Cyfarfod Haf Cymdeithas Hynafiaethau Cymru
Cynhelir Cyfarfod Haf Cymdeithas Hynafiaethau Cymru ar ddydd Sul y 29ain o Fehefin i Ddydd Gwener 4ydd o Orffennaf 2025. Y thema eleni yw ‘Gerddi Hanesyddol Gogledd Cymru’, a Bangor fydd y canolbwynt ar gyfer yr wythnos.
Mae’r rhaglen o sgyrsiau a theithiau wedi’i pharatoi gan Jo ac Andrew Davidson, cefnogwyr hirsefydlog Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, ac mae’n argoeli i fod yn wythnos fendigedig sy’n arddangos y gerddi gorau sydd gan ogledd Cymru i’w cynnig. Jo yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru ac ymddeolodd Andrew fel Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd y llynedd. Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch iawn o gael cymryd rhan yn yr wythnos, gyda’r Cyfarwyddwr Dr Shaun Evans yn rhoi darlith ar nos Fawrth 1af Gorffennaf ar destun tai’r teulu Mostyn.
Amlinellir y rhaglen isod:
Dydd Sul 29 Mehefin (prynhawn)
Cyrchfan: ardal Bangor
Ymweliadau â: Castell Penrhyn, Gerddi Botaneg Treborth
Darlith gyda'r nos: Dr Martin Cherry - ‘Tai cynnar Gogledd Cymru a’u lleoliad: rhai mewnwelediadau newydd o ddendrocronoleg’
Dydd Llun 30 Mehefin
Cyrchfan: Gorllewin Sir Gaernarfon
Ymweliadau â: Glynllifon, Plas Brondanw, Portmeirion
Darlith gyda'r nos: Glynis Shaw - ‘Gerddi Gogledd Cymru’
Dydd Mawrth 1 Gorffennaf
Cyrchfan: Dwyrain Sir Gaernarfon
Ymweliadau â: Wern Isaf, Bodysgallen, Nant Clwyd y Dre, Eglwys Llanrhaeadr, ffynnon ac Elusendai, Plas Ucha
Darlith gyda'r nos: Dr Shaun Evans – ‘Tai’r Teulu Mostyn: Achau, Etifeddiaeth a Cenedlgarwch yn Nhirwedd Cymru’
Dydd Mercher 2 Gorffennaf
Cyrchfan: Sir Ddinbych
Ymweliadau â: Plas Mawr, Bodnant, Gwydir
Darlith gyda'r nos: Urddo’r Llywydd a darlith gan yr Athro Huw Pryce
Dydd Iau 3 Gorffennaf
Cyrchfan: Gogledd Ynys Môn
Ymweliadau â: Neuadd Bodorgan, Penrhos, Brynddu, Gerddi Cestyll
Darlith gyda'r nos: Yr Athro Robin Grove-White – ‘Teuluoedd a thai Brynddu a Phlas Coch’
Dydd Gwener 4 Gorffennaf (bore)
Cyrchfan: De Ynys Môn
Ymweliadau â: Plas Newydd, Plas Cadnant
Gall mynychwyr ymuno am yr wythnos gyfan neu ddiwrnodau dethol yn unig, ac mae digonedd o opsiynau ar gyfer llety a phrydau nos. Mae rhagor o wybodaeth a chyfarwyddiadau ar sut i archebu ar gael ar wefan Cymdeithas Archeolegol Cambrian.
