladol ac sydd wedi'u cymhwyso i bolisi ac arferion meddygol a gofal iechyd a chymdeithasol er mwyn gwerthuso, datblygu a, lle bo hynny'n bosibl, gwella ymarfer proffesiynol.
- Hyrwyddo egwyddorion caredigrwydd deallus ac arweinyddiaeth dosturiol, gan fabwysiadu'r dulliau addysgu a dysgu mwyaf addas sy'n cynnig dewis, hyblygrwydd a chyfleoedd dysgu rhyngbroffesiynol i fyfyrwyr. Meithrin parch at bob proffesiwn, gan ddatblygu deallusrwydd a chydnerthedd cymdeithasol ac emosiynol.
- Meithrin cymhwysedd iaith a diwylliannol ymhlith ymarferwyr meddygol ac iechyd a gofal cymdeithasol. Ymgorffori ymwybyddiaeth o iaith a diwylliant mewn ymchwil ac arfer meddygol ac iechyd a gofal cymdeithasol ac ymateb yn sensitif i anghenion ieithyddol siaradwyr Cymraeg.
- Arwain ymchwil o'r safon uchaf sy'n gwella bywydau a gwasanaethau gofal iechyd yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.