Helyntion Beca

Protest cefn gwlad a'i heffaith ar ystadau

Dalun o Merched Beca yn ymladd.

Mae Helyntion Beca yn parhau i fod yn un o'r mudiadau protest mwyaf trawiadol yn hanes modern Cymru. Er mai’r tollbyrth oedd prif darged Beca a’i merched, roedd y protestiadau hefyd yn ymateb i’r hinsawdd economaidd-gymdeithasol, a welodd ddirwasgiad amaethyddol, cynaeafau’n methu, lefelau rhent yn codi, a baich ychwanegol trethi amrywiol. Chwaraeodd y bonedd ran amlwg fel ymddiriedolwyr yr Cwmnïau Tyrpeg (oedd yn gyfrifol am reoleiddio’r tollbyrth), fel ynadon, a landlordiaid, felly daeth yn darged i Beca a’i merched cyn hir.

Yn 2011 cyhoeddodd Dr Lowri Ann Rees erthygl yn yr Agricultural History Review, yn taflu mwy o oleuni ar effaith Helyntion Rebeca ar y bonedd. Edrychodd ‘Paternalism and rural protest: the Rebecca riots and the landed interest of south-west Wales’ i’r modd yr ymatebodd y boneddigion i heriau i’w hawdurdod.

Gan barhau â'r gwaith hwn, mae Dr Rees wedi cyhoeddi astudiaethau o'r rhai a dynnwyd i mewn i'r helyntion. Un oedd y tirfeddiannwr Jane Walters, a ysgrifennodd gyfres o lythyrau at y Swyddfa Gartref yn dilyn ymosodiadau Beca ar ei stad, Glanmedeni. Mae Dr Rees hefyd wedi cyhoeddi astudiaeth fywgraffyddol yn y Dictionary of Labour Biography o John Hughes (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Jac Tŷ Isha), a gafodd ei gludo i Tasmania oherwydd ei ran yn yr helyntion.

Yn 2024 cyhoeddodd Dr Rees cyfrol wedi'i golygu o lythyrau stiward tir ystad Middleton Hall, Thomas Herbert Cooke. Cyd-darodd ei amser yn ne-orllewin Cymru ag anterth yr helyntion. Yn ei lythyrau ysgrifennodd Cooke am yr ymdeimlad o ofn yn y gymuned leol, am dderbyn llythyrau bygythiol, achosion o ymosodiadau Beca ar dollbyrth ac eiddo preifat, ac mae'n cynnwys disgrifiadau iasoer o gyfarfyddiadau â Becaiaid.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?