Mae Marian yn gweithio ym meysydd ymchwil hanesyddol a dehongli treftadaeth. Datblygodd enw da’n rhyngwladol am ei gwaith ymgynghorol ym maes treftadaeth. Mae ei meysydd arbenigol yn ymwneud â Hanes Pobl Dduon yng Nghymru, hanes a gwaddol caethwasiaeth drawsiwerydd (yn enwedig gan eu bod yn ymwneud â chyflwyniad y safleoedd treftadaeth) a hanes ystad y Penrhyn. Bu’n rheoli portffolio trawiadol o brojectau a mentrau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a ariennir gan grantiau, gan gynnwys projectau diweddar a mentrau datblygu’r sector i Lywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar gynhwysedd, amrywiaeth a chysylltiadau trefedigaethol.
Roedd hi’n aelod o grŵp tasg a gorffen Llywodraeth Cymru dros Y Fasnach Gaethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffau yng Nghymru a bu’n rhan o weithgor Hanes Pobl Dduon yn y cwricwlwm newydd i Gymru yn 2021. Cyfrannodd at yr Adroddiad Interim dylanwadol ar y Cysylltiad rhwng Gwladychiaeth ac Eiddo sydd bellach yng Ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a bu’n hanesydd project i Brifysgol Caerlŷr ar broject Cefn Gwlad Trefedigaethol.
Am nifer o flynyddoedd bu Marian yn gweithio fel Rheolwr Dysgu a Chyfathrebu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ar fwrdd Race Council Cymru, ac mae hefyd yn gweithredu fel Pennaeth Treftadaeth iddo, ac mae’n Aelod o Fwrdd Gweithredol Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru, ac mae’n aelod o Grŵp Llywio Sgiliau Dad-drefedigaethu Cymdeithas yr Amgueddfeydd.
Bu Marian yn gefnogwr brwd i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ers ei sefydlu. Mae’n gweithio gydag Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor ac mae’n cyfrannu darlithoedd a sesiynau arbennig yn rheolaidd at fodiwlau gwahanol ledled Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas. Hi oedd Swyddog Treftadaeth ein project Tu Hwnt i'r Chwarel, a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a hwylusodd ymweliad Uchel Gomisiynydd Jamaica ag Archifau Prifysgol Bangor a Chastell Penrhyn yn 2018.
Mae arbenigedd Marian a’i dulliau ymchwil (hanes cyhoeddus, y cydweithredol, yn seiliedig ar gasgliadau a’r rhyngwladol) yn ei gwneud yn rhan hanfodol o dîm y Sefydliad. Ar hyn o bryd mae hi’n paratoi llyfr sy’n seiliedig ar Bapurau Jamaica yn archif ystad y Penrhyn.