Cerddoriaeth a Hiwmor
Côr Siambr Prifysgol Bangor
Arweinydd: Guto Pryderi Puw
Cyfeilydd: Elina Shchohla
Bydd y cyngerdd hwn yn cynnwys rhaglen ddifyr gan ystod eang o gyfansoddwyr, wedi'i thynnu o'r Dadeni hyd heddiw, sy'n canolbwyntio ar y berthynas rhwng cerddoriaeth gorawl a hiwmor cynnil.
Bydd darnau am griciaid (des Prez), ambell i gyw iâr – neu yn hytrach gwŷr golygus (Passerau), a rhai darnau gwerinol bywiog gan Holst a Rutter. Mae yna hefyd rai caneuon di synwyr (Seiber), rhai darnau byrion am wahanol anifeiliaid egsotig (Whitacre), ac efallai y cawn frwydr gynnau (Morricone)! Os y dewch, fe addewaf i beidio â chynnwys jôcs rhwng y darnau! GP
Rhaglen i gynnwys:
Josquin des Prez: El Grillo
Pierre Passerau: Il est bel et bon
Thomas Morley: Now is the month of Maying; April is In My Mistress’ Face; My bonny lass she smileth
Arthut Sullivan: The Lost Chord
Gustav Holst: Swansea Town
Matyas Seiber: Three Nonsense Songs
Guto Pryderi Puw: Psst! (aerosol)
Eric Whitacre: Animal Crackers Vol. 1 & 2
John Rutter: Dashing away with the smoothing iron
Ennio Morricone: The Good, the Bad and the Ugly
Dim egwyl. Mynediad am ddim (casgliad ymadawol, arian parod neu gerdyn)
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddfa Gerdd:
Facebook / Instagram: @MDPBangor
Gwnaed yn bosibl drwy grant gan Gronfa Bangor, Prifysgol Bangor.