Coed a Choetiroedd Cymru

Coed, Ystadau a Thirweddau Cymru

Ym mis Mawrth 2018, ymunodd Sefydliad Ymcwhil Ystadau Cymru â Chymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor (BFSA) a’r elusen Woodland Heritage i gynnal symposiwm gyda’r nos ym Mangor ar ‘Hanes, Presennol a Dyfodol Rheoli Coetiroedd’, yn cynnwys cyfraniadau gwadd gan yr Athro Ian Rotherham (Sheffield Hallam) a Geraint Richards (Prif Goedwigwr, Dugiaeth Cernyw). Pwrpas y digwyddiad hwn oedd agor trafodaethau ar sut y gall dealltwriaeth o'r prosesau hanesyddol sy'n cydgyfeirio ar goetiroedd a choed lywio trafodaethau cyfoes am reoli coetiroedd, defnydd tir, coedwigaeth, bioamrywiaeth a dal carbon.

Bu’r digwyddiad yn gymorth i feithrin cysylltiadau a sgyrsiau rhwng Hanes a Choedwigaeth ym Mangor, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfleoedd i adeiladu ar astudiaeth arloesol William Linnard, Welsh Woods and Forests: History and Utilization (Caerdydd, 1982), yn seiliedig ar ei draethawd PhD Prifysgol Bangor ym 1979.

Mae coed, coetiroedd a thirwedd wedi darparu cyd-destun ar gyfer perthynas ryngddisgyblaethol gyfoethog rhwng Sefydliad Ymcwhil Ystadau Cymru a Chanolfan Syr William Roberts ar gyfer Defnydd Tir Cynaliadwy, gan gynnwys fel rhan o Grant Ymchwil NERC ‘Discipline Hopping for Environmental Solutions’.

Yn 2023, defnyddiodd Dr Shaun Evans ddwy ddarlith wadd i The Gardens Trust ac Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru i gwmpasu fframwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ‘Goed, Tai Gwledig a Thirweddau Cymru’. Defnyddiodd y ddwy ddarlith ‘The Glory of Our Estates’, dyfyniad gan Thomas Pennant, i ddangos pa mor ganolog yw coed a choetiroedd i dirweddau ystadau Cymru.

Sleid o cyflwyniad gyda'r teitl 'The Glory of Our Estates' gyda llun o goeden ar y dde.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?