Menter a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd yw'r rhaglen Erasmus+, ac mae'n anelu at wella ansawdd addysg uwch a chryfhau cysylltiadau yn Ewrop. Mae'n gwneud hyn drwy annog cydweithio rhyngwladol rhwng prifysgolion a chyfrannu at gynyddu tryloywder a chydnabyddiaeth academaidd o gymwysterau ac astudiaethau ledled yr Undeb Ewropeaidd.
Nid oes sicrwydd y bydd arian Erasmus+ ar gael i brifysgolion y Deyrnas Unedig ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'n bosib na fydd arian Erasmus+ yn dal i fod ar gael i fyfyrwyr ar leoliadau astudio neu weithio mewn gwledydd Ewropeaidd ar ôl i'r DU adael yr UE.
Os bydd yr arian yn dal i fod ar gael, mae'n bosib y gall myfyrwyr sy'n astudio neu weithio dramor mewn cyrchfan Ewropeaidd yn ystod eu gradd fod yn gymwys i dderbyn grant Erasmus+. Cysylltwch â'r Swyddfa Cyfnewidiadau Rhyngwladol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am arian Erasmus+ ac i drafod eich cymhwysedd i dderbyn grant.
Cliciwch yma i ddarllen ein Datganiad Polisi Erasmus+.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y raglen Erasmus+, edrychwch ar y cysylltiadau isod:
Ymwadiad: Cyd-ariannir Erasmus+ gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r cyhoeddiad hwn yn gyfrifoldeb Prifysgol Bangor yn unig ac nid yw'r Undeb Ewropeaidd yn atebol am unrhyw ddefnydd y gellir ei wneud o'r wybodaeth a geir ynddo.