Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o greu cerddoriaeth ym Mangor, dan faton ein Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Joe Cooper. Felly, rydym yn gwahodd pawb sy'n dymuno cymryd rhan i gofrestru eu diddordeb fel mewn blynyddoedd blaenorol.  

Image of Bangor University Choirs and Orchestras

Corws Symffoni'r Brifysgol

Os rydych yn mwynhau canu, byddwch eisiau ymuno â Chorws Symffoni Prifysgol Bangor. Côr mawr SATB yw’r Corws, gydag aelodaeth sydd yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol, ynghyd â staff a’r cantorion gorau o’r gymuned leol.

Mae canu yn iachus a chynhyrfiol, ac mae’n ymarferion yn cynnig cyfle gwych i wneud cyfeillion newydd. Mae croeso i bob myfyriwr, aelod staff a graddedig diweddar, pa un a ydych wedi canu mewn côr o’r blaen neu beidio. Nid oes clyweliadau.

Cofrestrwch eich diddordeb 

Image of the University Symphony Chorus

Cerddorfa Symffoni'r Brifysgol

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor yw prif gerddorfa faint-lawn gogledd-orllewin Cymru, a’i haelodaeth yn dod o blith myfyrwyr a staff ar draws y Brifysgol, ynghyd ag offerynwyr gorau’r ardal. Mae’r Gerddorfa yn ymarfer bob nos Lun am 7.30 yn Neuadd PJ.

Cofrestrwch eich diddordeb

Côr Siambr y Brifysgol

Image of Bangor University's Chamber Choir

Mae Côr Siambr Prifysgol Bangor yn grŵp bach o hyd at 20 o gantorion sy’n perfformio cerddoriaeth o’r Dadeni hyd at y presennol lle rhoddir cyngherddau rheolaidd ym Mangor ac mewn lleoliadau eraill yng Ngogledd Cymru. Cynhelir ymarferion bob nos Iau am 7.30 yn Neuadd Mathias yn yr Adeilad Cerddoriaeth.

Gweler berfformiad y Côr o All That’s Past ac Yr Arglwydd yw fy Mugail yn ystod y Cyngerdd Gala yn 2019.

Cofrestrwch eich diddordeb 

Ensemblau arbenigol

Mae’r Adran Cerddoriaeth yn cynnal nifer o ensemblau arbenigol hefyd, gan gynnwys grŵp opera, ensemble cerddoriaeth gynnar, ac Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor. Os hoffech ddatgan diddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw o’r ensemblau hyn, cysylltwch â Bethan Brown.

Y Gymdeithas Gerdd

Cymdeithas o fyfyrwyr yw’r Gymdeithas Gerdd, sy’n cynnal gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys cerddorfa (ymarferion bob nos Wener am 7.30), côr (ymarferion bob nos Fawrth am 7.30), cyngherddau awr ginio a gyda’r nos, a llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol. Mae aelodaeth yn agored heb angen clyweliadau, ac mae gwahoddiad cynnes ichi ddod draw i’r ymarferion agored yn ystod yr Wythnos Groeso. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y wefan y Gymdeithas Gerdd.

Ensemblau eraill ar gyfer myfyrwyr

Mae cymdeithasau eraill sy’n ymgysylltiedig ag Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys y Band Cyngerdd, y Band Pres, y Band Jas, Cerddorfa Linynnol, cymdeithas theatr gerdd (SODA), côr iaith Gymraeg (Aelwyd JMJ), y Gymdeithas Acapella, y Gymdeithas Ffilm, Cymdeithas y Werin (Cadi Ha), cymdeithas ddrama a llenyddiaeth Gymraeg (Cymdeithas John Gwilym Jones), dwy gymdeithas ddrama iaith Saesneg (BEDS a ROSTRA), y Gymdeithas Syrcas (Cirque du Soc), a chymdeithas ddawns (BU Dance) – ynghyd â llawer mwy! Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr, neu ymwelwch â stondinau’r cymdeithasau yn Serendipity.

Nodir: Dyfarnwyd Pwyntiau Profiad Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am gyfranogiad i’r ensembles hyn i gyd.

Cyfleoedd performio i’r cymuned lleol

Mae croeso i gantorion ymuno â Chorws Symffoni’r Brifysgol am ffi isel. Gweler uchod am fwy o wybodaeth a dolen i’r ffurflen gais.

Mae Cerddorfa Gymuned Prifysgol Bangor yn cyfarfod wyth gwaith y flwyddyn ar gyfer diwrnod llawn o ymarfer cerddorfaol. Mae croeso i offerynwyr o bob safon ymuno â’r Gerddorfa. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Siop Arlein Prifysgol Bangor yma.

Mae croeso i’r offerynwyr lleol gorau gael clyweliad ar gyfer lle yng Ngherddorfa Symffoni’r Brifysgol (gweler uchod).