Yn 2019 partneriodd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru â Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor i gyd-oruchwylio interniaeth israddedig i archwilio’r dystiolaeth ddogfennol yn ymwneud â hanes y safle.
Daeth Jacob Parry, Myfyriwr Hanes, o hyd I sawl cofnod yn Archifau Prifysgol Bangor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Gwynedd yn ymwneud â hanes ystâd Treborth Isaf.
Caniataodd hyn iddo lunio llinell amser o hanes yr ystâd, gan ymestyn yn ôl i gyfnod ei pherchnogaeth gan y teulu Fletcher yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Trosglwyddodd Treborth Isaf i deulu Brynkir trwy briodas yr aeres Fletcher, Catherine Coetmor Fletcher, â William Brynkir yn 1708. Canfodd Jacob gofeb herodrol i Catherine Brynker yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Merch ac aeres ydoedd i Thomas Fletcher o Dreborth, a gafodd dri mab gyda’i gŵr, ond a fu farw yn 1723 yn 27 oed.
Ym 1833, prynodd Sarah Bicknell o’r Penrhyn Arms a Bodlondeb stad Gorphwysfa ‘a thir i’r gorllewin’, gan gynnwys tiroedd yn Nhreborth. Ym 1846, gwerthodd mab Sarah, Henry Bicknell, rywfaint o dir Treborth i Gwmni Rheilffordd Caer a Chaergybi er mwyn cyrraedd Pont Britannia a ‘Britannia Park’ Joseph Paxton. Mae catalog gwerthiant o 1867 yn disgrifio’r Treborth fel:
‘A beautiful estate [that] enjoys and forms part of one of the finest landscapes in the locality, is charmingly diversified with fine grown timber, and commands fine views of the Snowdonian range of mountains, having the Menai Straits with its far famed suspension and Tubular bridges, with Britannia Park immediately at the Northern Boundary; its situation is so central, being close to the Menai Bridge Station on the Chester and Holyhead, and Bangor and Caernarfon railways, that as a residential property it cannot be surpassed in the Principality.’
Tua'r amser hwn gwerthwyd y stad i'r gŵr busnes a pherchennog llongau o Langefni, Richard Davies (1818-96), a fu'n gwasanaethu fel AS Rhyddfrydol Môn o 1868-86. Gwerthodd J. R. Davies stad 215 erw Treborth yn 1925, pan gafodd ei farchnata fel stad odd yn cynnig:
‘Beautiful and extensive view of the coastline, the bridge, puffin island, Great Orme, and Anglesey. The mansion was built of stone, and is surrounded by mature shrubberies and plantations of ornamental specimen trees. The mansion is approached through massive entrance gates, and is guarded by a most attractive lodge which lies close to the graceful suspension bridge.’
Mae Gardd Fotaneg Treborth bellach yn gorchuddio ardal o 18 hectar o hen stad Treborth Isaf ar lannau’r Fenai ac wedi bod yn eiddo i Brifysgol Bangor ers 1960.
Gan fyfyrio ar yr interniaeth, ysgrifennodd Jacob:
‘This was one of my best experiences at University. I was given a lot of responsibility from day one and felt like I was making a real impact. I was able to meet with important stakeholders, attend meetings, make assets for events, and do my own independent research. It was also just a really amazing place to work and being able to explore the Garden on my breaks was a blessing. I was lucky enough to continue working with Treborth helping to coordinate two of their events after my internship finished. I designed a community consultation survey, ran a stall at events to engage the public with Treborth plans for their Heritage Lottery funding application, and even collaborated with a lecturer from another University to produce a report about the connection between heritage, nature and wellbeing.