Wythnos Ymwybyddiaeth Galar 4 Rhagfyr
Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Galar, rydym yn atgoffa’r staff fod y Brifysgol yn cynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n mynd trwy brofedigaeth.
Mae gan Raglen Cymorth i Weithwyr y Brifysgol VIVUP linell gymorth gyfrinachol a chwnsela i’r staff. Mae ganddynt hefyd lyfr gwaith ynglŷn â phrofedigaeth ac mae fersiwn sain ar gael.
Mae Tîm Caplaniaeth aml-ffydd y Brifysgol wrth law i wrando a chynnig cefnogaeth. Cewch hefyd ofyn am gyfres o sesiynau cyfrinachol gyda Hyfforddwr Lles y Staff.
Gweler polisi profedigaeth y Brifysgol yma. Os ydych yn cael anawsterau ar hyn o bryd oherwydd profedigaeth, naill ai yn y gwaith neu cyn dychwelyd i'r gwaith, byddem yn eich annog yn daer i drafod hynny’n agored gyda'r rheolwr fel y gallwch weithio gyda'ch gilydd i’w goresgyn.