Dynodi Statws Athro ar Ymweliad i Academydd o Ysgol Hanes, y Gyfraith, a Gwyddorau Cymdeithas
Mae’r Athro Lucy Huskinson wedi derbyn swydd Athro ar Ymweliad yn y Pontificia Universidad Católica De Chile, y Brifysgol uchaf ei statws yn America Ladin.
Mae’r Athro Lucy Huskinson wedi derbyn swydd Athro ar Ymweliad yn y Pontificia Universidad Católica De Chile, y Brifysgol uchaf ei statws yn America Ladin. Mae’n ymuno ag Athrawon ar Ymweliad eraill yn yr Adran Athroniaeth, gan gynnwys academyddion o Yale, Paris, Jena a Thexas, yn ogystal â Jean-Luc Marion, ysgolhaig enwog a myfyriwr Jacques Derrida. Bydd monograff diweddaraf Lucy, Architecture and the Mimetic Self yn cael ei gyfiethu i Bortiwgëg gan gyhoeddwyr o Frasil y flwyddyn nesaf.
Ynghylch ei llwyddiant, dywedodd Lucy, “Mae’n wych gwybod bod fy syniadau wedi ysgogi diddordeb yn Ne America”. Y mis yma, cafodd monograff Lucy, Nietzsche and Jung, ei gyfieithu i Serbeg a bydd yn cael ei gyfieithu i Dwrceg y flwyddyn nesaf.
“Mae Lucy yn academydd rhagorol ac mae’r llwyddiannau rhyfeddol hyn yn adlewyrchu ei henw da rhyngwladol a’i phroffil byd-eang,” meddai’r Athro Peter Shapely, Pennaeth Ysgol Hanes, y Gyfraith, a Gwyddorau Cymdeithas.