Dafydd Elis-Thomas (1946-2025)
Trist iawn oedd clywed bod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi marw ar 7 Chwefror. Roedd Dafydd yn un o sylfaenwyr ein Bwrdd Ymgynghorol, yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu fel Canghellor Prifysgol Bangor. Penderfynodd gamu lawr o’r Bwrdd ar ôl cael ei benodi’n Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn 2017, ond parhaodd i ddangos diddordeb yn ein hymchwil a’n projectau.
Roedd yn berson hyfryd i sgwrsio ag ef am dreftadaeth, lle, diwylliant a Chymru.
Gellir gweld ysgrif goffa Prifysgol Bangor i Dafydd Elis-Thomas yma.
Rydym yn cofio’n arbennig am ei deulu.
