Dr Shaun Evans

Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru

Penodwyd Shaun yn Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn 2015 gyda chyfrifoldebau dros oruchwylio rheolaeth, cyfeiriad strategol a datblygiad deallusol y ganolfan ymchwil.

Fe’i magwyd ar ystâd Mostyn yn Sir y Fflint, lle mae ei dad yn gweithio fel coedwigwr. Astudiodd Shaun Hanes yn Efrog cyn ymgymryd â phroject ymchwil doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hunaniaeth linachol teulu ac ystâd y Mostyn yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Yn dilyn dyfarnu ei PhD bu’n gweithio yn y Tîm Ymchwil yn yr Archifau Cenedlaethol, gyda chyfrifoldebau dros raglenni ymchwil a strategaeth ymgysylltu academaidd, cyn dechrau yn ei swydd ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Dr Shaun Evans yn sefyll y tu ôl i ddarllenfa yn rhoi sgwrs i ystafell yn llawn o bobl, gyda baner ISWE yn cael ei harddangos wrth ei ymyl.

Mae Shaun yn hanesydd diwylliant bonedd ac ystadau tirfeddiannol yng Nghymru ar draws y cyfnod c.1500-1900. Mae ei ymchwil ar hanes cymdeithasol a diwylliannol perchnogaeth tir yn cynnig persbectif ar gyfer asesu cwestiynau ehangach am hunaniaeth, treftadaeth, cysylltiadau cymdeithasol, achau a materion yn ymwneud â grym, statws ac awdurdod yng Nghymru. Mae ganddo ddiddordeb hefyd yn y rhyngberthynas rhwng hunaniaethau lleol, Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd, a'r perthynas rhwng 'canolfannau' a’r 'cyrion'. Mae hunaniaethau uchelwrol, y berthynas tirfeddiannwr-tenant a thirweddau ystadau yn ffocysau pwysig i’w waith. Adlewyrchir ei ddiddordeb yn niwylliannau gweledol, materol a pherfformiadol y plastai yn ei astudiaethau ar herodraeth, trysorau teuluol ac arferion coffau, portreadau gwerinol, llyfrgelloedd a pherthnasedd archifau. 

Mae ei ddulliau ymchwil yn eu hanfod yn gydweithredol a rhyngddisgyblaethol. Mae'n mwynhau gweithio gyda phartneriaid treftadaeth ddiwylliannol ar brojectau ymchwil yn seiliedig ar gasgliadau sy'n cael effaith y tu hwnt i'r byd academaidd, gan gynnwys ym maes dehongli treftadaeth. Mae'n eiriolwr cryf dros fethodoleg hanes cyhoeddus ac ymgysylltu'n ystyrlon â'r gymuned. Mae hefyd yn mwynhau goruchwylio projectau doethurol. Mae'r elfennau hyn i gyd wedi'u hymgorffori yn strategaeth a dulliau ehangach Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Y tu hwnt i'w swyddogaethau ym Mhrifysgol Bangor, cadeiriodd Shaun Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru o'i sylfaen ym 2015 tan 2022, roedd yn aelod o Gyngor Cymdeithas Hanes Sir y Fflint o 2013-24, yn Ymddiriedolwr y grŵp Darganfod Hen Dai Cymreig o 2017-24, ac yn Noddwr Cyfeillion Archifau Clwyd o 2017-22. Ar hyn o bryd mae'n Olygydd Adolygiadau ar gyfer y Welsh History Review, aelod o Bwyllgor Ymgynghorol menter CBHC Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, ac yn Aelod o Fwrdd Cynghori’r prosiect Mapio’r Mers Ganoloesol a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd. 

I gysylltu â Shaun gwelwch yr rhan Cysylltu â Ni ar y wefan.

Cyhoeddiadau

2023

2022

2021

2019

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?