Dr Mari Elin Wiliam

Darlithydd mewn Hanes Modern a Chymreig

Llun o Dr Mari Elin Wiliam yn yr arch laburnum yng Ngherddi Bodnant.

Mae Dr Mari Elin Wiliam wedi bod yn Ddarlithydd mewn Hanes Modern a Chymreig ym Mhrifysgol Bangor ers 2013, ac mae ei dysgu a’i hymchwil yn canolbwyntio ar yr 20fed ganrif. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn cenedligrwydd a hunaniaeth yng Nghymru, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan gynnwys sut mae’r rhain yn croestorri â natur wledig a bywyd bob dydd. Mae hi wedi cyhoeddi ar bynciau'n ymwneud â datganoli, brenhiniaeth, y diwydiant niwclear a thatŵs. Mae gan Dr Wiliam ystod eclectig o ddiddordebau hanesyddol sy’n cyfateb a rhei Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, gan gynnwys hanes anifeiliaid, hanes bwyd ac astudiaethau tirwedd. Mae hanes llafar yn hollbwysig i'w hymchwil, ac mae wedi gweithio ar brosiect hanes llafar dwyieithog Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru gyda Llwybr Treftadaeth Bodorgan. Mae hi hefyd yn goruchwylio prosiectau doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, gan gynnwys yr rhai sy’n canolbwyntio ar siroedd hanesyddol Dinbych a Fflint, a chroestoraethau tir a chenedlaetholdeb. Mae Dr Wiliam yn aelod o Fwrdd Golygyddol y cylchgrawn hanes Cymraeg, Hanes Byw, ac yn cyfrannu’n gyson i’r cyfryngau Cymraeg. Yn ei hamser hamdden, mae’n arddwr angerddol ac mae ganddi ieir anwes!

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?