Y Barnwr Dr Zhen Tang
Bydd rhai ohonom yn adnabod Dr Tang ers iddo fod yn Ysgolor Chevenaidd ym Mhrifysgol Bangor, gan astudio ein LLM arbenigol mewn Deddfwriaeth Eiddo Deallusol (a llwyddo â Rhagoriaeth). Rydym yn falch i gyhoeddi bod Dr Tang yn awyddus i barhau ei gysylltiad a’i ymchwil gyda ni, a bydd yn dod yn Gydymaith Ymchwil er Anrhydedd.
Bu Dr Tang yn Farnwr Llywyddol (Adran Eiddo Deallusol) ar Lys Canolog y Bobl yn Shanghai o 2010; ac ers Ionawr 2018, mae wedi bod yn Ddirprwy Brif Farnwr (Adran Eiddo Deallusol) ar Uchel Lys Pobl yn Shanghai.
Astudiodd Dr Tang y Gyfraith ym Mhrifysgol Shanghai, Prifysgol Gwyddoniaeth Wleidyddol a’r Gyfraith Dwyrain Tsieina, ac enillodd ei PhD gan Brifysgol Zheijang. Ers 2016, mae wedi bod yn Diwtor y Gyfraith Rhan-amser ym Mhrifysgol Jiatong, Prifysgol Tongji, a Phrifysgol Gwyddoniaeth Wleidyddol a’r Gyfraith Dwyrain Tsieina. Mae hefyd yn oruchwyliwr yng Nghanolfan Hyfforddi Barnwyr Shanghai.
Mae Dr Tang yn gyfrifol am bob math o achosion cyfraith eiddo deallusol, gan gynnwys patentau, hawlfraint, nodau masnachu, ac anghydfodau cystadleuaeth annheg. Mae wrthi’n ymchwilio amddiffyniad cyfrinachau masnach a monopolïau platfform rhwydweithiol yn Tsieina. Drwy ei ymchwil, mae’n gobeithio cryfhau ei gyfnewidia â’i wrthrannau Prydeinig, ynghyd â hyrwyddo cyfnewidiad diwylliant barnwrol Tsieineaidd a Phrydeinig. Gweler wrth y neges hon lun o Dr Tang ac un ohono gyda’r Arglwydd Farnwr Hacon, Barnwr Llywyddol Llys Menter Eiddo Deallusol yn Adeilad Rolls Llundain.
Gellir cysylltu â Dr Tang drwy ebostio t.zhen@bangor.ac.uk.