Cadwch mewn cysylltiad â ni

Ein Dull o Weithredu

⁠Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi ei sefydlu ym Mhrifysgol Bangor fel menter arloesol hirdymor gyda’r nod o drawsnewid dealltwriaeth o hanes a diwylliant Cymru, a’i thirweddau, amgylcheddau adeiledig a chasgliadau treftadaeth. 

Mae hyn yn cynnwys nid yn unig ysgolheictod o ansawdd uchel, ond hefyd adeiladu rhyngweithio cyson rhwng arbenigedd academaidd ac archifau a sefydliadau treftadaeth y wlad, perchenogion a gwarcheidwaid plastai a thirweddau hanesyddol Cymru, a chymunedau lleol, gyda’r bwriad o ffurfio a rhannu dealltwriaeth newydd am orffennol, presennol a dyfodol Cymru.

Mae ein holl brojectau yn pwyso ar y casgliadau hanesyddol – yn archifau, llawysgrifau, adeiladau, llyfrgelloedd, tirweddau, cofebau a gweithiau celf – a gynhyrchwyd, a gasglwyd neu a ddiogelwyd gan ystadau Cymru a’u cymunedau cysylltiedig a’u gweithgareddau dros lawer canrif. 

Hyd yma, nid yw’r sylfaen dystiolaeth ragorol hon, a gedwir mewn ystorfeydd cyhoeddus a phreifat ledled Cymru, wedi cael sylw academaidd cydunol a chydlynol. Uchelgais Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar gyfer y genhedlaeth nesaf yw datgloi’r potensial ymchwil a threftadaeth trwy brojectau ac astudiaethau cydweithredol egnïol, yn arbennig trwy ein carfan ffyniannus o ymchwilwyr doethurol ac ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa. 

O’r cyfnod canoloesol hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, roedd yr ystadau yn rhan hanfodol o fywyd a strwythur Cymru, gan feddiannu llawer o’i thir a dylanwadu ar bob agwedd ar gymdeithas. Mae casgliadau ystadau’n rhychwantu amrywiaeth eithriadol o themâu a phynciau, o amaethyddiaeth, pensaernïaeth, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a’r economi i lenyddiaeth, diwydiant, cyfraith a’r iaith. Wrth ddadansoddi effeithiau a dylanwadau dwfn yr ystadau, ar draws pob rhan o Gymru, mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru mewn sefyllfa i greu corff newydd o ysgolheictod a fydd yn mireinio ac yn herio dehongliadau a chanfyddiadau sefydledig o orffennol Cymru. 

Mae cyfleoedd o bwys i’r wybodaeth hon oleuo a dylanwadu ar bresennol a dyfodol Cymru – yn arbennig ym meysydd dehongli treftadaeth, twristiaeth gynaliadwy, defnydd tir a’r economi wledig; ac yn fwy sylfaenol fyth, mewn perthynas â’r ffordd y mae hunaniaeth Gymreig a lle Cymru yn Ynysoedd Prydain a gweddill y byd wedi cael eu ffurfio ac yn cael eu deall. 

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn cydnabod bod gan bobl Cymru ddiddordeb personol mewn deall hanes y lleoedd a’r cymunedau lle maent yn byw. Mae cyfrannu at ddehongli, cyflwyno a chyfoethogi hanes Cymru; hanes cymhleth a ddylai chwarae rhan annatod yng nghymdeithas Cymru, heddiw ac i’r dyfodol, yn rhan bwysig o hunaniaeth Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Rydym wedi ymrwymo i rannu ein llwybrau darganfod ac archwilio trwy agor cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned fel rhan o’n hymchwil, trefnu rhaglenni eang o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru, a chynnal presenoldeb gweithredol ar gyfryngau cymdeithasol. 

Mae’r cyfuniad o astudiaethau a lywir gan wybodaeth leol, ynghyd â chylch gorchwyl cenedlaethol i Gymru gyfan, yn unigryw i’r Sefydliad. Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn elwa’n sylweddol o’n partneriaeth ag Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol. Ar ben hynny, mae gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill a chanolfannau ymchwil cyfatebol ledled Cymru, Ynysoedd Prydain ac Fel rhan o'r European Network for Country House and Estate Research yn gosod ein gwaith a’n canfyddiadau o fewn cyd-destun a dadl ddeallusol fywiog, sy’n arwyddocaol yn rhyngwladol ac yn ymgysylltu’n fyd-eang.

Yr aradr a’r plas

The name of the Institute with a plough and the plas or Welsh country house in the centre

Mae ein harwyddlun yn cyfuno dwy elfen sy’n ganolog i flaenoriaethau ein hymchwil ac yn bwysig er mwyn deall hanes yr ystâd diriog yng Nghymru.

Yr aradr

Am ganrifoedd lawer bu’r offeryn hynod hwn yn elfen hanfodol ar ystadau Cymru. Dyma’r peiriant sylfaenol a oedd yn cysylltu dyn â’r tir ac roedd yn gyfystyr â gofalu am y dirwedd a’i meithrin i dyfu cnydau. Yn yr oesoedd canol defnyddid delweddau amaethyddol yn helaeth yn y canu mawl Cymraeg, a’r noddwyr yn cael eu canmol yn gyson am hwsmonaeth dda o’r tir a darparu cynhaliaeth i’r gymdogaeth gyfagos. Parhaodd yr aradr i wneud cyfraniad enfawr i ffyniant economaidd yr ystadau ymhell i’r ugeinfed ganrif. Roeddem o’r farn ei bod yn addas bod yr aradr yn rhan ganolog o’n brand: mae’n cynrychioli’r ffaith nad oedd ystâd yn ymwneud â diddordebau, gweithgareddau a dylanwad tirfeddianwyr yn unig, roedd hefyd yn ymwneud â bywydau a phrofiadau miloedd o unigolion a oedd yn byw ac yn gweithio ar y tir.

Y plas

Yn ystod yr oesoedd canol hwyr a’r cyfnod wedi hynny, roedd y plas neu dai mawr gwledig Cymru’n nodwedd bwysig o’r dirwedd ym mhob rhan o Gymru. Nhw oedd canolfannau grym – canolfannau llywodraeth, diwylliant a gwleidyddiaeth – safent yng nghanol ystadau tiriog Cymru, preswylfeydd y bonedd, y sgweieriaeth ac uchelwyr Cymru. Roeddent yn adeileddau ac yn ddatganiadau pensaernïol o bwys, ac yn aml byddent yn tra-arglwyddiaethu dros y tirweddau o’u cwmpas. Mae llawer o’r adeiladau hyn yn dal yn eiddo i’r teuluoedd a fu’n byw ynddynt ers cenedlaethau; mae eraill yng ngofal sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; ond cafodd gormod o lawer eu dymchwel neu maent wedi mynd â’u pen iddynt yn ofnadwy. 

Mae’r plas sydd ar ein logo wedi ei seilio ar un o’r tai hynny a gafodd ei ddymchwel: ⁠Ynysmaengwyn yn Nhywyn, Meirionnydd. Cafodd y tŷ brics neilltuol hardd yma ei ailadeiladu yn 1758 ar safle a fu’n chwarae rhan bwysig yn y gymdogaeth am ganrifoedd. Yn yr oesoedd canol, ac ymhell ar ôl hynny, roedd y preswylwyr yn noddwyr brwd i’r beirdd ac, er gwaethaf sawl methiant i gael aer gwrywaidd, bu’r teuluoedd Wynn a Corbett – yn arbennig John Corbett (1817–1901) – yn parhau i gyfrannu at weithgareddau’r ardal gyfagos o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Rywbryd ar ôl 1951 rhoddwyd yr ystâd i’r Cyngor lleol, a fethodd â chynnal a chadw’r adeilad. Defnyddid y tŷ i hyfforddi milwyr a dynion tân nes iddo gael ei ddymchwel yn y diwedd yn 1965. Cedwir casgliadau sy’n ymwneud ag ystâd Ynysmaengwyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a changen Archifau Meirionydd o Archifau Gwynedd. 

Rydym yn credu bod plastai Cymru’n rhan eithriadol bwysig o’n treftadaeth genedlaethol ac y gallant chwarae rhan allweddol yn amlygu hanes amrywiol y cymdogaethau lle safant. ⁠Trwy ymchwil, cyd-drafod a chydweithio rydym yn benderfynol o ddatgloi’r potensial hwnnw.

Partneriaeth & Chydweithio

Mae cydweithredu'n rhan annatod o'n hunaniaeth fel sefydliad, ac mae'n sail i'n hymagwedd at ymchwil, ein cyswllt cyhoeddus a'n hymdrechion i wneud cyfraniadau cadarnhaol at gymdeithas a diwylliant. Ers ein sefydlu buom yn ceisio meithrin cysylltiadau â phartneriaid academaidd eraill yng Nghymru a thu hwnt, a chydag amrywiol sefydliadau ac unigolion sy'n gweithredu yn y sectorau archifau, treftadaeth ddiwylliannol, yr amgylchedd hanesyddol, materion gwledig a thwristiaeth.

Mae nifer o'r cysylltiadau hynny'n hanfodol i'n llwyddiant at y dyfodol.  Maent yn dibynnu ar ddeialog reolaidd, datblygu cyd-ddealltwriaeth a rhannu amcanion.  Mae llawer o'n hymchwil yn dibynnu ar waith gwych yr archifdai a'r sefydliadau treftadaeth wrth iddynt warchod a threfnu casgliadau er mwyn eu cynnig i'w dadansoddi.  Cafodd ein datblygiad hwb hefyd trwy gysylltiadau clos â pherchnogion a gwarcheidwaid plastai ac ystadau Cymru.  Mae gallu cyfnewid gwybodaeth, dealltwriaeth a safbwyntiau â rhanddeiliaid allanol yn aml yn allweddol i gynllunio, datblygu a darparu ein hymchwil.  Mae partneriaethau'n ein cynorthwyo i ddatblygu proffil a gweithgareddau ledled Cymru, ac mae'r cysylltiadau hynny'n aml yn cynnig sianelau inni rannu ein hymchwil a'n canfyddiadau â chynulleidfaoedd newydd ac ehangach. 

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru'n rhan o rwydwaith rhyngwladol ehangach o fentrau ymchwil a threftadol sy'n canolbwyntio ar arwyddocâd hanesyddol y plastai a'r ystadau.  Bu dulliau a chyflawniadau'r Centre for the Study of Irish Country Houses and Estates, yr Yorkshire Country House Partnership a'r Centre for Scotland’s Land Futures yn ysbrydoliaeth ac yn  gyfleoedd parhaus i gydweithredu'n rhyngwladol.  Rydym hefyd yn falch o fod yn aelod o ENCOUNTER | The European Network for Country House and Estate Research.  

Mae'r rhestrau isod yn rhoi syniad o rai o'r partneriaid a'r rhanddeiliaid allweddol sydd gennym mewn gwahanol sectorau.  Maent wedi cyfrannu at ein hymchwil, wedi cynnig gwybodaeth a safbwyntiau pwysig ar ein gwaith, neu wedi ysbrydoli ein datblygiad.

Partneriaid Prifysgol Bangor:

Canolfannau ymchwil, prosiectau a rhwydweithiau:

Archifau:

Sefydliadau treftadaeth:

Cymdeithasau hanesyddol:

Archifau a Chasgliadau

Mae maint ac amrywiaeth y dystiolaeth hanesyddol a all gefnogi ac ysbrydoli ymchwil i hanes ystadau Cymru yn sylweddol, ac mae’n cynnwys archifau a chofnodion, llawysgrifau a thestunau printiedig, tirweddau, yr amgylchedd adeiledig ac amrywiaeth o ddiwylliant gweledol, materol a pherfformiadol. Mae ein projectau’n tueddu i fod yn seiliedig ar archifau a chasgliadau treftadaeth ddiwylliannol a gafodd eu creu, eu casglu neu eu cadw gan deuluoedd ac ystadau, a’r cymunedau a’r gweithgareddau oedd yn gysylltiedig â hwy.

Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn gweithredu fel partneriaeth gydag Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.

Mae archifau ystadau wedi cynrychioli ffocws tymor hir ym mholisi casglu Archifau Prifysgol Bangor a'i ragflaenwyr.  Yn ystod ei gyfnod fel Llyfrgellydd Prifysgol rhwng 1926 a 1946, trafododd Thomas Richards (1878–1962) â thirfeddianwyr gogledd Cymru i sicrhau y rhoddwyd ar gadw ddwsinau o archifau ystadau; tuedd a barhaodd o dan ei olynwyr fel rhan o strategaeth ehangach i sefydlu 'canolfan ymchwil o'r radd flaenaf i fyfyrwyr hanes Cymru'.

Mae'r tîm Archifau a Chasgliadau Arbennig yn gyfrifol am gasglu a chadw'r archifau yn y tymor hir, ac am sicrhau bod yr adnoddau'n hygyrch i'r holl ymchwilwyr, yn rhad ac am ddim. Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn gweithio gyda'r Archifau i hyrwyddo'r casgliadau fel cyfrwng ymchwil a dysgu gwerthfawr, ac i gyfleu eu pwysigrwydd cyhoeddus i ddeall hanesion, diwylliannau a thirweddau gogledd Cymru.  Mae'r casgliadau yn agored i ymchwilwyr, myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd, a gellir eu gweld â nhw ar y safle yn yr Archifau a'r Casgliadau Arbennig ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor.

Mae casgliad archifau ystâd Prifysgol Bangor yn un o'r rhai mwyaf sylweddol yn Ewrop.  Mae'r archifau'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ardaloedd gogledd Cymru ac yn ymwneud â rhai o ystadau amlycaf y rhanbarth, gan gynnwys Baron Hill, Mostyn a'r Penrhyn.  Mae’r Catalog Archifau a Chasgliadau Arbennig ar gael i’w chwilio ar-lein (sylwch, er bod y catalog ar-lein yn cael ei wella'n barhaus, mae'n dal i fod yn anghyflawn. Mae catalogau copi caled ar gael i edrych drwyddynt ar y safle).   

Mae'r rhestr isod o'r prif archifau ystadau sydd gan Brifysgol Bangor, gan gynnwys cysylltiadau i'r disgrifiadau o'r casgliadau ar Archives Hub.  Trefnir yr archifau yma yn ôl siroedd Cymru cyn 1974, er y dylid nodi bod y rhan fwyaf o'r casgliadau yn cynnwys cofnodion sy'n ymwneud â thiroedd mewn sawl sir. 

Ynys Mon:

Sir Gaernarfon:

Sir Ddinbych:

Sir y Fflint:

Meirionnydd:

Sylwch fod llawer o'r casgliadau hyn yn cynnwys archifau ystadau eraill; er enghraifft, mae casgliad Mostyn hefyd yn cynnwys archifau ystâd Corsygedol a Gloddaith. Sylwch hefyd fod archifau eraill yn aml yn ymwneud â'r ystadau hyn sy'n cael eu cadw gan ystorfeydd eraill

Casgliadau Cyfreithwyr gan gynnwys cofnodion ystadau:

Catalogau Gwerthu:

Eitemau yn y Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor:

Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn Wasanaeth Archifau Achrededig.

Mae archifau ystadau yn arbennig o bwysig i ddatblygiad ein gwaith. Casgliad o gofnodion a gynhyrchwyd i gofnodi a hwyluso caffael, etifeddu a rheoli tir ydynt, ac yn aml maent yn cynnwys amrywiaeth o gofnodion eraill yn ymwneud â gweithrediad y plasty a’r ystad a diddordebau, gweithgareddau a gyrfaoedd eu perchnogion. 
Gall cwmpas cronolegol, daearyddol a phynciol y casgliadau hyn fod yn hynod eang ac amrywiol, a chynnwys amrywiaeth o gofnodion sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol hyd heddiw, mewn amrywiaeth o ieithoedd ac yn aml yn ymwneud â sawl lleoliad. Er eu bod yn rhannu nodweddion cyffredin, mae archif pob ystad yn wahanol, ac mae eu cymeriad a’u cyfansoddiad yn dibynnu ar hunaniaeth y teuluoedd, yr ystadau, yr ardaloedd a’r cymunedau a oedd yn sylfaen i’w creadigaeth a’u cadwraeth. 

Dyma rai o’r mathau mwyaf cyffredin o gofnodion:

  • Gweithredoedd eiddo 
  • Arolygon, prisiadau, llechresi a manylion 
  • Mapiau a chynlluniau 
  • Rhenti a phrydlesi 
  • Llyfrau cyfrifon a derbynebau 
  • Ewyllysiau a chytundebau priodas; 
  • Cofnodion maenoraidd, degymau a chau tiroedd; 
  • Cofnodion yn ymwneud â gwaith diwydiannol, ffyrdd, rheilffyrdd a mwynau 
  • Papurau personol yn cynnwys gohebiaeth, cyfnodolion a dyddiaduron 
  • Dogfennau’n ymwneud â llywodraeth, gweinyddiaeth a gwleidyddiaeth leol; 
  • Papurau achyddol, yn cynnwys siartiau achau 
  • Papurau cyfreithiol

Megis dechrau deall y corpws enfawr hwn o dystiolaeth ydym i raddau helaeth: mae’r potensial i wneud ymchwil yn anhygoel. 

Mae mwyafrif yr archifau sy’n ymwneud ag ystadau yng Nghymru ar gadw yn archifau sirol a swyddfeydd cofnodion ledled Cymru, ac maent ar gael i’r cyhoedd eu gweld at ddibenion ymchwil. Mae gan yr holl archifau a swyddfeydd cofnodion hyn gatalogau ar-lein eu hunain ac adnoddau chwilio, er y gellir chwilio a phori llawer o’r casgliadau trwy’r Archives Hub. Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn cynnwys corpws rhyngwladol arwyddocaol o archifau ystadau sy’n ymwneud ag ystadau tir ledled gogledd Cymru. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymruhefyd yn cadw casgliad pwysig o archifau ystadau Cymru y gellir chwilio ynddynt trwy Archifau a Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae ychydig o archifau ystadau Cymru yn parhau i fod yn nwylo’r teulu neu’r ystad a’u cynhyrchodd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gofnodion ystadau’r ugeinfed ganrif. Mae rhai o’r teuluoedd a’r ystadau hyn yn aelodau o’r Historic Houses Archivist Group. Mae hefyd yn beth cyffredin dod o hyd i gofnodion ystad yng nghasgliadau cyfreithwyr. Mae archifau ystadau eraill yng Nghymru mewn cadwrfeydd y tu hwnt i Gymru.

Yn ogystal â’r wybodaeth a ddarperir gan gofnodion ystadau, ceir nifer o archifau eraill sy’n cyfrannu at ein hymchwil. Maent yn cynnwys cofnodion profiant, papurau’r wladwriaeth, cofnodion llysoedd cyfraith Cymru a Lloegr, mapiau degwm, dyfarniadau cau tiroedd a chofnodion maenoraidd. 

Cafodd ystadau effeithiau sylweddol hefyd ar dirwedd ac amgylchedd adeiledig Cymru. Yn aml, roedd dylanwad pensaernïol ystad yn ymledu i ffermydd a bythynnod, porthdai a thai ciperiaid, bythynnod, pentrefi a threfi, eglwysi a chapeli, pontydd a melinau, ffyrdd, waliau a phob math o weithfeydd diwydiannol. Yn yr un modd, roedd eu dylanwad i’w weld ar y dirwedd hefyd yng nghynllun a threfniant parciau, gerddi, coetiroedd, caeau, coed, cyrsiau dŵr, waliau a gwrychoedd. Mae’r nodweddion hyn yn sylfaen bwysig i ymchwil. Disgrifir llawer o’r rhain yn Coflein: catalog ar-lein o archaeoleg, adeiladau, treftadaeth ddiwydiannol a morwrol yng Nghymru ac yn Archwilio: cofnod amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae’r grŵp Darganfod Hen Dai Cymreig wedi cyhoeddi adroddiadau manwl ar nifer o adeiladau brodorol a godwyd cyn 1700 yng ngogledd Cymru. Mae Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol CBHC yn adnodd ar-lein pwysig sy’n cynnwys miloedd o enwau lleoedd a gasglwyd o gofnodion hanesyddol. Mae Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn brif adnodd am wybodaeth am y parciau a’r gerddi hanesyddol sy’n gysylltiedig â phlastai Cymru. 

Mae plastai Cymru yn ffynhonnell a thestun arall i’n hymchwil. Er i lawer ohonynt gael eu dinistrio yn ystod yr ugeinfed ganrif, mae eraill wedi goroesi fel safleoedd treftadaeth pwysig, cartrefi teuluol ac atyniadau i ymwelwyr yn nhirwedd Cymru. Mae llawer o blastai Cymru sydd mewn perchnogaeth breifat yn gysylltiedig â Historic Houses; mae eraill yn derbyn gofal gan sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Landmark Trust a Cadw. P’un a ydynt yn dal mewn dwylo preifat neu yng ngofal cyrff fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae’r diwylliant gweledol, materol a thestunol sy’n gysylltiedig â phlastai yn cynnig cyfle gwych i ymchwil rhyngddisgyblaethol, er gwaethaf y cyfyngiadau a achoswyd gan y drefn o werthu a chwalu casgliadau o blastai dros y ganrif ddiwethaf. Mae rhai o’r portreadau a’r gwaith celf a arferai fod yn gysylltiedig â phlastai gwledig Cymru ar gael i’w gweld ar-lein trwy Art UK. Un o nodweddion mwyaf nodedig bywyd diwylliannol ym mhlastai Cymru oedd nawdd a pherfformio canu mawl. Mae llawer o’r cerddi hyn wedi goroesi mewn llawysgrifau a gellir eu chwilio ar-lein gan ddefnyddio Y Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau (MALDWYN), Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Rydym hefyd yn cydnabod arwyddocâd a gwerth y wybodaeth, yr atgofion a’r casgliadau mewn cymunedau lleol ledled Cymru. 

Digwyddiadau

Bu’r cyswllt â’r cyhoedd a’r gymuned yn rhan annatod o waith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (ISWE) o’r cychwyn cyntaf. Yn gefn i’r rhyngweithio parhaus mae’r argyhoeddiad y dylid gwahodd pobl a chymunedau Cymru, a ninnau’n ganolfan ymchwil yng Nghymru, i chwarae rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau ac elwa ohonynt. 

Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd i rannu ein hymchwil ac annog cyfranogiad cyhoeddus gweithredol. Mae i’r ymchwil a gynhyrchwn lawer o ddefnyddau a chynulleidfaoedd y tu hwnt i’r byd academaidd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau treftadol diwylliannol, yr amgylchedd hanesyddol, archifau, materion gwledig a thwristiaeth i wireddu’r potensial sydd. Rydym hefyd yn cydnabod bod yna elfennau lleol i’n gwaith sy’n ymwneud â llefydd penodol. Mae hynny’n aml yn cyd-daro â diddordeb cyhoeddus mawr yn hanes teulu, hanes lleol a hanes Cymru, ac awydd pobl i ddeall treftadaeth eu cartrefi a’u cymunedau. Rydym yn cydnabod y storfeydd sylweddol o wybodaeth ac arbenigedd, sy’n gysylltiedig â’n diddordebau, sydd i’w cael mewn cymunedau lleol. Bu hynny’n sail i’n hymdrechion i ddatblygu perthynas gref â chymdeithasau hanesyddol a grwpiau treftadaeth, sy’n chwarae rhan hollbwysig wrth ymchwilio, rhannu a hyrwyddo gwybodaeth am orffennol Cymru. 

Trwy ein projectau, ein partneriaethau, ein digwyddiadau a’r cyfryngau cymdeithasol roeddem yn falch iawn inni ddenu nifer fawr o gefnogwyr a dilynwyr cyhoeddus o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae llawer o’r unigolion hynny’n cefnogi ein gwaith fel Cyfeillion Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Digwyddiadau i Ddod

Cyn-ddigwyddiadau

O’r cychwyn cyntaf buom yn cynnal rhaglen o seminarau ymchwil gyda’r nos ym Mhrifysgol Bangor, a rhoi llwyfan i academyddion a gweithwyr proffesiynol o faes treftadaeth wneud cyflwyniadau ar themâu a phynciau sy’n ymwneud â’n diddordebau. Bu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys chwareli llechi, achau canoloesol ac arian teuluol a rheoli ystadau. Mae’n braf iawn cael cyfle i arddangos ymchwil arloesol academyddion ar ddechrau eu gyrfa. Bu’r seminarau’n hynod boblogaidd ac mae nifer dda’n bresennol bob amser, yn aml yn denu pobl newydd i Brifysgol Bangor am y tro cyntaf. 

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru hefyd yn cyd-gynnal Darlith Flynyddol Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangoryn gyson.

Rydym yn cymryd ein rôl fel canolfan ymchwil genedlaethol i Gymru gyfan o ddifrif. Bob blwyddyn rydym yn cynnal cynhadledd neu symposiwm mewn rhanbarth gwahanol o Gymru, ac yn canolbwyntio ar ddylanwad ac arwyddocâd y plastai a’r ystadau’n lleol. Yn aml, cynhelir y digwyddiadau hynny ar y cyd â chymdeithas hanes sirol ac fe’u cynhelir yn rheolaidd mewn plastai. Dyma rai o’r digwyddiadau a fu:

  • 2020 – Yr ystâd diriog yn ne orllewin Cymru 
    (Cynhaliwyd gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin ar Gampws y Drindod Dewi Sant, Sir Gaerfyrddin) 
     
  • 2019 – ‘Cyfoeth o olion o’r oesoedd a fu’ 
    (Cynhaliwyd yn Neuadd Gregynog, Sir Drefaldwyn, ar y cyd â Chlwb Powysland)
     
  • 2018 – ‘Cylchoedd Dylanwad’: Effaith ystadau ar hanes, diwylliant a thirweddau Môn 
    (Cynhaliwyd ym Mhlas Cadnant, ar y cyd â Chymdeithas Hynafiaethwyr Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd)
     
  • 2017 – ‘Cyfiawnder a Llawenydd’: Ystadau Sir Frycheiniog o Safbwynt y Landlord a’r Tenant
    (Cynhaliwyd ym Mhenpont, ar y cyd â Chymdeithas Brycheiniog) 
     
  • ⁠2017 – Plastai a’u hystadau yng Ngheredigion 
    (Cynhaliwyd gan Fforwm Hanes Lleol Ceredigion yn Llwyncelyn, Sir Aberteifi) 
     
  • 2016 – Ailystyried uchelwyr gogledd ddwyrain Cymru 
    (Cynhaliwyd yn Neuadd, Sir y Fflint, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Hanes Sir y Fflint a Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru) 
     
  • 2015 – ‘Sgweieriaid De Cymru’ 
    (Cynhaliwyd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar y cyd â Chymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin) 
     
  • 2014 – ‘Bonheddwyr Mawr o’r Bala’ Ysgol ddydd ar Ystadau Tiriog Penllyn
    (Cynhaliwyd yng Nglan Llyn, Sir Feirionnydd)

 

  • 2024 – New Eryri (whiteBOX, Pontio Bangor)
  • 2019 – Elizabeth Morgan o’r Henblas (Amgueddfa Storiel, Bangor) 
     
  • 2018–19 – Tu Hwnt i’r Chwarel | Beyond the Quarry(Prifysgol Bangor a Llyfrgell Bethesda) 
     
  • 2018 – Llawysgrifau Mostyn | # Mostyn100 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth)

Mae gennym gynhadledd flynyddol, ac mae nifer o sefydliadau eraill yn bartneriaid â ni er mwyn cynnal symposia a digwyddiadau cyhoeddus eraill. Mae’r rheiny’n cynnwys:

  • 2024 – Lansiad llyfr: Lowri Ann Rees, The Middleman at Middleton Hall
    (Cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor)
  • 2019 – Lansiad llyfr: Philip Nanney Williams, Nannau: A Rich Tapestry of Welsh History
    (Cynhaliwyd yn Neuadd Corsygedol)
  • 2019 – Darllen, Ysgrifennu, a Chasglu: Llyfrau a Llawysgrifau yng Nghymru, 1450–1850
    (Cynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu)
  • 2019 – Lansio llyfr: J. Gwilym Owen a Peter Foden, The Penrhyn Entail
    (Cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor) 
  • 2016 – Lansio llyfr: Philip Nanney Williams, Nannau: A Rich Tapestry of Welsh History
    (Cynhaliwyd yn Neuadd Cors y Gedol)
     
  • 2017 – Peter Lord: Portreadu Pobl Môn
    (Cynhaliwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, ar y cyd â Chymdeithas Hynafiaethwyr Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd) 
     
  • 2017 – Lansio llyfr: Bettina Harden, The Most Glorious Prospect
    (Cynhaliwyd ym Mhlas Glyn y Weddw) 
     
  • 2017 – ‘Mesur y Meysydd’ – Carto Cymru 2017: Symposiwm Mapiau Cymru 
    (Cynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar y cyd â RCAHMW) 
     
  • 2018 – Digwyddiadau a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Phroject Penrhyn: Tu Hwnt i’r Chwarel | Beyond the Quarry 
    (Cynhaliwyd mewn lleoliadau a safleoedd ledled Dyffryn Ogwen) 
     
  • 2018 – Rheoli Coetiroedd yng Nghymru: Y Gorffennol, Y Presennol, Y Dyfodol; Treftadaeth, Rheolaeth a Chynaliadwyedd 
    (Cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Chymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor a Woodland Heritage) 
     
  • 2018 – Symposiwm Llawysgrifau Mostyn 
    (Cynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) 
     
  • 2018 – Patrymau Patriarchaidd? Swyddogaethau a phrofiadau merched ar ystadau tiriog Cymru
    (Cynhaliwyd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar y cyd ag Archif Menywod Cymru) 

Cefnogwch Ein Gwaith

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn datblygu'n bresenoldeb deallusol ffres ym mywyd Cymru:  Canolfan genedlaethol newydd sy'n ymroddedig i hyrwyddo ymchwil a phrojectau arloesol am ein hanesion, ein diwylliannau a'n tirweddau. 

Mae eich cefnogaeth ddyngarol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r hyn y gallwn ei gyflawni.

Os ydych chi'n rhannu ein nodau a'n dyheadau ac yn gallu cyfrannu tuag at ein cenhadaeth, gall eich cefnogaeth helpu:

  • Meithrin y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, sicrhau bod astudio Cymru a'i threftadaeth a'i diwylliant yn parhau i fod yn ffocws academaidd bywiog 
  • Datgloi'r naratifau a'r wybodaeth anhygoel sydd yn yr archifau ac ynghylch plastai, ystadau a chymunedau ledled Cymru
  • Diogelu, cofnodi, digideiddio ac arddangos rhannau pwysig o dreftadaeth ddogfennol y genedl, a gedwir yn ein Harchifau a'n Casgliadau Arbennig. 
  • Hyrwyddo hanes a threftadaeth Cymru i gynulleidfaoedd newydd ac ehangach, trwy ddigwyddiadau cyhoeddus, gweithgareddau estyn allan a chyhoeddiadau

Y ffordd fwyaf uniongyrchol o gefnogi ein gwaith yw dod yn un o Gyfeillion y Sefydliad.  Sefydlwyd y Cyfeillion oherwydd y diddordeb cyhoeddus mawr yn ein gwaith ac mae eu cefnogaeth, eu hymroddiad a'u hanogaeth yn hanfodol i'n twf ninnau. 

Mae'n bleser eich gwahodd i ddod yn Gyfaill ac i ystyried rhodd sengl neu flynyddol o £25, £50 neu £100.

Cewch roddi anrhegion ar-lein

Mae croeso hefyd i roddion drwy siec, cerdyn credyd a Debyd Uniongyrchol.  Mae’r manylion cyswllt isod. 

Llawer o ddiolch am eich cymorth.

Rydym hefyd yn croesawu rhoddion untro mwy o faint, rhoddion rheolaidd neu waddol, gan gynnwys cyllid at brojectau penodol, efrydiaethau doethurol a bwrsariaethau. Cysylltwch â Dr Shaun Evans i drafod eich rhodd:

E-bost:  shaun.evans@bangor.ac.uk

Ffôn:  +44 (0) 1248 383617

Post:  Cronfa Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Y Swyddfa Ddatblygu, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565 

Pan fyddwch yn gwneud cyfraniad trwy Gymorth Rhodd, gallwn hawlio treth yn ôl ar y gyfradd sylfaenol yr ydych eisoes wedi'i thalu ar eich rhodd, oddi wrth Gyllid a Thollau EM.   Mae hynny'n cynyddu gwerth eich rhodd inni 25%, heb ddim cost ychwanegol i chi.   Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch hefyd hawlio'n ôl y gwahaniaeth rhwng y dreth ar y gyfradd uwch a'r gyfradd sylfaenol ar gyfanswm gwerth eich rhodd i'r Brifysgol ar eich ffurflen dreth Hunanasesu. 

Cysylltwch â'r Swyddfa Ddatblygu am wybodaeth bellach ynglŷn â'r ffordd orau o roddi, a'r ffordd orau o drefnu eich rhodd i fanteisio ar y gostyngiad treth i roddwyr.  

Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Cysylltu â ni

Gallwch gael y newyddion diweddaraf a digwyddiadau sydd i ddod gan SYYC trwy gofrestru ar ein rhestr bostio. Anfonwch e-bost atom gyda'ch manylion. Gallwch hefyd ymgysylltu â'n gwaith a'n diddordebau ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar X, Facebook ac Instagram

Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?