Cofebau i Ryfeloedd Napoleon

Prosiectau Doethurol

Teitl y prosiect: 'Memorials to the Napoleonic Wars: A study of how Britain and Ireland memorialised its involvement in the Revolutionary & Napoleonic Wars (1792 – 1815)'

Ymchwilydd Doethurol: Peter Crosby

Goruchwylir gan: Dr Lowri Ann Rees a Dr Karen Pollock

Deilliodd y project hwn o ddau ddigwyddiad. Canmlwyddiant 2014-2018 ‘Y Rhyfel Mawr’, ac interniaeth israddedig Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (2019) ar ran ‘The Anglesey Column Trust’. Briff cyffredinol yr olaf oedd ymchwilio i hanes 'Tŵr Marcwis'. O'u cyfosod, arweiniodd y digwyddiadau hyn at fyfyrdodau ar symbolaeth, ystyr a phwrpas cofebion, e.e. natur ddathliadol ymddangosiadol Henebion Napoleon o'i gymharu â natur angladdol y rhai ar gyfer 'Y Rhyfel Mawr'. Mae yna gorff o lenyddiaeth, poblogaidd, hynafiaethol, ac academaidd, wedi'i chysegru i gofebion y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, ond nid oes cymaint wedi'i ysgrifennu am rai hŷn na gweithiau cyhoeddus cysylltiedig eraill.

Ffotograff o Golofn Ardalydd Ynys Mon gyda olygfa o'r tirwedd yn y cefndir

Mae'r myfyrdodau hyn wedi ysgogi cwestiynau, e.e.

  • Sut, pam, a phryd y datblygwyd cofebion?
  • Pwy adeiladodd nhw?
  • Beth oedd eu swyddogaeth, pwrpas ac arwyddocâd, a pherthnasedd i'w hadeiladwyr?
  • A yw hyn wedi newid dros amser, os felly, sut, a pham, a beth yw eu swyddogaeth yn awr?
  • Am ba mor hir mae cofeb yn parhau i fod yn berthnasol?
  • A yw cofebion yn symbolau cenedlaethol gwirioneddol bwysig sy'n diffinio hunaniaeth neu ai 'dodrefn stryd' di-nod ydynt i raddau helaeth?
  • Sut maen nhw'n gysylltiedig â chanfyddiadau o ddatblygiad a thranc Prydain, ei hymerodraeth a'i hunaniaeth?
  • Beth allen nhw ei ddweud wrthym am y cymdeithasau a’r bobl a'u hadeiladodd?
     

O waith ymchwil cynnar, gellir casglu bod adeiladu cofebion i frwydrau Napoleon yn cynrychioli rhywbeth gwahanol yn niwylliant Prydain. Roedd rhai sylwebwyr cyfoes yn gweld y dewis o gofebion yn anarferol. Hefyd, mae arwyddion nad oes gan waith celf cyhoeddus hanesyddol ystyr sefydlog, ac wrth i gymdeithasau ddatblygu, mae arwyddocâd, pwysigrwydd a phwrpas henebion presennol yn newid. Mae rhai henebion yn cael eu trwytho ag arwyddocâd arbennig, o ran hunaniaeth genedlaethol neu ranbarthol, nad yw eu comisiynwyr a'u hadeiladwyr byth yn eu creu. Mae rhai wedi dod yn ganolbwynt ar gyfer protestiadau, a gweithredoedd o ddelwddrylliadau, fodd bynnag, tynged y mwyafrif yw dod yn ddodrefn cyfarwydd yn y dirwedd drefol neu wledig, gyda'u bwriad a'u pwrpas gwreiddiol yn cael eu cuddio gan amser yn bennaf.

Yn 2020 fe wnaeth llofruddiaeth Mr George Floyd yn yr Unol Daleithiau ysgogi protestio chwyrn o amgylch y Byd. Roedd peth o’r dicter ynghylch yr erchylltra hwn yn targedu cerfluniau, a gweithiau celf dinesig eraill y canfuwyd bod ganddynt gysylltiadau â gormes y bobl Ddu. Canlyniad ehangach y drasiedi hon fu canolbwyntio ar weithgareddau o'r enw 'y rhyfel diwylliant'. Nid yw’r ymchwil hon yn mynd i archwilio’r materion hyn yn llawn, ond yn yr un modd ni all anwybyddu bod dadl leisiol ac ymrannol yn mynd rhagddi yn y wasg, a chyfryngau eraill, am y gorffennol, yr hyn sydd wedi’i goffáu, a’r hyn y dylid, neu na ddylid, ei gofio.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?