Fy ngwlad:

Castell Sain Ffagan

Prosiectau Doethurol

Teitl y prosiect: 'St Fagans Castle: its Architectural and Landscape History'

Ymchwilydd Doethurol: Bethan Scorey

Goruchwylir gan: Dr Shaun Evans a Dr Lowri Ann Rees

Cefnogir yr ymchwil gan: Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen Foundation ac Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru.

Astudiaeth o Gastell Sain Ffagan yw project ymchwil Bethan, sef y plasty Elisabethaidd rhestredig Gradd I a saif ym mhentref Sain Ffagan ar gyrion Caerdydd, sydd bellach yn gartref i'r Amgueddfa Hanes Genedlaethol. Mae ei hymchwil yn edrych yn bennaf ar hanes pensaernïol y Castell, yn ogystal â hanes gardd a thirwedd y safle 100 erw, gan dynnu ar hanes ei berchnogaeth, ei feddiannaeth, a'i hanes teuluol i archwilio datblygiadau o'r unfed ganrif ar bymtheg hyd yr ugeinfed ganrif.

Llun o Gastell Sain Ffagan, plasty gwyn, hollol gymuserol.

Mae pennod agoriadol traethawd ymchwil Bethan yn canolbwyntio ar adeiladu Castell Sain Ffagan gan Dr John Gibbon, uchelwr o gyfreithiwr a oedd wedi dod ymlaen yn y byd o Bentre-baen ger pentref Sain Ffagan, y daeth y plasty a’r arglwyddiaeth i’w feddiant yn y 1560au. Bydd yn archwilio hanes canoloesol y pentref ac yn ceisio sefydlu beth oedd ar y safle pan brynodd Gibbon ef, ei gymhellion dros adeiladu plasty, ac arwyddocâd y dyluniad, a ystyrid yn dŷ modern iawn yng nghyd-destun Morgannwg.  Mae’r adrannau sy’n dilyn yn trafod perchnogaeth a gweithgarwch y teulu Lewis o’r Fan, a brynodd y plasty yn 1616.

Yn y ddeunawfed ganrif daeth y plasty i feddiant teulu Windsor, yn ddiweddarach, Windsor Clive. Mae ail bennod Bethan yn archwilio’r cyfnod canol Fictoraidd yn Sain Ffagan, pan gymerodd y teulu’r plasty a’r tiroedd yn ôl i’w dwylo eu hunain gan eu tenantiaid, gwneud gwelliannau sylweddol, a dechrau ymweld yn flynyddol. Mae ei phennod olaf yn canolbwyntio ar y cyfnodau Fictoraidd hwyr ac Edwardaidd pan oedd y ffasiynol Robert George Windsor Clive a'i wraig 'Gay' yn meddiannu'r Castell bob haf.

Bydd Bethan hefyd yn archwilio'r berthynas rhwng Castell Sain Ffagan a phlastai gwledig eraill yn ystadau'r teuluoedd, o’r Fan yng Nghaerffili i Hewell Grange yn Swydd Gaerwrangon, yng nghyd-destun newid ffasiynau pensaernïol a gofynion y teulu.

Gweithgarwch diweddar: Papur o'r enw ‘Investigating St Fagans, an Elizabethan Mansion in Cardiff’ yng Nghynhadledd 'New Insights into C16 and C17 British Architecture Conference', Ionawr 2024, Cymdeithas yr Hynafiaethwyr; papur o'r enw ‘Three Generation of Windsor Clive Women at St Fagans Castle’ yng Nghynhadledd Flynyddol Archif Menywod Cymru, Hydref 2023, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.