John Ystumllyn

John Ystumllyn: Gweithdy ar-lein yn dathlu tad presenoldeb Du yng ngogledd orllewin Cymru

Poster ar gyfer digwyddiad o'r enw 'John Ystumllyn: Dathlu Tad Presenoldeb Du yng Ngogledd Orllewin Cymru'.

Ym mis Medi 2021 roedd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch o bartneru gyda Race Council Cymru i drefnu digwyddiad ar-lein arbennig fel rhan o Hanes Pobl Dduon Cymru 365 (Black History Cymru 365).

Nod rhaglen Hanes Pobl Dduon Cymru 365 oedd trefnu digwyddiadau addysgiadol, creadigol a dathliadol i gydnabod y cyfraniadau a wneir gan bobl o dras Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd i hanes a diwylliant lleol, cenedlaethol a byd-eang, trwy gydol y flwyddyn. Gwahoddir pawb, waeth beth fo'u ethnogrwydd neu eu lliw, i gymryd rhan mewn digwyddiadau.

Canolbwyntiodd ein digwyddiad ar fywyd ac etifeddiaeth John Ystumllyn (m.1786), un o'r bobl Dduon gynharaf a gofnodwyd yng ngogledd Cymru. Mae ganddo gysylltiad agos ag ystad Ystumllyn yng Nghricieth. Gwyddom tipyn am ei fywyd diolch i gofiant a gyhoeddwyd gan Robert Isaac Jones (Alltud Eifion, 1813-1905) yn 1888. Mae'n debyg herwgipiodd teulu Wynn o Ystumllyn John yn Affrica neu India'r Gorllewin, gan dod ag ef yn ôl i'r stad yng Nghricieth lle cafodd ei fedyddio a gweithiodd fel garddwr. Yn 1768 priododd John Margaret Gruffydd, un o forynion Ystumllyn, a gafon nhw saith o blant. Bu John hefyd yn gweithio ar stad Maesyneuadd ac ymhen amser rhoddodd Ellis Wynn fwthyn to gwellt yn Nanhyran iddo i gydnabod ei wasanaeth i deulu Ystumllyn. Bu farw John yn 1786 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Ynyscynhaearn, a'i garreg fedd wedi ei harysgrifio ag englyn. Mae ei gofiant cyhoeddedig yn dweud llawer wrthom am ei profiad fel person Du yng ngogledd orllewin Cymru, ymatebion i'w bresenoldeb yn y gymuned a'i brofiadau yn y gymdeithas Gymreig.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys cymysgedd o sgyrsiau llawn gwybodaeth, ymatebion creadigol a thrafodaethau grŵp ar etifeddiaeth John Ystumllyn fel person Du sy’n byw yng ngogledd Cymru.

Y siaradwyr oedd:

  • Zehra Zaidi, arbenigwr datblygu rhyngwladol sydd â diddordeb yn John Ystumllyn.
  • Natalie Jones, athrawes Gymraeg a chyflwynydd S4C o dras Jamaicaidd, y symudodd ei theulu i fyw i Bwllheli pan oedd yn 9 oed.
  • Audrey West, artist gweledol sy’n wreiddiol o Jamaica, a symudodd o Lundain i Gymru yn 2017 i ddilyn ei diddordebau creadigol.
  • Dr Gareth Jones Evans, Darlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor, y mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys y Beibl, caethwasiaeth a diwylliant print crefyddol yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Llywyddwyd y digwyddiad gan Dr. Marian Gwyn a Dr. Shaun Evans a noddwyd yn garedig gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

I ddarllen mwy am John Ystumllyn gweler erthygl Ffion Mair Jones a gyhoeddwyd yn Y Bywgraffiadur Cymraeg.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?