Mae’r wybodaeth hon ar gyfer rhai sydd tu allan i’r brifysgol ac sy’n chwilio am ddosbarthiadau nos rhan-amser (cymunedol)
Cewch wybodaeth ar y dudalen hon am sut i gofrestru ar ddosbarth iaith yn ogystal â manylion am amserlenni a rhagor o wybodaeth am ddeunyddiau a gwerslyfrau.
Mae'r Adran Ieithoedd Modern yn un o'r partneriaid gweithredol yn y gwaith o gyflwyno Ysgol Haf Prifysgol Bangor i fyfyrwyr blwyddyn 12. Diolch i’r rhaglen hon, mae bron i 50 o ddisgyblion o ysgolion a cholegau ledled Gogledd Cymru yn cael profiad o fywyd prifysgol bob blwyddyn.
Bob blwyddyn, mewn cydweithrediad â Llwybrau at Ieithoedd Cymru, rydym yn recriwtio tîm o israddedigion iaith i fod yn Fyfyrwyr sy’n Hyrwyddwyr Iaith. Mae rhai Myfyrwyr sy’n Hyrwyddwyr Iaith yn eu blwyddyn olaf ac wedi dychwelyd yn ddiweddar o'u blwyddyn dramor, mae eraill yn eu hail flwyddyn ac ar hyn o bryd yn paratoi i fynd dramor i weithio neu astudio. Mae pob un yn frwdfrydig dros ddysgu iaith, ac yn awyddus i rannu eu profiadau gyda disgyblion mewn ysgolion lleol. Mae staff Ieithoedd a Diwylliannau Modern yn chwarae rhan weithredol yn y sesiynau hyfforddi, ac mae deunyddiau a dolenni gwe defnyddiol ar gael ar wefan Llwybrau at Ieithoedd Cymru. Mae Myfyrwyr sy’n Hyrwyddwyr Iaith hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill a drefnir gan ysgolion neu Lwybrau at Ieithoedd Cymru (gweler isod). Os hoffech wybod mwy am y cynllun hwn, llenwch y Ffurflen archebu Hyrwyddwr Iaith ar gyfer eich ysgol.
Mae galw mawr am ymweliadau gan Fyfyrwyr sy’n Hyrwyddwyr Iaith, a phob blwyddyn mae Hyrwyddwyr Bangor yn ymweld â llawer o ysgolion yng ngogledd Cymru, gan gyrraedd nifer sylweddol o ddisgyblion. Gall ymweld ag ysgol gynnwys un neu fwy o’r canlynol:
- Sgwrs am yrfaoedd ac ieithoedd i dynnu sylw at fanteision astudio iaith, a chodi ymwybyddiaeth o lwybrau gyrfa posibl.
- Sesiynau blasu iaith.
- Sesiynau adolygu llafar
- Sgyrsiau am astudio ieithoedd yn y brifysgol, gan gynnwys y profiad o ddechrau dysgu iaith newydd.
- Sgyrsiau i rannu gwybodaeth am dreulio amser dramor, naill ai'n astudio neu ar brofiad gwaith.
- “Wnaethon ni wir fwynhau cael y myfyrwyr yma eleni diolch yn fawr! Roeddent wedi paratoi’n dda ac yn cyflwyno'n dda, ac ymatebodd y disgyblion yn dda iddynt. Gwnaethon nhw gyflwyno’r cynnwys mewn ffordd ddiddorol a bywiog ac roeddem yn falch iawn o sut aeth pob ymweliad.”
Os hoffech wybod mwy am y cynllun hwn, llenwch y Ffurflen archebu Hyrwyddwr Iaith ar gyfer eich ysgol.
Mae myfyrwyr tramor sy'n treulio rhan o'u cwrs ym Mangor yn cael cynnig y cyfle i gymryd modiwl wedi'i asesu sy'n eu galluogi i dreulio pedair awr yr wythnos yn gweithio fel Cynorthwywyr Ieithoedd Tramor. Mae'r rhan fwyaf o gynorthwywyr ieithoedd tramor yn gweithio mewn ysgolion lleol, ond mae rhai hefyd yn gweithio yn yr Adran Ieithoedd Modern ei hun, gan ganiatáu i israddedigion gael amser cyswllt ychwanegol â siaradwyr brodorol.
Mae cynorthwywyr ieithoedd tramor hefyd yn cael y cyfle i ymweld ag ysgolion i gynnig sesiynau adolygu llafar TGAU, Uwch Gyfrannol ac A2, ac i weithio gyda Myfyrwyr sy’n Hyrwyddwyr Iaith fel rhan o'r rhaglen ymweld ag ysgolion. Cyn dechrau ar eu gwaith mewn ysgolion mae Cynorthwywyr Ieithoedd Tramor yn cael eu hyfforddi, a darperir deunyddiau a chysylltiadau we defnyddiol. Os hoffech wybod mwy am y cynllun hwn, cysylltwch â Dr Jonathan Ervine.
Dilynwch ein Hyrwyddwyr Iaith o amgylch y byd wrth iddynt ddechrau ar eu trydedd flwyddyn dramor. Gyda'r dasg o ysgrifennu blogiau ar bynciau penodol o fanyleb yr arholiad TGAU, mae'r myfyrwyr yn rhannu uchafbwyntiau personol a blasau diwylliannol o bob rhan o Ewrop a thu hwnt.
Mae LingoMap yn olynu cynllun 'Mabwysiadu Dosbarth' Llwybrau at Ieithoedd sydd wedi ennill gwobrau. Cafodd ei ailgynllunio i wneud defnydd o dechnolegau newydd, a’n nod yw cyrraedd cynulleidfa ehangach mewn ystafelloedd ddosbarth ar hyd a lled Cymru. Mae LingoMaphefyd yn darparu llwyfan gweledol a rhyngweithiol i ddangos i ddisgyblion y cyfleoedd byd-eang sydd ar gael iddynt trwy astudio ieithoedd.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn a chynlluniau eraill, ewch i wefan Llwybrau at Ieithoedd
Bydd Myfyrwyr sy’n Hyrwyddwyr Iaith a Chynorthwywyr Ieithoedd Tramor yn cymryd rhan mewn sesiynau adolygu i ddisgyblion sy'n paratoi ar gyfer eu harholiadau llafar TGAU, UG a Safon Uwch iaith fodern. Mae myfyrwyr wedi helpu disgyblion, er enghraifft, gydag ynganu, adeiladu geirfa, sgiliau cyflwyno, trin cwestiynau’n effeithiol, ac maent hyd yn oed wedi cymryd swyddogaeth arholwr mewn ffug arholiadau.
- “Diolch am drefnu’r sesiwn gydag Anna – roedd o fudd mawr i’r disgyblion, yn enwedig gan ei bod wedi gwneud yr arholiad ei hun, ac yn gwybod yn union beth yw’r gofynion. Proffesiynol iawn!"
Os hoffech wybod mwy am y cynllun hwn, llenwch y Ffurflen archebu Hyrwyddwr Iaith ar gyfer eich ysgol.
Gallwn, mewn cydweithrediad â Llwybrau at Ieithoedd Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a Rhwydwaith Cymru Think German, gynnig Dosbarthiadau Meistr Ffilm a Llenyddiaeth i fyfyrwyr ac athrawon UG a Safon Uwch. Bob blwyddyn bydd athrawon a myfyrwyr Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg o ysgolion gogledd Cymru yn mynd i’r dosbarthiadau hyn. Maent yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr, a oedd wedi gwylio’r ffilm neu ddarllen y llyfr cyn dod i Fangor, i ehangu eu dealltwriaeth o’r eitem a astudiwyd ac ehangu eu geirfa. Trwy gydol y sesiynau hyn, mae myfyrwyr iaith Prifysgol Bangor ar gael i gynorthwyo gyda'r gweithdai a siarad am eu profiad o astudio ieithoedd ac ymweld â gwledydd eraill.
- 'Roedd y profiad yn wych a fyddwn yn mynd eto.'
- 'Gwelais wahanol agweddau ar y ffilm nad oeddwn wedi'u gweld o'r blaen, a dysgais eirfa na fyddwn fel rheol yn ei gwybod'.
I gael rhagor o wybodaeth am ein dosbarthiadau meistr, ewch i wefan Llwybrau at Ieithoedd.
Bu myfyrwyr PhD Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor yn paratoi cyfres o fideos 30 munud wedi eu hariannu gan CADARN, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Llwybrau at Ieithoedd Cymru a'r Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru.
Mae'r cyflwyniadau Panopto hyn yn dadansoddi testunau allweddol rhai o ffilmiau a llyfrau manylebau Safon Uwch newydd CBAC, megis prif themâu a chymeriadau, gyda'r nod o atgyfnerthu dealltwriaeth y disgyblion ac ysgogi trafodaeth ac ystyriaeth bellach. Yn ogystal, mae ffilmiau a llyfrau allweddol eraill a astudir gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor hefyd yn cael eu cyflwyno fel ffyrdd defnyddiol o ddatblygu meddwl dadansoddol.
- Ffrangeg Les amants d'Avignon, gan Elsa Triolet
- Ffrangeg Entre les murs, gan Laurent Cantet
- Almaeneg Der gute Mensch von Sezuan, gan Bertolt Brecht
- Almaeneg Barfuss, gan Til Schweiger
- Sbaeneg La casâ de Bernarda Alba, gan Federico García Lorca.
- Sbaeneg Maria llenna eres de gracia, gan Joshua Marston
- Eidaleg La madre, gan Natalia Ginzburg
- Eidaleg Habemus papam, gan Nanni Moretti
- Galiseg: A esmorga, gan Ignacio Vilar
- Galiseg: O lapis do carpinteiro, gan Manuel Rivas
Mae’r tîm Ieithoedd a Diwylliannau Modern ym Mhrifysgol Bangor yn bartner gweithgar yn rhaglen Llwybrau at Ieithoedd Cymru, ac mae Rubén Chapela, cydlynydd Llwybrau at Ieithoedd Cymru yng ngogledd Cymru wedi’i leoli yn yr ysgol. Mae'r rhaglen hon yn gweithio ochr yn ochr â strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â rhai o’r gweithgareddau a grybwyllwyd uchod, mae cydweithio â Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi rhoi cyfle i Fyfyrwyr Bangor sy’n Hyrwyddwyr Iaith gymryd rhan yn y gweithgareddau a’r digwyddiadau canlynol:
- Hyfforddiant Hyrwyddwyr Iaith i Ddisgyblion gan GwE:
Mae Disgyblion sy’n Hyrwyddwyr Iaith yn ddisgyblion ysgol ym mlwyddyn 8 a 9 sydd wedi’u recriwtio gan eu hathrawon (yn dilyn proses gwneud cais) a’u hyfforddi gan Lwybrau Cymru. Bob blwyddyn mae Prifysgol Bangor yn trefnu hyfforddiant ar gyfer y Disgyblion sy’n Hyrwyddwyr Iaith gyda GwE, sef y consortiwm o 6 awdurdod lleol yng ngogledd Cymru. Mae'r disgyblion hyn yn cymryd rhan allweddol yn eu hysgol trwy hyrwyddo gwerth dysgu ieithoedd tramor modern. Y prif nod yw cynyddu nifer y disgyblion ysgol sy'n astudio ieithoedd. Mae eu mewnbwn yn hynod werthfawr, a bydd eu negeseuon yn tanio brwdfrydedd disgyblion ysgol ac yn eu hannog i feddwl yn fwy cadarnhaol am ddysgu ieithoedd. Darperir gweithdai yn aml gan bartneriaid fel Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen, Goethe Institut, Institut Français neu Globe from Home, a noddir y digwyddiad gan Gyngor Prydeinig Cymru a’i gefnogi gan ein Myfyrwyr sy’n Hyrwyddwyr Iaith.
- Dyddiau Iaith Prifysgol Bangor: :
Yn aml mae gan y digwyddiadau mawr hyn gyfranogiad proffil uchel gan bartneriaid megis GwE, Cyngor Prydeinig Cymru, Gyrfa Cymru, Sefydliad Confucius Bangor, Goethe Institut, Institut Français, Centre of Sign-Sight-Sound, Airbus, CBAC, Sanako UK, Signature Leather, y Canolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru, Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern, beirdd lleol ac ysgolion eraill ym Mhrifysgol Bangor. Fel rheol, mae disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n mynd i’r digwyddiadau yn cael y cyfle i wrando ar sgyrsiau am ieithoedd yn y gweithle, clywed myfyrwyr ieithoedd yn siarad am eu blwyddyn dramor, rhoi cynnig ar wersi blasu mewn ieithoedd fel Tsieinëeg Mandarin neu Galiseg, ymarfer yr ieithoedd y maent eisoes yn eu dysgu, a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol gyda thema iaith (e.e. dawnsio, gemau iaith, ac ati).
- Cystadlaethau:
Mae’r Spelling Bee
Mae’r gystadleuaeth ‘Mother Tongue Other Tongue’ yn agored i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd, a chaiff ei chynnal bob blwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefanLlwybrau at Ieithoedd
Dilynwch ni ar Twitter: @routescymru; Facebook
Mae’r adnoddau iaith canlynol yn cynnwys deunyddiau a gyfrannwyd gan staff a/neu fyfyrwyr Ieithoedd a Diwylliannau Modern:
- Adnodd Archwilio Ieithoedd Modern ar gyfer Llywodraethwyr Ysgol: Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraethwyr Cymru i gefnogi cyrff llywodraethu i gwrdd â’r heriau a’r galwadau cynyddol y maent yn eu hwynebu wrth gyflwyno Ieithoedd Modern. Gallwch weld ein hadnoddau ar gyfer Llywodraethwyr Ysgol yma
- Taflenni Gyrfa a Chardiau Iaith: Mae’r adnoddau hyn wedi bod yn boblogaidd iawn a gallant fod yn ddefnyddiol mewn digwyddiadau yn yr ysgolion megis nosweithiau rhieni/athrawon. Gobeithir y bydd y ddau adnodd yn ddefnyddiol i adrannau ieithoedd modern gynyddu proffil ac amlygrwydd ieithoedd yn eich ysgol.
- Pecyn Cymorth Cynradd: I gefnogi’r gwaith o gyflwyno Ieithoedd Rhyngwladol yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru, mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wrthi’n datblygu Pecyn Cymorth Cynradd i gefnogi athrawon cynradd i gyflwyno ieithoedd.
- Adnoddau ffilm: Yn cynnwys rhestrau y gellir eu hargraffu / lawrlwytho o eirfa ffilm yn French / Ffrangeg, German / Almaeneg a Spanish / Sbaeneg.
- Henebion a chofebion yn yr Almaen: Cynlluniwyd y taflenni gwaith hyn i gyd-fynd â gweithdy ar henebion a chofebion yn yr Almaen. Mae’r daflen gyntaf yn darparu geirfa a dyfyniadau defnyddiol, y gellir eu trafod yn y dosbarth fel rhan o sesiwn ragarweiniol ar swyddogaeth henebion. Bwriedir i'r taflenni canlynol gael eu defnyddio ar gyfer gwaith grŵp, ac fel man cychwyn i annog myfyrwyr i archwilio digwyddiadau, personoliaethau a materion penodol yn hanes diweddar yr Almaen.
- Dysgu iaith, byw dramor! Ehangu eich gorwelion: Dyma set o glipiau a gynhyrchwyd gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru i hyrwyddo astudio ieithoedd. I gael mynediad iddynt a fideos cysylltiedig eraill, ewch i'n Sianel YouTube.
- Botwm y Byd: Project amlddisgyblaethol, gan gynnwys gwefan, sy’n darparu adnoddau ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer myfyrwyr ysgol uwchradd a phrifysgol sy’n astudio Ieithoedd Modern, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Cyfryngau.
Bwriad y Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern yw brwydro yn erbyn y 'dirywiad difrifol' yn y niferoedd o ddisgyblion ysgol sy’n astudio ieithoedd tramor modern yng Nghymru.
Dyma’r prif ymyriad mawr yng Nghymru ar hyn o bryd i gynyddu’r niferoedd sy’n dewis ieithoedd modern mewn ysgolion uwchradd ledled y wlad a chynyddu eu cyrhaeddiad. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i strategaeth Dyfodol Byd-eang sy’n anelu at gefnogi ieithoedd modern mewn ysgolion. O dan y cynllun, mae israddedigion ieithoedd tramor modern ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth yn cael eu recriwtio a'u hyfforddi fel mentoriaid myfyrwyr ac yn cael eu partneru â disgyblion mewn ysgolion lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn, ewch i'n gwefan, neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol! Twitter: @MFLMmentora; Instagram.