Sêr yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas!
Nos Iau, yr 2il o Fai 2024, cynhaliwyd noson Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr yn Neuadd PJ y brifysgol, ac roedd 7 o aelodau’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas wedi cyrraedd rhestr fer sawl categori. Erbyn diwedd y noson, enillodd yr Ysgol 4 gwobr!
Yn rhan gyntaf y noson, cafwyd y cyfle i ddathlu cyfraniadau cynrychiolwyr cwrs y gwahanol ysgolion, a’u holl waith caled a diwyd, a gwych oedd gweld cynifer o fyfyrwyr yr Ysgol ymhlith y rhain.
Yn ail hanner y noson, daeth y gwobrau yn eu heidiau i’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas!
Enillodd Daniel Awuku-Asare, sy’n fyfyriwr y Gyfraith, Wobr Effaith Rhwydwaith am ei waith deinamig o fewn ac oddi allan I’r brifysgol.
Daeth Rachel Healand-Sloan, sy’n ymchwilydd PhD mewn Athroniaeth a Chrefydd, yn fuddugol ar gyfer Gwobr Dewis Staff ar gyfer Cynrychiolydd Cwrs, a hynny am ei gwaith caled yn ymgysylltu myfyrwyr a staff. Meddai Rachel, ‘Rydw i’n cyfri hyn yn anrhydedd enfawr a dwi’n ddiolchgar iawn i Josh [Andrews] am fy enwebu.’
Ac yn wir, daeth llwyddiant pellach i adran Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, wrth i Dr Joshua Andrews gipio nid yn unig Wobr Llais Myfyrwyr am ei waith egniol yn sicrhau chwarae teg i fyfyrwyr yr Ysgol gyfan, ond hefyd Wobr Athro’r Flwyddyn. Mae dulliau dysgu Joshua ymysg y gorau ac mae’n cyson ofalu am brofiadau addysgiadol effeithiol a deinamig. Dengys hyn gymaint o feddwl a gofal sydd gan ein staff o les a phrofiadau ein myfyrwyr, ac yn arbennig, gyfraniad enfawr Joshua yn hyn o beth.
Wrth ymateb i’r gwobrau ar ddiwedd y noson, roedd Joshua yn gegrwth, ond yn hynod ddiolchgar, a dywedodd, ‘Fedra i wir ddim credu hyn. Mae’n gymaint o anrhydedd, ac yn gydnabyddiaeth eithriadol gan y bobl rydw i’n poeni fwyaf amdanyn nhw yn y brifysgol. Dwi’n lwcus o fod yn gweithio gyda chymaint o fyfyrwyr arbennig.’
Heb os, roedd hi’n noson a hanner, a llwyddiant enfawr i’n Hysgol. Llongyfarchiadau!