Dylid gwneud ceisiadau am ddyrchafiad i ddarllenyddiaeth neu gadair bersonol trwy Bennaeth yr Ysgol a Deon y Coleg.
Gellir cyflwyno ceisiadau am ddyrchafiad i ddarllenyddiaeth neu gadair bersonol unrhyw bryd; nid oes dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau. Gellir cael y dyddiad ar gyfer derbyn ceisiadau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor gan Lauren Roberts.
Ystyrir ceisiadau yn y lle cyntaf gan y Pwyllgor Athrawon a Darllenwyr, a gadeirir gan yr Is-Ganghellor. Os yw’r pwyllgor yn fodlon y ceir achos prima facie, ceisir asesiadau annibynnol o’r cais gan o leiaf dri unigolyn allanol, sydd fel rheol yn athrawon yn yr un pwnc/maes neu mewn pwnc/maes perthnasol.
Fel rheol, bydd Pwyllgor yr Athrawon a'r Darllenwyr yn ceisio ymdrin â chais o fewn pedwar i chwech mis, ond mae’r amserlen yn dibynnu i ryw raddau ar ganolwyr allanol, ac ar brydiau, gall y broses gymryd mwy o amser. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd, a bydd yn ymdrin â’r cais cyn gynted â phosib.
Mae’r pwyllgor hefyd yn ymdrin ag enwebiadau ar gyfer athrawon er anrhydedd ac athrawon gwadd. Gweler Ordinhad XXII a chysylltwch â Lauren Roberts am ragor o wybodaeth.
Am ragor o ganllawiau a chyngor, cysylltwch ag Ysgrifennydd Pwyllgor yr Athrawon a’r Darllenwyr, Lauren Roberts.