Hybu Lles yn yr Awyr Agored
Treuliodd grŵp o 15 o Hyrwyddwr Lles y Staff y prynhawn yn ddiweddar yng Ngardd Fotaneg Treborth yn dysgu sut i ddefnyddio’r amgylchedd naturiol i wella lles. Arweiniwyd y sesiwn hyfforddi gan Charlotte Keen, ac roedd yn cynnwys sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar ym myd natur ac ymarferion creadigol a ddefnyddiai’r pum synnwyr i fwynhau’r amgylchoedd hardd.
Dywedodd Phoebe Shanahan, Hyrwyddwr Lles yr Adnoddau Dynol, “Roedd yn hyfryd cael cwrdd yn y cnawd fel rhwydwaith a chysylltu â natur. Roedd Charlotte yn hynod addysgiadol, ac roedd yn atgof gwych o rym yr awyr agored i leddfu straen. Bu’r cyfarfod yn gyfle hefyd i’r Hyrwyddwyr rannu manylion y mannau glas sydd o amgylch y Brifysgol – fel y gampfa awyr agored y tu ôl i Adeilad Rathbone a’r Ardd Iachau ar Ffordd Ffriddoedd – mae’n wych chwilio’r mannau hygyrch yma lle gallwn orffwys neu ymarfer corff gyda chydweithwyr.”