Ar 25 Tachwedd 2018, roedd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth ag Archif Menywod Cymru a Chymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin i gynnal cynhadledd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn canolbwyntio ar fywydau menywod yn hanes ystadau Cymru.
Chwaraeodd menywod ran hollbwysig ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol ystadau Cymru. Trwy eu rolau a’u rhwydweithiau teuluol, ac fel tirfeddianwyr yn eu rhinwedd eu hunain, aeresau, noddwyr diwylliannol, gweision domestig, tenantiaid a gweithwyr amaethyddol, roedd menywod yn ganolog i weithrediad ystadau a phlastai. Roeddent yn aml yn dylanwadu'n fawr ar hunaniaeth a ffawd ystadau unigol, a gallent chwarae rhan arwyddocaol wrth lunio natur y rhyngweithio rhwng y plasty, cymunedau lleol ac agweddau ehangach ar gymdeithas. Mae bywgraffiadau a llwyddiannau rhyfeddol menywod bonedd fel Arglwyddes Llanofer, y chwiorydd Davies o Gregynog, Catrin o Ferain a ‘Merched Llangollen’ yn cael eu cydnabod fwyfwy fel rhannau pwysig o stori Cymru. Yn yr un modd, mae’r diddordeb eang mewn hanes teuluol dros y ddegawd ddiwethaf wedi chwarae ei ran wrth feithrin adnabyddiaeth o fywydau’r miloedd o fenywod a gyflogwyd fel gweision domestig – morynion, cogyddion, ceidwaid tŷ, merched char a nyrsys gwlyb – mewn plasdai. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae cyfraniadau menywod i rolau ac effeithiau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol eang ystadau yng Nghymru wedi’u hanwybyddu’n ddifrifol gan yr hanesyddiaeth sefydledig, sy’n tueddu i gael ei dominyddu gan bortreadau o’r profiad patriarchaidd.
Sefydlwyd y gynhadledd undydd hon i helpu i unioni'r fantol. Ei nod oedd sefydlu ffrâmwaith ar gyfer ymchwil y genhedlaeth nesaf i sut y gall profiadau merched gyfrannu at ddealltwriaeth fwy cynhwysfawr o hanes, diwylliant a thirweddau Cymru.
Roedd y gynhadledd yn rhan o ddathliad penwythnos ac archwiliad o brofiadau a chyfraniadau menywod ar ystâd Neuadd Middleton yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys bywyd y swffragét Alice Abadam (1856-1940).
Roedd y rhaglen yn cynnwys y papurau canlynol:
Sesiwn 1: Rhyw, Llenyddiaeth a Hunaniaeth
- Dr. Mary Chadwick: Th’ Industrious Fair: Women and Wales in 18th century poetry.
- Yr Athro Kirsti Bohata: Poaching & Privilege: Landed gentry, class and gender in Welsh writing in English.
Sesiwn 2: Gerddi, Tirweddau a Chasgliadau
- Jennie Eyers: Penllergare – Plants and Prisms.
- Dr. Jean Reader: ‘Though a lady, her agricultural knowledge and practice far exceeds that of any man in the county’: an examination of the way in which Anne Evans ran the Highmead estate, Cardiganshire, in the late-18thcentury.
- Dr. Ffion Mair Jones: 'Virtuosa o'r wraig…': Arglwyddesau Môn fel casglwyr sbesimenau yn y ddeunawfed ganrif.
Sesiwn 3: Boneddigesau yng Nghymru Fodern Gynnar
- Sadie Jarrett: ‘No stranger to her business’: Gentry women with agency on the Rhug and Bachymbyd estates.
- Helen Williams-Ellis: Catrin o Ferain: ‘Mam Cymru’.
Sesiwn 4: Ail-ddehongli plastai a'u casgliadau
- Heddwen Cadwallader & Rachel Hedge: ‘Petticoats of Power’: A celebration of the women of Llanerchaeron.
Cafodd y gynhadledd yr effaith o drwytho ymchwil Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru â safbwyntiau a phersonoliaethau merched, ac ysbrydolodd sawl prosiect a menter, gan gynnwys arddangosfa yn Storiel yn canolbwyntio ar fywyd a chasgliadau Elizabeth Morgan o Henblas (a gydlynwyd gan Mary Gwynedd Jones), ymgysylltu agos gyda gweithgareddau Archif Menywod Cymru, a’n prosiect catalogio o ohebiaeth y Fonesig Augusta Mostyn.