Fy ngwlad:

Cysylltiadau Archifau Londonderry

Cysylltu'r Casgliadau: Teulu Vane-Tempest-Stewart a'u Hystadau – Astudiaeth Gwmpasu Archifol

Ffotograff o gerflun o fenyw wedi'i gosod mewn coetir.

Yn 2021/22, rhedodd y Centre for the Study of Historic Irish Houses and Estates (CSHIHE, Maynooth) a Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (Bangor) ymarfer cwmpasu ar y cyd i ddod o hyd i gysylltiadau hanesyddol rhwng ystadau Gwyddelig a Chymraeg. Gwnaethpwyd yr ymchwil gan Dr. Adam N. Coward a gyflogwyd trwy Brifysgol Bangor i gynhyrchu adroddiad manwl, sy'n darparu sylfaen bwysig ar gyfer ymchwil pellach.

Yn rhannol mewn ymateb i’r adroddiad hwn, cynigiodd Frances Bailey (Uwch Guradur Cenedlaethol, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) greu llyfr ffynhonnell neu fynegai unedig o archifau yn ymwneud â’r teulu Vane-Tempest-Stewart a’u hystadau. Cyfunodd partneriaid o CSHIHE, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Prifysgol Newcastle a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wireddu'r cynnig hwn, gan gyflogi Dr. Coward i ymchwilio i gymeriad a chyfansoddiad amrywiol archifau Londonderry a chynhyrchu adroddiad sylweddol yn amlinellu ei ganfyddiadau yn 2023.

Mae’r teulu Vane-Tempest-Stewart, Ardalyddion Londonderry, wedi chwarae rhan ddylanwadol, os yn ddadleuol o bryd i’w gilydd, yn hanes Iwerddon, Prydain ac Ewrop yn ehangach dros sawl cenhedlaeth. Tyfodd eu cyfoeth trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig trwy eu mentrau diwydiannol (yn enwedig eu pyllau glo yn Swydd Durham) ar y cyd a'u dylanwad gwleidyddol, wrth iddynt gydbriodi â theuluoedd nodedig gyda tir a theitlau, yn ogystal â thrwy rhwydweithio gwleidyddol a chymdeithasol nifer o'r Ardalyddesau. Nid yn unig eu dylanwad cymdeithasol a gwleidyddol oedd yn bellgyrhaeddol – roedd ganddynt ystadau niferus wedi'u gwasgaru ar draws Archipelago Gogledd yr Iwerydd, yn enwedig yn Co. Down yn Iwerddon (Mount Stewart), Swydd Durham yng ngogledd Lloegr (Wynyard Hall a Seaham), a Sir Drefaldwyn yng nganolbarth Cymru (Plas Machynlleth), yn ogystal â chartrefi a lodjau hela, naill ai ar brydles neu yn eiddo, ar draws Lloegr (gan gynnwys Llundain), Iwerddon, a'r Alban. O ganlyniad i’w gweithgareddau gwleidyddol ac economaidd, eu cysylltiadau teuluol, a maint eu tiroedd, cynhyrchodd y teulu archif enfawr sydd wedi’i wasgaru ar draws sefydliadau cadw cofnodion yng Ngogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru, gyda chasgliadau llai yng Ngweriniaeth Iwerddon a'r Alban. Nod y prosiect ‘Cysylltu’r Casgliadau’ oedd lleoli a chanfod y casgliadau hyn a’u cynnwys, a’u cysylltu â’i gilydd er mwyn deall sut y maent hwy, a’r bobl, y gweithgareddau, a’r ystadau y maent yn eu cofnodi, i gyd yn cyd-fynd â’i gilydd.

Mae gan y casgliad cyfan potensial ragorol ar gyfer asesu’r cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig ag ymchwilio a dehongli hanes a threftadaeth teulu uchelwrol Prydeinig  sydd â thirddaliadau a dylanwad rhyngwladol, ac archifau ystad a theuluol wedi’u gwasgaru ar draws nifer o leoliadau a sefydliadau. Fel rhan o'r prosiect bu cydweithio agos â thîm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Mount Stewart, gyda’r bwriad o fwydo mewnwelediadau o’r archifau rhyngwladol i mewn i ddehongliad treftadaeth a phrofiad ymwelwyr o’r plasdy.

Mae partneriaid y prosiect wrthi’n archwilio cyfleoedd ymchwil cydweithredol sy’n deillio o’r astudiaeth gwmpasu, gan canolbwyntio ar oblygiadau perchnogaeth ystadau rhyngwladol ar draws ynysoedd Prydain ac Iwerddon.