Treuliodd Melvin ei flynyddoedd ffurfiannol ar fferm ei deulu yng ngogledd Sir Drefaldwyn. Ym Mhrifysgol Abertawe ymgymerodd â PhD ar 'Y Gymdeithas Wledig yn Sir Drefaldwyn yn y Ddeunawfed Ganrif' o dan oruchwyliaeth Dr David W. Howell, a arholwyd gan y diweddar Athro G.E. Mingay. Y traethawd ymchwil hwnnw oedd sail cyhoeddi The Crisis of Community: Montgomeryshire, 1680-1815 (Caerdydd, 1996), sy'n parhau’n destun allweddol yn hanesyddiaeth Cymru'r ddeunawfed ganrif ac yn un o'r astudiaethau sylfaenol sy'n llywio ac yn ysbrydoli'r rhaglenni ymchwil a ddatblygwyd gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Prifysgol Bangor. Bu Melvin yn olygydd ar Gasgliadau Sir Drefaldwyn o 1987 i 1999, a chyfrannodd nifer o erthyglau at y cyfnodolyn hwnnw.
Ar ôl gyrfa lwyddiannus mewn llywodraeth leol, mae Melvin bellach yn treulio ei ymddeoliad i ailystyried ac ailgynnau ei ddiddordebau ysgolheigaidd hirdymor, ac mae’n datblygu portffolio ymchwil a chyhoeddi pwysig sy’n canolbwyntio ar hanes cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Sir Drefaldwyn, ac yn arbennig felly ddylanwad y teuluoedd tiriog ac ystadau'r sir. Mae hynny’n cynnwys cyfres o gyhoeddiadau ynglŷn â thai Sir Drefaldwyn: Garth: A Welsh House with Three Histories (ar ddod). Contract gyda Gwasg Prifysgol Cymru am lyfr fel rhan o'i chyfres newydd Race, Ethnicity: Wales and the World a olygwyd gan yr Athro Charlotte Williams a Dr Neil Evans sy’n dwyn y teitl Bryngwyn and Old Hope Pen: A Story of Wales and Jamaica.
Ar ei anterth, roedd Castell Powys yng nghanol un o ystadau mwyaf a mwyaf arwyddocaol Cymru. Ei archif yw’r archif ystadol unigol fwyaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae casgliadau enfawr a chysylltiedig eraill yn Archifau Sir Amwythig, yr Archifau Cenedlaethol a’r Llyfrgell Brydeinig. Gyda Murray Ll. Chapman a chyda chefnogaeth yr Is-iarll Clive a’r Llyfrgell Genedlaethol, yn 2022 rhestrodd Melvin gynnwys tua 250 o flychau a oedd heb eu catalogio o ddeunyddiau Castell Powys sydd yn y llyfrgell. Ar hyn o bryd mae Melvin wrthi’n llunio hanes ystadau Powys, y castell a’r teulu a oedd yn berchen arnynt oddeutu 1660 hyd 1811, ac mae Murray Chapman yntau wrthi’n paratoi hanes y cyfnod cynharach oddeutu 1560 hyd 1660. Dyma astudiaeth hynod amrywiol ac uchelgeisiol sy'n cwmpasu nifer o ddisgyblaethau cydgysylltiedig. Mae'n amrywio o'r cyfnod y bu bron i’r teulu Herbert golli eu treftadaeth oherwydd eu cefnogaeth i Iago II; y colledion rhyfeddol a brofwyd yn ystod y 'Mississippi Bubble’ yn 1719-20, a'r dyledion rhemp a’u plagiai at ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Mae penodau ynglŷn â datblygiad Castell Powys fel plasty, y gerddi a chanfyddiadau twristiaid cynnar ohonynt. Mae pennod neilltuol ynglŷn â theulu perthynol Herbertiaid Cherbury, a'u hystadau yng Nghymru a'u gwladychfa a fu o dan warchae yn ne-orllewin Iwerddon. Mae pennod hefyd ynglŷn â Robert Clive a'i fab, a ffurfio treftadaeth Clive a unodd yn y pen draw ag ystadau Powys. Mae penodau hefyd ynglŷn â gweinyddu ystadau, obsesiwn y teulu â chloddio am blwm, y modd y defnyddiasant eu buddiannau gwleidyddol, a'r ychwanegiadau enfawr at eu hystadau a ddeilliodd o’r amgaeadau seneddol.